Mae Alison Pritchard, Pennaeth Cymorth yn CGGC, yn siarad am werth y Cod Llywodraethu i Elusennau a pham mae’n bwysig i elusennau yng Nghymru gymryd rhan yn yr ymgynghoriad presennol i’w ddiweddaru.
Y COD LLYWODRAETHU I ELUSENNAU
Adnodd ymarferol yw’r Cod Llywodraethu i Elusennau i helpu elusennau a’u hymddiriedolwyr i ddatblygu safonau llywodraethu uchel.
Mae’r Cod yn gosod yr egwyddorion a’r arferion a argymhellir ar gyfer llywodraethu da ac yn ceisio’n fwriadol i fod yn uchelgeisiol: bydd rhai elfennau o’r Cod yn anodd i lawer o elusennau eu cyflawni. Mae hyn yn fwriadol: mae’r Cod wedi’i gynllunio i fod yn adnodd i wella’n barhaus er mwyn cyflawni’r safonau llywodraethu uchaf.
Mae CGGC yn aelod o grŵp llywio’r Cod. Rydym yn helpu i lywio cynnwys y Cod ar sail ein profiad o gynorthwyo elusennau a mudiadau gwirfoddol o bob rhan o Gymru gyda’u llywodraethu da.
YR EGWYDDORION
Mae saith egwyddor i’r cod:
- Diben sefydliadol – Mae’r bwrdd yn glir ynghylch nodau’r elusen ac yn sicrhau bod y rhain yn cael eu cyflawni’n effeithiol ac mewn modd cynaliadwy.
- Arweinyddiaeth – Mae pob elusen yn cael ei harwain gan fwrdd effeithiol sy’n rhoi arweinyddiaeth strategol yn unol â nodau a gwerthoedd yr elusen.
- Uniondeb – Mae’r bwrdd yn ymddwyn ag uniondeb. Mae’n mabwysiadu gwerthoedd, yn dilyn egwyddorion moesegol wrth wneud penderfyniadau ac yn creu diwylliant croesawgar a chefnogol sy’n helpu i gyflawni dibenion yr elusen.
- Penderfyniadau, risg a rheolaeth – Mae’r bwrdd yn sicrhau bod ei brosesau penderfynu’n wybodus, yn drylwyr ac yn amserol, a bod dirprwyaeth, rheolaeth ac asesu risg, a systemau rheoli effeithiol yn cael eu sefydlu a’u monitro.
- Effeithiolrwydd y bwrdd – Mae’r bwrdd yn gweithio fel tîm effeithiol, gan ddefnyddio’r cydbwysedd priodol o sgiliau, profiad, cefndiroedd a gwybodaeth i wneud penderfyniadau ar sail gwybodaeth.
- Cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant – Mae gan y bwrdd ddull eglur, cytunedig ac effeithiol o gefnogi cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant ar draws y mudiad ac yn ei arferion ei hun.
- Bod yn agored ac yn atebol – Mae’r bwrdd yn arwain y mudiad i fod yn dryloyw ac yn atebol. Mae’r elusen yn agored yn ei gwaith, oni bai bod rheswm da dros ymddwyn fel arall.
Mae hefyd adran ‘Sylfaen’ sy’n amlinellu’r egwyddorion a ddylai fod yn bwynt dechrau i bob ymddiriedolwr.
Y DIWYGIO
Cafodd y Cod ei ddiweddaru ddiwethaf yn 2020. Mae’r grŵp llywio, sy’n cynnwys mudiadau fel Cymdeithas Prif Weithredwyr Sefydliadau Gwirfoddol (ACEVO), y Rhwydwaith Arweinwyr Elusennol, Cymdeithas y Cadeiryddion a’r Sefydliad Llywodraethu Siartredig, wrthi’n diwygio’r cod eto nawr. Mae’r amgylchedd y mae mudiadau gwirfoddol yn gweithredu o’i fewn yn datblygu’n gyson, felly mae’n hanfodol bod adnoddau fel y Cod yn cael eu diwygio ac yn parhau i fod yn berthnasol.
Yn 2024, mae’r Grŵp Llywio eisiau edrych yn ehangach ar y Cod, gan edrych ar ei gynnwys a’i strwythur, ei gymhwysiad i elusennau o wahanol faint, yr iaith a ddefnyddir a pha mor hawdd yw hi i ddefnyddwyr ei ddefnyddio. Rydym hefyd â diddordeb mewn edrych ar y rhwystrau neu’r problemau i ddefnyddio’r Cod. Gan hynny, rydym yn gwahodd defnyddwyr a phobl nad ydynt yn ddefnyddwyr i ymateb i’r ymgynghoriad hwn. Mae gennym ddiddordeb mewn clywed gan y rheini ag ymwybyddiaeth o’r Cod a’r rheini nad ydynt yn gyfarwydd iawn ag ef.
Mae’r ymgynghoriad yn cynnwys cwestiwn ar egwyddorion eraill y gallai mudiadau gwirfoddol hoffi eu gweld wedi’u hychwanegu at y cod. Pynciau cyffredin fel y newid yn yr hinsawdd a materion amgylcheddol, ymhél â phroblemau o bwysigrwydd diwylliannol a chynllunio ar gyfer olyniaeth ymddiriedolwyr.
PAM DDYLWN I YMATEB?
Fel Pennaeth Cymorth, rwy’n gweithio ar draws swyddogaethau llywodraethu, cyllido, diogelu, digidol a gwirfoddoli CGGC. Gallaf ddweud yn ddiamau mai llywodraethu da yw asgwrn cefn y pedwar maes arall o redeg mudiad gwirfoddol.
Mae’r Cod yn adnodd rhagorol i’ch helpu chi i gael y sylfaen gadarn honno a sicrhau bod eich gweithgareddau yn cael y siawns orau o lwyddo. Er mwyn i unrhyw adnodd fod yn ddefnyddiol, mae angen iddo ddiwallu anghenion ei ddefnyddwyr, a’r ymgynghoriad hwn yw’r cyfle gore sydd gan y sector i sicrhau bod y Cod hwn yn wirioneddol ddiwallu eich anghenion.
SUT I YMATEB I’R YMGYNGHORIAD
I ymateb i’r ymgynghoriad, *cwblhewch ein harolwg ar-lein.
Amcangyfrifwn na fydd yn cymryd mwy na 30 munud. Nid oes opsiwn i gadw’r atebion a dychwelyd i’r arolwg. Pan fyddwch chi’n dechrau, bydd angen i chi ei gwblhau i gyd.
Gallwch *lawrlwytho cwestiynau’r arolwg er mwyn paratoi eich atebion.
Bydd y broses ymgynghori yn cael ei chynnal rhwng 21 Mai 2024 ac 11 Awst 2024.
Mae’r ymgynghoriad presennol ar y Cod yn cael ei gefnogi’n hael gan The Clothworkers Company, Partneriaeth Atebolrwydd Cyfyngedig Withers a Phartneriaeth Atebolrwydd Cyfyngedig Wrigley’s.
*Saesneg yn unig