brocer yswiriant yn siarad am yswiriant gyda arweinwyr mudiad gwirfoddol

Dod allan o’r cyfnod clo – camau nesaf eich mudiad

Cyhoeddwyd: 07/09/21 | Categorïau: Ar gyfer aelodau, Awdur: Garry Dalton

Wrth i’r cyfyngiadau barhau, mae Garry Dalton, Swyddog Gweithredol Cyfrif gyda’r Broceriaid Yswiriant Keegan & Pennykid, yn rhannu ei farn ar yr hyn y dylai mudiadau fod yn ei wneud i baratoi ar gyfer croesawu cyflogeion a gwirfoddolwyr yn ôl i’r gweithle ac ailagor safleoedd.

Mae’n siŵr bod y profiadau y mae pob un ohonon ni wedi’u cael yn ystod y pandemig wedi parhau i fod yn fyw iawn yn ein cof drwy gydol 2021, hyd yn oed gyda’r gobeithion a’r credoau yr oedd gennym ni am ddechreuad newydd a’r disgwyliad y gallem ni ddechrau symud ymlaen â’n bywydau. Ni fu erioed adeg mewn hanes diweddar sydd wedi creu’r heriau rydyn ni wedi’u hwynebu yn sgil COVID19 ac ni fydd llawer o bobl, os unrhyw rai, yn gallu dweud â llaw ar eu calonnau nad ydyn nhw wedi’u heffeithio’n uniongyrchol neu’n anuniongyrchol.

Efallai, gyda’r fantais o wybod yr hyn sydd wedi’i gyflawni hyd yn hyn eleni, byddwn ni’n gallu gweld bod yr optimistiaeth a deimlwyd ar ddechrau 2021 wedi’i gwireddu. Rwy’n credu y gallwn ni edrych yn ôl yn hyderus ar y flwyddyn hon fel un a gyflwynodd ganlyniadau cadarnhaol yn yr ymateb i’r pandemig, er na allwn ni fyth anwybyddu’r aberthau a wnaed i’n cael ni at y pwynt hwn.

Credir yn eang hefyd fod y rhaglen frechu yn y DU wedi bod yn llwyddiannus ac mae hyn, yn bendant, wedi dod â rhywfaint o normaledd yn ôl i ni i gyd. Os byddwn yn parhau i fod yn wyliadwrus, yn dilyn arferion da ac yn gorfodi safonau hylendid gwell, gallwn ennill y frwydr ac efallai, o bosibl, un diwrnod, y rhyfel yn erbyn COVID-19.

Fodd bynnag, rhaid dal ati i fod yn ofalus, gan fod cyfrifoldeb ar bob un ohonom i gydnabod y bydd angen cadw rheolaeth yn barhaus ar y feirws a’i atal rhag lledaenu.

RHEOLI RISG

Mae dull synnwyr cyffredin o reoli risg yn aml yn pennu proses symlach ar gyfer asesu risgiau ac, yn ei dro, dull mwy trefnus o reoli’r risgiau hynny sydd wedi’u nodi. Mae pob un ohonom yn gwybod beth yw’r gofynion penodol o ran cadw pellter cymdeithasol, hunanynysu, diheintio ac ati. Wedi’r cyfan, dyma’r penawdau rydyn ni’n eu gweld bob dydd. Ond, mae’n bosibl y bydd y materion rheoli risg eraill yr oedd ein bywydau’n canolbwyntio arnyn nhw cyn y coronafeirws, wedi cilio i’r cefndir, neu hyd yn oed, ein bod ni wedi tynnu ein sylw oddi arnyn nhw, wrth i ni ddysgu ac addasu i fyd COVID?

PARATOI’R GWEITHLE

Felly, i’r rheini ohonom a fydd yn dychwelyd i safleoedd gwaith dros yr wythnosau a’r misoedd nesaf, byddwn yn parhau i gymryd rhagofalon priodol a dilyn y canllawiau. Bydd angen ystyried y paratoadau ar gyfer dychwelyd i’r gwaith yn ddiogel hefyd. Os yw’r safle wedi’i gau a neb wedi bod yn archwilio’r lle am gyfnod hir, byddai’n ddoeth archwilio’r gweithle’n drylwyr cyn i’r staff ddychwelyd ac, wrth gwrs, cyn i unrhyw ymwelwyr ddod yn ôl.

