Dod drwy’r Stormydd – Gwerth cudd Mudiadaau Angori Cymunedol yng Nghymru

Dod drwy’r Stormydd – Gwerth cudd Mudiadaau Angori Cymunedol yng Nghymru

Cyhoeddwyd: 15/04/21 | Categorïau:
Warning: Invalid argument supplied for foreach() in /home2/wcva/ET0KZV18/htdocs/wcva2021/wp-content/themes/designdough/single-view.php on line 62
Awdur: Russell Todd

Mae’r arbenigwr datblygu cymunedol, Russell Todd, un o gyd-ymchwilwyr Weathering the Storms, yr ymchwiliad i Fudiadau Angori Cymunedol yng Nghymru, yn amlinellu eu gwerth, sy’n aml yn gudd ond a gafodd eu hamlygu gan bandemig COVID-19.

Yn ystod pandemig COVID-19, mae amrywiaeth o ymatebion cymunedol llawr gwlad wedi dangos dyfalbarhad, creadigrwydd a chryfder rhyfeddol drwy gynnig cymorth cydfuddiannol, cyfleoedd llesiant, gweithgareddau diwylliannol a mwy i gymunedau. Lle maen nhw’n bodoli, mae Mudiadau Angori Cymunedol wedi bod yn rhan annatod o’r ymateb hwn, rhywbeth y gallaf dystio iddo gan fod y pandemig wedi taro yng nghanol Weathering the Storms, yr ymchwiliad i ‘Angorau’.

Roedd yr ymchwiliad yn dilyn ymlaen o waith ymchwil Productive Margins: regulating for engagement (Saesneg yn unig) (a gyllidwyd gan y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol) a oedd yn dyst i’r hyn a ddigwyddodd i ddau fudiad cymunedol hirsefydlog a oedd yn cyflwyno’r rhaglen Cymunedau yn Gyntaf yn lleol: Ymddiriedolaeth Datblygu Cymunedol 3Gs ym Merthyr Tudful; a Chanolfan Datblygu Cymunedol De Glan yr Afon, Caerdydd.

Yn ogystal â nodi’r hyn a ddigwyddodd iddyn nhw wrth iddyn nhw golli staff ac incwm a cheisio ailsefydlu eu hunain, edrychodd y gwaith ymchwil ar y mudiadau eu hunain: beth oedd yn eu gwneud nhw’n wahanol i fudiadau eraill yn y sector gwirfoddol? Beth maen nhw’n ei wneud? Beth, yn eu tyb nhw, yw eu gwerth?

Daethom i’r casgliad fod llawer o’r hyn yr oedden nhw’n ei wneud ac yn ei werthfawrogi y tu hwnt i olwg gwerthusiadau ffurfiol – ac felly’n ‘gudd’ – ac yn aml yn groes i’r disgwyliadau a’r prosesau afrealistig a osodir gan y llywodraeth.  Gwnaethon ni ddechrau defnyddio’r term ‘Angor’ oherwydd maen nhw wrth wraidd seilwaith cymdeithasol sy’n ymateb mewn lliaws o ffyrdd i bryderon ac uchelgeisiau cymunedol sy’n dod i’r amlwg.  Pan mae eu bodolaeth nhw dan fygythiad, mae gwe o gydberthnasau a phartneriaethau cynhyrchiol sy’n cysylltu unigolion a grwpiau cymunedol bach â’i gilydd dan fygythiad hefyd, ynghyd â mudiadau sydd â’r pŵer a’r adnoddau posibl i wella amgylchiadau bywyd a gwaith pobl.

ANGORAU LEDLED CYMRU

Trodd golygon ein hymchwiliad, Weathering the Storms, at garfan o Angorau ledled Cymru mewn un cyfnod penodol o amser.  Yn gyntaf, gwelsom ddiddordeb o’r newydd mewn canolfannau cymunedol a datblygu canolfannau o’r fath, er nad oedd y dryswch rhwng y rhai a oedd yn cael eu rhedeg a’u perchen gan y gymuned a’r awdurdod lleol yn fawr o gymorth.

