Mae’n Wythnos Therapi Galwedigaethol ac mae Faye Patton, Pennaeth Polisi a Mewnwelediadau Gofal a Thrwsio, yma i sôn am sut mae therapyddion galwedigaethol yn cynorthwyo pobl hŷn i fyw gartref.
Llynedd, gosododd Gofal a Thrwsio bron 25,000 o Addasiadau Ymateb Cyflym ar hyd a lled Cymru i helpu pobl hŷn i fyw’n ddiogel ac annibynnol yn eu cartrefi eu hunain. Yn ystod Wythnos Therapi Galwedigaethol fis Tachwedd, rydym ni eisiau codi ymwybyddiaeth o sut mae Gofal a Thrwsio yn cefnogi Therapyddion Galwedigaethol i sicrhau bod y rheini ledled Cymru sydd ei angen yn cael yr help sydd ei angen arnynt i fyw gartref ag urddas.
CYMORTH YN Y CARTREF
Mae ein gweithwyr achos ledled Cymru yn Aseswyr Dibynadwy cymwys, sy’n golygu y gall gweithwyr iechyd proffesiynol atgyfeirio atom ni gan wybod ein bod yn gallu presgripsiynu a gosod addasiadau yn y cartref, fel canllawiau, canllawiau cydio, ffyn canllaw a mwy.
Yn ystod y bum mlynedd ddiwethaf, rydym ni wedi gweld cynnydd o un flwyddyn i’r llall yn nifer y bobl rydym ni’n eu cynorthwyo ag addasiadau i’w cartrefi. Daw llawer o’r atgyfeiriadau hyn o Therapyddion Galwedigaethol mewn lleoliadau sylfaenol a chymunedol. Trwy ein gwasanaeth ‘O’r Ysbyty i Gartref Iachach’, rydym yn cynorthwyo pobl hŷn i adael yr ysbyty yn gyflymach ac yn ddiogel trwy gwblhau addasiadau a thrwsio pethau yn y cartref.
Llynedd, derbyniodd y gwasanaeth fwy na 5,700 o atgyfeiriadau ledled Cymru a chwblhau dros 7,000 o welliannau i gartrefi i helpu pobl fel Alistair yn eu cartrefi.
STORI ALISTAIR
Gwnaeth Gofal a Thrwsio dderbyn atgyfeiriad gan Therapydd Galwedigaethol yn Nevill Hall ar gyfer claf oedd wedi’i dderbyn i’r ysbyty ar ôl cwympo yn ei gartref. Roedd Alistair yn 84 oed ac yn byw gartref gyda’i wraig. Roedd yr atgyfeiriad yn gofyn am asesiad ar gyfer cymhorthion wrth y drws ffrynt, y grisiau a’r bath gan fod ei falans a’i symudedd wedi dirywio dros y blynyddoedd diwethaf, a pheri iddo faglu a chwympo ar brydiau.
Pan ymwelodd Gofal a Thrwsio, canfuom fod Alistair wedi bod yn dal ffrâm y drws ffrynt wrth fynd i mewn ac allan o’r tŷ. Gwnaethom drefnu nifer o addasiadau i wella a hwyluso mynediad Alistair i’w gartref.
Wrth gynnal yr asesiad, eglurodd gwraig Alistair fod ei iechyd wedi bod yn dirywio ers nifer o flynyddoedd a’i fod yn dibynnu arni hi am dasgau bob dydd. Gwnaethom gytuno i ddod yn ôl a chynnal asesiad trwyadl o’r cartref unwaith roedd Alistair wedi cyfarwyddo â bod allan o’r ysbyty i weld a oedd unrhyw beth arall y gallem ei wneud i’w helpu.
Gwnaeth ein gweithiwr achos O’r Ysbyty i Gartref Iachach ddilyn hyn i fyny ag ymweliad arall, a chanlyniad hyn oedd mwy o ganllawiau o amgylch y gawod, atgyfeiriad i’r Gwasanaeth Tân am larymau tân, teclyn monitro carbon monocsid, cael eu cofrestru ar y gofrestr gwasanaeth blaenoriaethol a chael gwybodaeth am sut i wneud cais am fathodyn glas. Gwnaethom hefyd gwblhau cais am Lwfans Gweini, a rhoddwyd y gyfradd uwch i Alistair, gan gynyddu ei incwm £5,740 y flwyddyn.
Mae Alistair yn un o filoedd o bobl hŷn rydym ni’n eu cynorthwyo ledled Cymru bob blwyddyn i fyw’n fwy diogel yn eu cartrefi drwy ddarparu addasiadau a chymorth holistaidd.
GWERTH ADDASIADAU
Mae wedi’i brofi bod addasiadau yn rhwystro pobl rhag cwympo, baglu a chael damweiniau yn y cartref. Mae Gofal a Thrwsio wedi gweithio gyda Phrifysgol Abertawe i gymharu pobl hŷn rhwng 60 a 95 oed er mwyn deall yr effaith o gael a pheidio â chael ymyrraeth Gofal a Thrwsio.
Canfu’r gwaith ymchwil fod pobl hŷn a oedd wedi cael addasiadau wedi’u gosod gan fudiad Gofal a Thrwsio 17% yn llai tebygol o gael eu derbyn i’r ysbyty ar ôl cwymp niweidiol. Ers 2020, rydym ni wedi gosod mwy na 104,000 o addasiadau, sy’n golygu y gallem ni, o bosibl, fod wedi atal mwy na 17,000 o bobl rhag cael eu derbyn i’r ysbyty.
Mae addasiadau yn gwneud mwy na chefnogi bywyd annibynnol; maen nhw’n cael effaith go iawn ar atal pobl rhag cael eu derbyn i’r ysbyty a lleihau’r pwysau ar wasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol.
Wrth i’n poblogaeth barhau i heneiddio yng Nghymru, mae addasiadau yn enghraifft allweddol o gysylltu tai ac atal iechyd er mwyn cefnogi pobl i heneiddio’n well yn eu cartrefi.