Mae’n arfer da rhoi sylw i doeau a chafnau ar ôl pob gaeaf. Mae’n bosibl fod stormydd wedi symud teils a bod dail sydd wedi syrthio wedi mynd i gwteri, gan eu blocio efallai. Dylid clirio llwybrau mynediad ac ardaloedd eraill i gerddwyr. Hefyd, dylid glanhau’r llwybrau a’r grisiau a chlirio unrhyw ddail sydd efallai wedi bod yno ers peth amser. Efallai y bydd angen trefnu glanhawyr proffesiynol i lanhau palmentydd sydd wedi colli eu lliw, oherwydd gallant fod yn llithrig iawn mewn tywydd gwlyb. Os yw’r ardaloedd i gerddwyr wedi dirywio, o bosibl oherwydd rhew, yna mae’n fwy posibl y bydd rhywun yn llithro, baglu a syrthio a rhaid rhoi sylw i atal digwyddiadau o’r fath.

A beth am eich cyflenwadau cyfleustodau? Ydy’r rhain yn gweithio fel y byddech chi eisiau iddyn nhw wneud? Os ydych wedi bod yn ddarbodus wrth ddraenio systemau dŵr, er mwyn ceisio osgoi pibellau’n byrstio, bydd angen ail-lenwi’r rhain a gwneud yn siŵr nad oes dim byd yn gollwng. Os oes gennych chi systemau canfod tân ac atal lladron wedi’u gosod, ydyn nhw’n gweithio’n iawn?  Oherwydd y cyfyngiadau symud, mae’n bosibl bod unrhyw archwiliad blynyddol rheolaidd wedi cael ei fethu, sy’n golygu bod archwiliad o’r fath yn hwyr. Mae hyn yr un mor berthnasol i archwilio lifftiau, peiriannau a chyfarpar yn statudol.  Wrth i’r cyfyngiadau lacio, mae’n bosibl y bydd llai o gapasiti i wneud y gwaith hanfodol, felly dylech gynllunio’n ofalus ymlaen llaw i wneud yn siŵr bod hyn wedi cael ei wneud – cyn i chi ailagor, yn ddelfrydol.

Nid oes dianc rhag yr angen am asesiadau risg priodol ar draws yr holl weithrediadau a gweithgareddau rydych yn eu gwneud. Os ydych chi wedi dechrau, neu’n bwriadu dechrau, gweithgareddau newydd, dylech wneud yn siŵr bod unrhyw un sy’n gysylltiedig â hynny yn cael hyfforddiant priodol, a’ch bod chi hefyd yn dogfennu’r hyfforddiant hwn yn llawn. Yn wir, mae’r trywydd papur yn gwbl angenrheidiol os digwydd colled, difrod neu anaf. Heb hyn, mae’r tebygolrwydd o amddiffyn hawliad yn llwyddiannus yn lleihau’n sylweddol.

YSWIRIANT

Ac yn olaf, gwnewch yn siŵr bod eich yswiriant yn dal yn briodol ar gyfer anghenion presennol eich mudiad a’r anghenion yn y dyfodol.  Mae hyn yn arbennig o bwysig os yw gweithgareddau eich sefydliad wedi dod i ben dros dro yn ystod y cyfyngiadau symud a bod eich yswiriant wedi cael ei atal dros dro.  Yn yr un modd, rhowch wybod i’ch brocer yswiriant os yw eich sefydliad yn bwriadu arallgyfeirio ei weithgareddau (neu os yw eisoes wedi gwneud hynny) mewn ymateb i’r pandemig.

Mae Keegan & Pennykid yn frocer yswiriant blaenllaw ac arbenigol ar gyfer y trydydd sector, ac mae wedi bod yn gweithio gyda CGGC a’r sector gwirfoddol yng Nghymru ers 1998.

I gael cymorth a chyngor arbenigol, cysylltwch â’n tîm elusennau ar 0800 731 8030 (opsiwn 2) neu anfonwch e-bost at enquiries@keegan-pennykid.com.

Gwefan: www.keegan-pennykid.com