Gyda chylch gyntaf newidiadau Deddf Hawliau Cyflogaeth (ERA) 2025 bellach ar waith, mae’r cyfreithiwr cyflogaeth Rachel Ford-Evans yn crynhoi’r newidiadau a’r trafferthion posibl i’r sector gwirfoddol.
Y SEFYLLFA BRESENNOL AC EDRYCH YMLAEN
Mae nifer o newidiadau eisoes wedi’u gwneud i’r Ddeddf Hawliau Cyflogaeth (ERA) ym mis Ebrill 2026, ond ni fydd rhai eraill yn dod i rym tan yn ddiweddarach eleni ac i mewn i 2027. O safbwynt llywodraethu a chydymffurfiaeth, mae’n bwysig bod yn ymwybodol o’r newidiadau hyn sydd ar ddod a gweithredu nawr i amddiffyn eich gweithlu a’ch mudiad.
Wrth siarad am y newidiadau hyd yma a’r rhai i ddod, dywedodd Carys Hedd Paschalis, Cyfarwyddwr Cynorthwyol Pobl a Diwylliant CGGC:
‘Mae’r newidiadau hyn yn bwysig i bob mudiad gwirfoddol, beth bynnag fo’i faint. Gydag adnoddau eisoes wedi’u hymestyn, bydd cymryd amser nawr i ddeall y diwygiadau, adolygu polisïau a chefnogi rheolwyr yn helpu mudiadau i amddiffyn eu pobl, cyflawni eu cyfrifoldebau ac osgoi mwy o bwysau yn nes ymlaen’.
ARWYDDOCÂD YR OES I’R SECTOR GWIRFODDOL
Er bod llawer o newidiadau’r ERA yn berthnasol i bob cyflogwr, ni ddylid diystyru eu harwyddocâd i’r sector gwirfoddol, sydd eisoes o dan straen aruthrol gyda’r costau gweithredu uwch a chyllid tynn. Bydd rhai o’r newidiadau yn gofyn i fudiadau gwirfoddol weithredu’n gyflym i ddiwygio eu polisïau a hyfforddi eu rheolwyr neu fod mewn perygl o beidio â chydymffurfio.
Yn gofod3 2026 CGGC, cyflwynodd Fflur Jones, Partner Rheoli Darwin Gray, sesiwn ar ‘yr hyn y mae angen i bob elusen ei wybod’ am Ddeddf Hawliau Cyflogaeth 2025 (gweler y llun). Roedd hwn yn gyfle gwych i’r rheini yn y sector gwirfoddol glywed yn uniongyrchol am y newidiadau mwyaf perthnasol i elusennau a’u paratoi â’r adnoddau angenrheidiol i amddiffyn eu gweithlu i’r dyfodol.
NEWIDIADAU HAWLIAU CYFLOGAETH YN 2026
Dyma’r newidiadau sydd wedi’u cyflwyno i hawliau cyflogaeth hyd yn hyn:
Hawliau/absenoldeb teuluol
- Absenoldeb Tadolaeth – nawr yn hawl o ddiwrnod 1.
- Absenoldeb Rhieni – nawr yn hawl o ddiwrnod 1.
- Absenoldeb Tadolaeth ar ôl Profedigaeth Partner (BPPL) – wedi’i gyflwyno ochr yn ochr â’r ERA drwy Ddeddf Absenoldeb Tadolaeth (Profedigaeth) 2024.
Ymgynghoriadau diswyddo ar y cyd
- Cynyddu’r gosb fwyaf (y ‘dyfarniad amddiffynnol’) am dorri’r gofynion ymgynghori ar ddiswyddo ar y cyd o 90 diwrnod o dâl i 180 diwrnod o dâl fesul cyflogai.
Aflonyddu rhywiol
- Cwynion am aflonyddu rhywiol yn cael eu trin bellach fel math o ‘ddatgeliad gwarchodedig’ ac yn destun amddiffyniad chwythu’r chwiban.
Tâl salwch statudol (SSP)
- SSP yn daladwy ar ddiwrnod cyntaf salwch bellach.
- Terfyn enillion is wedi’i ddileu (cyfradd SSP yw 80% o enillion cyflogai neu’r gyfradd safonol statudol, pa un bynnag sy’n is).
Cynlluniau gweithredu cydraddoldeb
Wedi’i gyflwyno ar sail wirfoddol am y tro (bydd yn dod yn orfodol yn 2027):
- Cynlluniau Gweithredu Cydraddoldeb ar gyfer y Bwlch Cyflog rhwng y Rhywiau a’r Menopos.
- Bydd yn ofynnol i gyflogwyr mawr (250+ o gyflogeion) fanylu ar y camau seiliedig ar dystiolaeth y maen nhw’n eu cymryd i wella cydraddoldeb rhywiol.
