Mae Tîm Ewropeaidd y Trydydd Sector (3-SET) yn rhoi gwybod i ni am yr hyn sy’n digwydd ym myd Cyllid Ewropeaidd yng Nghymru.
Edrych ar ein Senedd newydd
Yn sicr, mae digon o bethau wedi bod yn digwydd dros yr wythnosau diwethaf i’n cadw ni’n brysur. Un o’r pethau mwyaf nodweddiadol i’w sôn amdano yw canlyniadau etholiad y Senedd. Rydyn ni bellach yn gwybod y bydd y sector cyfan wedi’i gynnwys dan bortffolio Jane Hutt AS sydd wedi’i henwi fel y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol. Bydd cysylltiadau sy’n ymwneud â’r ffrydiau cyllido newydd bellach dan bortffolio Vaughan Gething AS fel Gweinidog yr Economi.
Diweddariadau polisi’r Undeb Ewropeaidd
Mae Senedd Ewrop wedi pleidleisio’n llethol dros gymeradwyo Cytundeb Masnach a Cydweithredu’r DU-UE (TCA) a, hefyd, amlinellodd araith y Frenhines y rhaglen ddeddfwriaethol ar gyfer y sesiwn seneddol newydd gan gynnwys Biliau ar ôl Brexit a fydd yn disodli rheoliadau blaenorol yr Undeb Ewropeaidd. Y ddau fwyaf perthnasol i’n gwaith ni yw’r Bil Rheoli Cymhorthdal a’r Bil Caffael. Pan fydd gennym ni ragor o wybodaeth am y rhain byddwn ni’n ei rhannu gyda chi.
Yr wybodaeth ddiweddaraf gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig
Cyhoeddwyd Cynllun Llywodraeth y Deyrnas Unedig ar gyfer Cymru yr wythnos ddiwethaf gan gynnwys gwybodaeth am sut y bydd cronfeydd y Deyrnas Unedig sy’n disodli’r Cronfeydd Strwythurol a Buddsoddi Ewropeaidd yn cefnogi eu huchelgais cyffredinol o ran sicrhau cydbwysedd ar draws y Deyrnas Unedig gyfan. Dilynodd hyn y cyhoeddiad y caiff y ddogfen bolisi ddisgwyliedig sy’n canolbwyntio ar ddatganoli ac adfer lleol ei disodli gan bapur gwyn ar Gydbwyso, i’w gyhoeddi yn nes ymlaen eleni.
Mae Tŷ’r Cyffredin hefyd wedi cyhoeddi papur o ddiddordeb, Cyllid Strwythurol y Deyrnas Unedig: Fydd Cronfa Adfywio Cymunedol y Deyrnas Unedig yn pontio’r bwlch?
Ddydd Iau 27ain Mai, derbyniodd Pwyllgor Materion Cymreig dystiolaeth ar y Cronfeydd Cydbwyso ac Adfer Cymunedol. Mae recordiad y sesiwn ar gael yma
Mae’r Adran Gwaith a Phensiynau bellach wedi cyhoeddi y dyfarnwyd contract i gyflenwi’r Rhaglen Ailddechrau yng Nghymru i Serco. Bydd atgyfeiriadau i’r rhaglen yn dechrau ym mis Gorffennaf eleni. Disgwylir y bydd darpariaeth Cronfa Gymdeithasol Ewrop yn gallu gweithio ochr yn ochr â’r gweithgarwch hwn lle y mae gwerth ychwanegol clir ond disgwylir y bydd cwestiynau i’w holi wrth i’r rhaglen ddod yn fyw. Bydden ni’n eich annog chi i siarad â’ch rheolwr cronfa yn uniongyrchol er mwyn egluro materion ac, wrth gwrs, mae pob croeso i chi gysylltu â ni os oes gennych chi gwestiynau.
Mae angen eich cymorth chi arnom ni!
Rydyn ni wedi gweld awdurdodau lleol ar draws Cymru yn lansio eu prosesau cyflwyno cais ar gyfer Cronfa Adfywio Cymunedol y Deyrnas Unedig ac mae’r mwyafrif ohonynt bellach wedi cau. Mae 3-SET yn awyddus i glywed gan fudiadau ledled Cymru y gallent helpu i hysbysu ein trafodaethau â Llywodraeth y Deyrnas Unedig ac Awdurdodau Lleol yn y dyfodol. Er mwyn ein helpu ni i gasglu’r adborth hwn, cwbwlhewch yr arolwg byr yma neu gallwch chi gysylltu â ni yn uniongyrchol yn 3set@wcva.cymru i gael sgwrs anffurfiol.
Yn ystod yr wythnosau nesaf, byddwn ni’n rhannu gwybodaeth am weithgor er mwyn cael lleisiau o’r sector i ganolbwyntio ar gronfeydd y Deyrnas Unedig a fydd yn disodli’r Cronfeydd Strwythurol a Buddsoddi Ewropeaidd (ESIF) presennol. Bydd y grŵp hwn ar agor i unrhyw un sydd â diddordeb yn y rhaglenni hyn a heb ei gyfyngu i’r rhai sy’n gweithio gydag ESIF ar hyn o bryd. Os ydych chi’n adnabod rhywun a all fod â diddordeb mewn cymryd rhan yn y gwaith hwn, dylech chi ei annog i gysylltu â ni er mwyn i ni sicrhau ei fod yn derbyn gwybodaeth berthnasol.
ERSA yw’r corff aelodaeth yn y Deyrnas Unedig sy’n ymgyrchu dros wasanaethau o safon uchel ar gyfer ceiswyr gwaith ac enillwyr cyflog isel yn y Deyrnas Unedig. Mae ei aelodaeth yn cynnwys cynrychiolaeth ar draws elusennau, awdurdodau lleol, mentrau cymdeithasol, cyrff ariannu, a mudiadau sector preifat. Mae’n cynnwys fforymau sy’n ystyried materion penodol ym mhob cenedl ac mewn meysydd pwnc penodol gan gynnwys cynllun Kickstart, symudedd ieuenctid, iechyd, a rhaglenni cyflogaeth ar draws y Deyrnas Unedig gyfan. Cewch ragor o wybodaeth am y buddion sydd ynghlwm ag aelodaeth ar ei wefan.
Bellach, mae ERSA yn lansio platfform, ASK SETH, i ddod â gwybodaeth ar gyfer ceiswyr gwaith ar draws y Deyrnas Unedig a fydd yn eu helpu nhw i ddeall pa ddarpariaeth sydd ar gael yn eu hardal nhw. Er bod sawl platfform ar gael yn Nghymru gan gynnwys DEWIS a chynllun Canfod Cymorth Cymru’n Gweithio, bydd ASK SETH yn cynnig opsiwn arall i bobl gyrchu gwybodaeth ac adnoddau i’w cynorthwyo nhw wrth chwilio am waith. Gall unrhyw fudiad sy’n darparu gwasanaethau cyflogadwyedd gofrestru ei wybodaeth am ddim ar y platfform trwy lenwi templed syml sydd ar gael yma