Yn ail, gwelwyd fwy o werthfawrogiad am yr economi sylfaenol a’r rôl y mae asiantaethau anwladol yn ei chwarae ynddi.

Yna ceir y bwlch anferth a adawyd gan ddiddymiad graddol Cymunedau yn Gyntaf, heb fawr ddim polisi llywodraethol eglur ar gyfer cymunedau yng Nghymru, a phroses debyg yn digwydd yn y cymunedau gwledig hynny yn y rhaglen LEADER.

Yn olaf, serch ‘tywydd stormus’ COVID a Brexit yn dyrnu cymunedau, gwelir ynysoedd newydd a bychan o weithredaeth a allai ddod yn Angorau yfory.  Wrth adrodd hanes Angorau, clywsom sut roedd llawer wedi ymddangos, drwy anghenraid, i drwsio difrod yr ymosodiadau economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol.

ARSYLWADAU AR ANGORAU CYMUNEDOL

Yn ogystal ag atgyfnerthu llawer o’r hyn a wnaeth ‘Productive Margins’, gwnaethom hefyd arsylwi ar y canlynol.

  • Caiff angorau eu rhedeg ar gyfer y gymuned, gan y gymuned (cymaint â phosibl) ac maen nhw’n atebol i’r gymuned. Ond nid ar chwarae bach mae cael perchenogaeth ac atebolrwydd amdanynt; mae’n cymryd ymdrech anferthol i’w sefydlu a’u cynnal.
  • Caiff angorau eu harwain gan werthoedd. Mae eu cenhadaeth yn llywio popeth y maen nhw’n ei wneud, gan gynnwys strategaeth, cynhyrchu incwm, llywodraethiant, cyfansoddiad bwrdd, staffio, defnyddio adeiladau ac arferion gweithio.
  • Mae angorau mewn sefyllfa dda i ymateb i’r pethau a allai fod eu hangen yn lleol ac mae ganddyn nhw’r gallu i ymateb yn gyflym, yn effeithiol ac yn briodol. Mae bod yn lleol yn amlwg yn helpu, ond eu gwybodaeth arbenigol gyd-destunol, sydd wedi’i meithrin dros y blynyddoedd, sydd wrth eu gwraidd.
  • Er bod yr holl Angorau yn ymwneud ag anghenion nas diwallwyd a materion o ‘bwys’ lleol, roedd pob un wedi’i ddatblygu gyda chydnabyddiaeth eglur o’r asedau a ymgorfforwyd – o bosibl ac yn wirioneddol – gan bobl a lleoedd lleol. Datblygu cymunedol sy’n seiliedig ar asedau yw un o’r arferion craidd.
  • Angorau sy’n adeiladu ac yn meithrin cysylltiadau a chydberthnasau, sef sylfaen – ‘cyfalaf cymdeithasol’ – creu lleoedd ac adeiladau cymunedol lleol
  • Mae rhai Angorau yn ailfeddwl ‘economi’ yn lleol wrth iddynt symud ymlaen o gamu i mewn i ddarparu’r hyn y mae’r wlad neu’r farchnad yn methu eu darparu. Mae hyn yn cyd-fynd â thrafodaethau ehangach ar yr Economi Sylfaenol, ond rydyn ni’n dadlau bod Angorau, yn gyffredinol, yn gydran sy’n cael ei hanwybyddu yn hyn, ac mai dim ond rhanddeiliaid ymylol sydd yn y trafodaethau hyn.
  • Mae annibyniaeth o’r wlad nid yn unig yn un o nodweddion allweddol Angorau, ond mae unrhyw bwerau sydd ganddynt hefyd yn deillio o’r annibyniaeth honno.
  • Roedd pryder ynghylch y ffordd y mae awdurdodau lleol yn cyfethol y term ‘canolfan gymunedol’, sy’n tueddu i fod yn ddim mwy na chyfleusterau ar gyfer lleoli gwasanaethau gyda’i gilydd, ac nid, mewn gwirionedd, yn cael eu harwain gan y gymuned.
  • Er bod y rhan fwyaf o Angorau’n cael eu cyllid o nifer o ffynonellau, mae llawer hefyd yn amheus ynghylch cyfleoedd cyllido sy’n eu tynnu o’u cenhadaeth a’u gwerthoedd craidd. Clywsom am nifer o enghreifftiau o Angorau a oedd yn profi cyfleoedd cyllido posibl yn erbyn eu cenhadaeth a’u gwerthoedd cyn symud ymlaen.
  • Cafodd adeiladau, a’u perchenogaeth, eu crybwyll yn aml fel pethau allweddol ar nifer o lefelau, gan gynnwys rhoi ymdeimlad gweledol o hunaniaeth leol i Angorau; creu lleoedd diogel i fod a chwrdd ynddyn nhw; i gadarnhau ymdeimlad o annibyniaeth. Ond, mae’r pandemig wedi cyflwyno’r her o ddod o hyd i fannau a gweithgareddau eraill er mwyn cyflawni nodau tebyg.
  • Credwyd fod arweinyddiaeth yn allweddol i lwyddiant Angor. Fodd bynnag, roedd angen bod yn ofalus nad oedd hon yn arweinyddiaeth ‘arwrol’ unigol a bod y pwyslais yn cael ei roi ar arweinyddiaeth wasgaredig a chydnabod a meithrin sgiliau arwain drwy gydol y mudiad.
  • Roedd profiadau cymysg o ran partneriaethau â’r sector cyhoeddus, ac un o beryglon partneriaeth oedd y ‘gormes’ rhwng syniadau a dulliau
  • Mae ymdeimlad gwan o hunaniaeth gyfunol gydag Angorau eraill yng Nghymru a dyma pam, ynghyd â phrinder adnoddau ac amser, nad oes gan y garfan benodol hon lais cenedlaethol cyfunol, cryf.

