Grŵp o fenywod wrth redeg gêr yn dal dwylo o flaen rhuban rasio

Diweddariad gan y Rheoleiddiwr Codi Arian

Cyhoeddwyd: 18/04/23 | Categorïau: Cyllid,Gwybodaeth a chymorth, Awdur: Mary Roberts

Gyda’r canllawiau newydd sydd wedi’u rhyddhau ar godwyr arian gwirfoddol a sut i roi’n ddiogel, clywn gan Mary Roberts, Rheolwr Rhanddeiliaid a Pholisi Cymru’r Rheoleiddiwr Codi Arian.

Mae’r Rheoleiddiwr Codi Arian wedi ailwampio ei ganllawiau’n ddiweddar i gynorthwyo mudiadau sy’n gweithio gyda chodwyr arian gwirfoddol ac i roi cyngor i’r cyhoedd ar roi’n ddiogel i elusen.

GWEITHIO GYDA GWIRFODDOLWYR

I fudiadau sy’n gweithio gyda chodwyr arian gwirfoddol, mae tudalen pynciau gwirfoddoli diweddaredig y rheoleiddiwr (Saesneg yn unig) yn nodi’r gwahaniaeth rhwng codi arian ‘ar ran’ ac ‘i gynorthwyo’ i helpu mudiadau elusennol i ddeall y safonau sy’n berthnasol. Gall ei gyngor i’r cyhoedd ar ddechrau apêl codi arian ar-lein (Saesneg yn unig) hefyd helpu gwirfoddolwyr i ddeall eu cyfrifoldebau.

RHOI’N FWY DIOGEL

Mae’r rheoleiddiwr yn gofyn i fudiadau rannu ei gyngor ar roi’n fwy diogel (Saesneg yn unig) a adnewyddwyd yn ddiweddar er mwyn sicrhau bod rhoddion gan y cyhoedd yn cyrraedd elusennau go iawn. Yn anffodus, mae adroddiadau o dwyllwyr sy’n ceisio cymryd mantais ar haelioni pobl, yn enwedig ar adegau pan roddir mwy o arian, fel ar ôl y daeargrynfeydd trychinebus diweddar yn Türkiye (Twrci) a Syria. Ystyriwch rannu’r arweiniad hwn gyda’ch cefnogwyr.

Un o’r gwiriadau rhoi’n fwy diogel a argymhellir gan y rheoleiddiwr yw edrych am y Bathodyn Codi Arian. Yn ôl gwaith ymchwil diweddar, byddai tri chwarter o’r ymatebwyr yn teimlo’n fwy hyderus yn cefnogi elusen a oedd yn arddangos y bathodyn (Saesneg yn unig).

CYSYLLTU

Rhan bwysig o rôl y Rheoleiddiwr Codi Arian yng Nghymru yw sicrhau bod y cyhoedd yn gwybod beth i’w ddisgwyl gan godwyr arian, a bod y sector elusennau yn cael cymorth i godi arian mewn modd agored, gonest, parchus a chyfreithiol.

Mae’r rheoleiddiwr yn edrych ar sut y gall gynorthwyo’r sector codi arian yn barhaus ac yn croesawu mewnbwn gan elusennau a’r cyhoedd ynghylch yr hyn sy’n ddefnyddiol. Cysylltwch â code@fundraisingregulator.org.uk os oes gennych chi unrhyw adborth neu gwestiynau ynghylch cymhwyso Cod Ymarfer Codi Arian y DU gyfan.