Yma, mae Jen Evans o fudiad Crowd Cymru yn dweud wrthym ni sut mae eu prosiect archifo digidol yn galluogi gwirfoddolwyr o bedwar ban byd i gloddio i hanes cyfoethog Cymru.
Prosiect gwirfoddoli digidol yw Crowd Cymru sy’n harneisio gwybodaeth eithriadol unigolion ledled Cymru – a thu hwnt – i helpu i wella’r wybodaeth am ein casgliadau archif digidol.
EDRYCH AR HANES CYMRU
Daw ein gwirfoddolwyr o bob cwr o’r byd ac maen nhw’n cymryd rhan ar-lein drwy blatfform cyfrannu torfol digidol a dwyieithog a sefydlwyd gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru. Mae’r platfform hwn yn galluogi gwirfoddolwyr o bell i weithio ar gasgliadau digidol.
Mae gan y gwasanaethau archifo ledled Cymru filiynau o gofnodion na ellir eu hamnewid, ond dim ond y catalogio lleiaf sydd wedi’i wneud ar lawer ac maen nhw’n anodd eu hadnabod ac yn anodd dod o hyd iddynt. Mae ein prosiect ni’n harneisio gwybodaeth pobl ledled Cymru a thu hwnt i gyfoethogi ein treftadaeth gyfunol er budd y genhedlaeth hon a chenedlaethau’r dyfodol – yn lleol, yn genedlaethol ac yn fyd-eang.
Mae sgiliau digidol a chynhwysiant digidol yn flaenoriaethau allweddol i Lywodraeth Cymru, ac rydym yn helpu pobl i wneud y defnydd gorau o dechnolegau digidol a datblygu eu sgiliau o ran chwilio am gyfleoedd yn y gweithle ac er llesiant.
DATBLYGU SGILIAU DIGIDOL
Rydym hefyd yn gwella cyfleoedd i wasanaethau archifo ddatblygu modelau newydd ar gyfer gwirfoddoli o bell, heb fod angen teithio, sy’n cefnogi uchelgais Llywodraeth Cymru i leihau ein hôl troed carbon.
Un o’r casgliadau cyntaf y gwnaeth ein gwirfoddolwyr weithio arno oedd trawsgrifio cofnodion ingol yn nyddiadur y bardd Rhyfel Byd Cyntaf, Edward Thomas. Daeth y casgliad hwn o Gasgliadau Arbennig ac Archifau Prifysgol Caerdydd ac roeddent yn boblogaidd iawn.
Archif Edward Thomas (Casgliadau Arbennig ac Archifau Prifysgol Caerdydd)
Gwnaeth un o’n gwirfoddolwyr hyd yn oed ganolbwyntio ei phrosiect terfynol ar gyfer ei MA mewn Celfyddyd Gain ar archwilio archif a chof, a oedd yn seiliedig ar Edward Thomas a’i wraig, Helen.
HANES CYFOETHOG
Mae gwirfoddolwyr hefyd wedi bod yn trawsgrifio casgliad o ddogfennau archifol sy’n eiddo i deulu Rolls y 19eg ganrif o’r Fenni. Un o’r casgliadau mwy diddorol yn yr archif hwn yw cyfres o gofnodion gwyliau a ysgrifennwyd gan Georgiana Marcia Rolls, yr aeth ei mab ieuengaf, Charles Stuart, ymlaen i fod yn gyd-sylfaenydd Rolls-Royce.
Dyddiadur Georgiana Marcia Maclean, 1886, Archif Teulu Rolls (Archifau Gwent)
Mae ei dyddiaduron cyfareddol yn gyfuniad o destun ysgrifenedig a darluniau inc sy’n dangos amser hamdden teulu cyfoethog wedi’u sbwylio i’r dim.
Yn ogystal â thrawsgrifio, mae ein gwirfoddolwyr hefyd yn gweithio ar dagio a disgrifio casgliadau ffotograffig. Ar y foment, maen nhw’n gweithio ar gasgliad o luniau o Ben-y-bont ar Ogwr a Bro Morgannwg o ddechrau’r 20fed ganrif sydd yn Archifau Morgannwg.
Porthdy Merthyr Mawr yn y Gaeaf gan Edwin Miles (Archifau Morgannwg)
Maen nhw’n gwneud yr un peth gyda chasgliad ffotograffig mawr sy’n olrhain hanes Prifysgol Caerdydd ac yn cyflwyno cofiannau gweledol diddorol iawn o fyfyrwyr a staff sy’n mynd yn ôl i 1883.
Dosbarth optometreg tua 1970 Archif Sefydliadol Prifysgol Caerdydd
(Casgliadau Arbennig ac Archifau Prifysgol Caerdydd)
BUDDSODDI YN Y GORFFENNOL A’R DYFODOL
Mae wedi cymryd cryn amser i gynyddu ein grŵp o wirfoddolwyr ac rydym yn gweithio’n galed i gadw’u diddordeb. Gwyddom o’r adborth eu bod yn gweld y math hwn o waith yn wobrwyol tu hwnt ac maen nhw’n elwa ar gynorthwyo gwaith archifau yng Nghymru, gan rannu diddordebau cyffredin a gweithio ochr yn ochr â phobl o’r un anian.
Maen nhw hefyd yn mwynhau cael mynediad at hyfforddiant a gwell sgiliau llythrennedd TG. Mae mynediad at luniau a dogfennau hanesyddol hefyd o fudd, ynghyd â phrofiad ymarferol, gwerthfawr o weithio gydag archifau digidol.
Rydym yn cynnig hyfforddiant un-i-un, digwyddiadau cymdeithasol ar-lein a Grŵp Facebook caeedig i wirfoddolwyr cofrestredig. Mae gennym hefyd gyfrif X byw i hyrwyddo cynnydd, amlygu casgliadau a hybu cymorth i gyfrifon archif, llyfrgell, amgueddfeydd a threftadaeth eraill.
RHAGOR O WYBODAETH
Wedi’i sefydlu yn 2022, mae Crowd Cymru yn brosiect archifau digidol gwirfoddol a gyllidir gan Lywodraeth Cymru a’i redeg ar y cyd gan y mudiadau partner canlynol: Casgliadau Arbennig ac Archifau Prifysgol Caerdydd, Archifau Sir Gaerfyrddin, Archifau Conwy, Archifau Morgannwg, Archifau Gwent, Llyfrgelloedd ac Archifau Prifysgol Abertawe a Chasgliadau Arbennig ac Archifau Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant.
Gellir darllen mwy am ein gweithgareddau yn ystod y tair blynedd ddiwethaf, gan gynnwys cyflwyniadau, erthyglau a phodlediadau, drwy ein tudalen prosiect.
EISIAU CYMRYD RHAN?
Ydych chi’n credu y gallai fod gennych ddiddordeb mewn ymuno â Crowd Cymru?
Os ydych, cysylltwch â ni. Rydyn ni’n fwy na bodlon dod i siarad â grwpiau a/neu drefnu gweithdai, wyneb yn wyneb os yn bosibl neu ar-lein. Mae ein cyfnod cyllido presennol yn dod i ben ar 31 Mawrth 2025, felly peidiwch ag oedi!
E-bost: jennifer.evans@gwentarchives.gov.uk
Ffôn: 01495 742450