CEFNOGI ANGORAU

Mae ein papur Weathering the Storms wedi’i gyhoeddi ar adeg dyngedfennol. Yn ogystal ag etholiad y Senedd ac etholiadau lleol yn y 15 mis nesaf, mae llawer o siarad ynghylch edrych ar bosibiliadau cymdeithasol, economaidd ac ecolegol newydd ar ôl y pandemig. Gan hynny, rydyn ni’n dadlau bod angen cynyddu nifer a chryfder yr Angorau yng Nghymru (i’r cymunedau hynny sy’n teimlo y gallent fod o fudd iddynt ac yn bendant heb eu gorfodi arnynt), ond bod hyn yn digwydd law yn llaw â mwy o ddadansoddiad a dealltwriaeth o’u cyfraniad – cyfredol a phosibl – i gymdeithas sifil a meddylfryd economaidd sylfaenol.

Mae’n ddadansoddiad sydd wedi’i ddatblygu ymhellach yn yr Alban, lle cawson ni ein synnu gan anallu’r Scottish Community Alliance i ddod o hyd i unrhyw ‘enghraifft o rymuso cymunedol cynaliadwy heb fudiad [angori] tebyg wedi’i ymwreiddio’n lleol’.

Gan ystyried mai Grymuso oedd un o’r tri peth allweddol a nodwyd gan Lywodraeth Cymru ychydig yn ôl fel yr hyn a oedd eu hangen i adeiladu cymunedau mwy gwydn yng Nghymru (ynghyd â’r Blynyddoedd Cynnar a Chyflogadwyedd), mae’n ddatganiad pwerus ac yn un sydd, yn ein tyb ni, yn gorfod cael ei archwilio ymhellach a’i gymhwyso yng nghyd-destun Cymru wrth i ni ailadeiladu ein cymunedau pan fydd y Stormydd diweddar yn gostegu.

Gallwch ddarllen y papur Weathering the Storms yma. (Saesneg yn unig)

Credyd llun:

The People’s Palace: after Magritte.

Glenn Davidson and Chris Coppock, 2018