Diwrnod Rhyngwladol y Menywod – esgidiau glaw gwynion ac esgidiau piws

Diwrnod Rhyngwladol y Menywod – esgidiau glaw gwynion ac esgidiau piws

Cyhoeddwyd: 08/03/21 | Categorïau:
Warning: Invalid argument supplied for foreach() in /home2/wcva/ET0KZV18/htdocs/wcva2021/wp-content/themes/designdough/single-view.php on line 62
Awdur: Ruth Marks

I nodi Diwrnod Rhyngwladol y Menywod mae Ruth Marks, Prif Weithredwr CGGC yn sôn am arwyddocâd personol y diwrnod iddi hi o ran ei gorffennol, ei phresennol a’i dyfodol.  

Ar drothwy Ddiwrnod Rhyngwladol y Menywod 2021 bûm yn myfyrio ynglŷn â’r hyn mae’r diwrnod yn ei olygu i mi. Mae fy meddyliau wedi trefnu eu hunain mewn tair ffordd.

Yn gyntaf – atgofion o brosiectau a gwaith y gorffennol, yn ail – materion presennol, ac yn drydydd – edrych tua’r dyfodol.

Y GORFFENNOL

Mae fy atgofion cynharaf o wneud rhywfaint o waith yn gysylltiedig â Diwrnod Rhyngwladol y Menywod yn dyddio ’nôl i fy nghyfnod yn gweithio yn y diwydiant adeiladu. Tra’n gweithio i Fwrdd Hyfforddi’r Diwydiant Adeiladu yn yr 1990au roeddwn i’n gyfrifol am hyrwyddo gyrfaoedd mewn adeiladu a phroffesiynau perthynol i ferched a menywod.

Roedd yn hynod galonogol gweld bod cyflogwyr mawr yn awyddus i gyflwyno’r ystod o swyddi a gyrfaoedd sydd ar gael yn y rhan hon o’r economi. Yn ddiddorol, yn aml iawn y cwmnïau bychain, busnesau teuluol, oedd yn medru cynnig cyfleoedd i ferched ac wyresau i ddilyn yn nhraddodiad y teulu.

Un nodwedd oedd yn codi fy ngwrychyn oedd y ffaith i mi gael pâr o esgidiau glaw gwyn â chapiau troed dur er mwyn ymweld â safleoedd adeiladu mwdlyd. Roeddwn i’n ddiolchgar o’r dillad amddiffynnol ond yn dymuno bod fy esgidiau glaw yr un lliw â rhai fy nghydweithwyr gwrywaidd. Tybed pwy wnaeth y penderfyniad i’w prynu nhw?

Rai blynyddoedd yn ddiweddarach roeddwn i’n ymwneud â hyrwyddo Opportunity 2000. Ymgyrch oedd hon i gefnogi menywod gyda datblygu gyrfa, trwy ganfod ffyrdd trwy, o gwmpas ac yn gysylltiedig â’r nenfwd gwydr.

O ganlyniad i weithio gyda rhai o’r cyflogwyr mwyaf yn y DU ar y pryd a chysylltu â’r Comisiwn Cyfle Cyfartal cafwyd sgyrsiau a mewnwelediadau diddorol iawn.

Roedd y diddordeb a’r gefnogaeth gan yr UE hefyd o gymorth mawr, ac fe alluogodd gysylltiadau da â swyddogion ac ASEau – perthnasau sy’n parhau, er ar wahanol ffurfiau, hyd heddiw.

Yn Chwarae Teg, y brif asiantaeth datblygu economaidd i fenywod, roedd y gwaith o herio stereoteipiau a hyrwyddo’r cydbwysedd bywyd a gwaith wrth wraidd ein gweledigaeth.

Datblygodd prosiectau defnyddiol eraill gyda phartneriaid yr Undebau Llafur a chyflogwyr mewn perthynas â’r heriau a wynebai menywod wrth jyglo cyfrifoldebau gofalu am blant a pherthnasau hŷn. Rwy’n gwybod bod y gwaith hwnnw’n parhau heddiw.

