Woman speaking into a megaphone and smiling, there are protesters in the background

Diweddariad polisi 3-SET

Cyhoeddwyd: 02/12/20 | Categorïau: Uncategorised, Awdur:

Ers i’r penderfyniad gael ei wneud i adael yr UE, gan arwain at golli Cronfeydd Strwythurol ar ddiwedd y cylch presennol hwn, mae 3-SET wedi bod yn gweithio’n galed i ddylanwadu ar y rhai sy’n gwneud penderfyniadau ar gynllunio a chyflwyno’r Gronfa Ffyniant a Rennir arfaethedig ac i roi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r sector am unrhyw ddatblygiadau.

Rydym wedi cynnal llawer o ymarferion ymgynghori gyda’r sector, gan gynnwys digwyddiadau, gweminarau, rhwydweithiau ac arolygon ac wedi defnyddio hyn i lywio ein safbwynt ar drefniadau ariannu yn y dyfodol.

Yr wythnos diwethaf, cyflwynodd y Canghellor Adolygiad o Wariant 2020. Roeddem yn disgwyl clywed mwy am y Gronfa Ffyniant a Rennir – faint fydd hi, sut y caiff ei rheoli, beth fydd yn ei ariannu ac a fydd ar gael i’r sector gwirfoddol. Cyffyrddwyd â rhai o’r cwestiynau hyn ond ni roddwyd unrhyw fanylion go iawn. Darllenwch ein blog i gael gwybod mwy am yr hyn a ddywedwyd.

Mae pethau eraill rydym wedi’u gwneud yn ddiweddar, mewn perthynas â chyllid newydd, yn cynnwys:

Datganiad sefyllfa ar y cyd â rhai o’n chwaer gynghorau

  • Mae rhai o chwaer gynghorau CGGC yn rhannu ein barn yn gryf a gyda’n gilydd anfonwyd datganiad ar y cyd at y Canghellor, yn amlinellu’r hyn sydd ei angen o’r Gronfa Ffyniant a Rennir o safbwynt datganoledig a thrydydd sector.

Ymateb i ymgynghoriadau

Rydym hefyd wedi bod yn gweithio i ddylanwadu ar y rhai sy’n nes adref drwy ymateb i ymgynghoriadau.

  • Ymgynghorodd Llywodraeth Cymru ar ei Fframwaith ar gyfer Buddsoddi Rhanbarthol yng Nghymru a oedd yn nodi ei syniadau ar ddyfodol buddsoddi rhanbarthol y tu allan i’r UE. Cyfeiriwyd yn uniongyrchol at lawer o’r hyn a ddywedwyd gennym – darllenwch ein hymateb yma.
  • Lansiodd y Pwyllgor Materion Cymreig ymchwiliad i’r Gronfa Ffyniant a Rennir arfaethedig. Unwaith eto, cyfeiriwyd yn uniongyrchol at rai o’n sylwadau yn adroddiad terfynol y Pwyllgor.
  • Ar hyn o bryd rydym yn paratoi ymateb i ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ar y rheoliadau i sefydlu Cyd-bwyllgorau Corfforaethol. Unwaith y bydd ein hymateb wedi’i gwblhau, byddwn yn ei rannu ar wefan CGGC.