- Bydd angen i gyflogwyr gyhoeddi ‘Cynllun Gweithredu Cydraddoldeb’, yn ogystal ag enwi’r darparwyr y mae ganddynt gontract â nhw ar gyfer gwasanaethau allanol.
NEWIDIADAU SYDD I DDOD – HYDREF 2026 A THU HWNT
Y newidiadau hawliau cyflogaeth sy’n dod ym mis Hydref 2026:
Aflonyddu rhywiol ac aflonyddu
- Bydd y ddyletswydd i gymryd ‘camau rhesymol’ i atal aflonyddu rhywiol yn newid i ddyletswydd i gymryd pob cam rhesymol.
- Bydd cyflogwyr yn uniongyrchol atebol am unrhyw fath o aflonyddu trydydd parti (nid aflonyddu rhywiol yn unig o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010) tuag at staff gan drydydd partïon (e.e. defnyddwyr gwasanaethau, cleientiaid, contractwyr, cyflenwyr, neu weithwyr asiantaeth) oni bai bod cyflogwr yn cymryd camau rhesymol i’w atal.
Undebau Llafur
- Gofyniad i hysbysu gweithwyr o’u hawl i ymuno ag undeb llafur o ddiwrnod 1 eu cyflogaeth.
- Mwy o hawliau mynediad gan undebau llafur i weithleoedd.
- Bydd cyflogeion yn cael mwy o amddiffyniad rhag anfantais yn sgil gweithredu diwydiannol.
Terfynau amser tribiwnlys cyflogaeth
- Bydd y dyddiad cau i gyflogeion ddechrau proses Tribiwnlys Cyflogaeth os oes ganddynt gŵyn yn erbyn eu cyflogwr yn dyblu o dri i chwe mis.
Y newidiadau mwyaf a ddisgwylir yn 2027 yw:
Diswyddo annheg
- Bydd gan bob cyflogai sydd wedi gweithio i’w cyflogwr yn barhaus am chwe mis (i lawr o’r ddwy flynedd bresennol) hawliau diswyddo annheg llawn.
- Bydd y cap ar iawndal am hawliadau diswyddo annheg (cyflog blwyddyn ar hyn o bryd) yn cael ei ddileu.
- Bydd diswyddo ac ail-ymgysylltu (‘diswyddo ac ailgyflogi’) yn cael ei wneud yn anghyfreithlon ac eithrio mewn amgylchiadau cyfyngedig iawn.
Gweithwyr achlysurol/contractau sero-awr
- Bydd gan weithwyr yr hawl i gael cynnig oriau gwaith gwarantedig ar ôl 12 wythnos o weithio i gyflogwr, a phob 12 wythnos ar ôl hynny.
- Hawl newydd i iawndal am sifftiau wedi’u canslo neu eu cwtogi ar fyr rybudd.
Hawliau teuluol
- Mwy o ddiogelwch i gyflogeion sydd ar, neu wedi dychwelyd yn ddiweddar o absenoldeb mamolaeth a mathau eraill o absenoldeb teuluol rhag cael eu diswyddo.
- Cyflwyno hawl newydd i absenoldeb profedigaeth yn dilyn marwolaeth aelod agos o’r teulu.
BETH DDYLAI MUDIADAU EI WNEUD NAWR?
Mae llawer o fudiadau gwirfoddol eisoes yn dda iawn am gynnal hawliau eu cyflogeion a dangos arfer gorau yn y meysydd y mae’r ERA yn ymdrin â nhw. Fodd bynnag, bydd natur benodol rhai o’r newidiadau yn gofyn i fudiadau ddiweddaru polisïau, rhoi hyfforddiant, a sicrhau bod ymddiriedolwyr yn deall eu rhwymedigaethau yn y meysydd hyn. Bydd hyfforddiant i staff a rheolwyr yn arbennig o bwysig o ran y diwygiadau diswyddo annheg a’r ddyletswydd i atal aflonyddu rhywiol.
CYMORTH SYDD AR GAEL GAN DARWIN GRAY
Mae tîm cyfraith cyflogaeth Darwin Gray yn cynorthwyo llawer o fudiadau i adolygu a diweddaru contractau a pholisïau, gan gynnwys cynnig pecyn ffi sefydlog sy’n ‘cydymffurfio â’r ERA’ i gyflogwyr.
Mae’r tîm hefyd yn cynnig hyfforddiant rheolaidd i gyflogwyr, timau adnoddau dynol a byrddau ymddiriedolwyr i’w helpu i gydymffurfio â’r newidiadau a chael arferion adnoddau dynol yn iawn.
Os oes angen cymorth arnoch gyda’r ERA a’r newidiadau i ddod yn y gyfraith cyflogaeth, cysylltwch â Rachel ar rford-evans@darwingray.com neu ar 02920 829 100.