Y PRESENNOL

Dyna dipyn o edrych yn ôl – ond beth am nawr?

Rwy’n gweithio gyda nifer o fenywod yn y sector gwirfoddol. Menywod sy’n gwirfoddoli dros achosion maen nhw’n angerddol amdanynt, codwyr arian ymroddedig, ymgyrchwyr dylanwadol, aelodau pwyllgorau ymroddedig. Mae llawer o fenywod yn gweithio yn y sector hefyd, ac yn gweld bod y gwaith yn hyblyg ac yn werth chweil.

Yn anffodus, nid yw’r profiad yr un peth i bawb ac mae’n hollol iawn bod ffocws pendant yn cael ei roi ar herio hiliaeth, hyrwyddo gwaith cynhwysol a chyfleoedd gwirfoddoli a chynyddu amrywiaeth.

Rwy’n falch o fod ynghlwm yn y rhaglen fentora sy’n cael ei harwain gan Rwydwaith Cydraddoldeb Menywod Cymru. Bu hefyd yn dda cynnig cefnogaeth i secondiad un o’n uwch-reolwyr benywaidd i elusen flaenllaw er mwyn ennyn profiad o redeg mudiad. Mae Judith Stone yn cwblhau secondiad   fel Rheolwr Gyfarwyddwr Aren Cymru ac edrychwn ymlaen at ei chroesawu yn ôl i CGGC a chlywed am bopeth mae hi wedi’i ddysgu.

Y DYFODOL  

Felly beth nesaf?

Rydym ar hyn o bryd yn cymryd rhan yn rhaglen Cenedl Hyblyg 2 a redir gan Chwarae Teg. Byddwn yn awyddus i ddefnyddio’r hyn a ddysgwn o’r rhaglen hon yn ein cynllun gweithredu EDI (Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant).

Rydw i wir yn gobeithio y bydd y gwirfoddolwyr, staff ac ymddiriedolwyr iau sydd ynghlwm â CGGC yn parhau i dyfu mewn nifer a chynyddu momentwm a’n bod yn gwrando’n ofalus ar eu safbwyntiau a’u hawgrymiadau.

Mae cysylltiadau byd-eang hefyd yn bwysig gan nad oes gan gymaint o fenywod a merched ar draws y byd fynediad i’r hawliau a’r cyfleoedd sydd gennym ni yng Nghymru ac yn y DU.

Mae Diwrnod Rhyngwladol y Menywod yn rhoi achos i ni ddathlu rôl menywod ym mhob agwedd o fywyd ac i gydnabod y gwaith sydd angen ei wneud o hyd er mwyn hyrwyddo cydraddoldeb ym mhobman.

ESGIDIAU PIWS

Ac i gloi, beth yw ystyr y cyfeiriad at esgidiau piws yn y teitl?

Fel Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru byddai fy nghydweithwyr a minnau’n aml yn trafod pa fath o esgidiau oedd gen i er mwyn herio rhagfarn ar sail oedran a sefyll dros hawliau pobl hŷn. Ar Ddiwrnod Rhyngwladol y Menywod un flwyddyn, rhoddodd y tîm bâr o esgidiau glaw piws i mi i gefnogi ein penderfyniad i hyrwyddo cydraddoldeb i fenywod hŷn. Mae hyn cyn bwysiced heddiw ag yr oedd bryd hynny.

Fe ddylwn i gyfeirio at un lliw arall, yn ogystal â gwyn a phiws, sef gwyrdd. Cysylltir y tri lliw yma â mudiad y Swffragetiaid. Roedd piws yn cynrychioli teyrngarwch ac urddas, gwyn yn cynrychioli purdeb a gwyrdd yn cynrychioli gobaith. Ac mae angen gobaith arnom ni i gyd, yn enwedig ar hyn o bryd.

Dymunaf Ddiwrnod Rhyngwladol y Menywod Da i bawb sy’n ymroddedig i gydraddoldeb yn 2021.

Ceir rhagor o wybodaeth am Ddiwrnod Rhyngwladol y Menywod a sut i gymryd rhan ar: www.internationalwomensday.com.