People standing together as the sun sets

Diogelu yn y sector gwirfoddol – beth sy’n bwysig?

Cyhoeddwyd: 21/01/20 | Categorïau: Gwybodaeth a chymorth, Awdur: Suzanne Mollison

Yn dilyn lansio fersiwn newydd o Drefniadau Diogelu Cymru ym mis Tachwedd, gofynnodd Suzanne Mollison, Swyddog Diogelu CGGC i rai o’i chydweithwyr rannu eu syniadau ynglŷn â diogelu yn y sector gwirfoddol.

Lansiwyd fersiwn newydd o Drefniadau Diogelu Cymru ym mis Tachwedd. Mae’r Trefniadau newydd yn adeiladu ar y canllawiau a osodwyd yn Neddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant ( Cymru) 2014  gyda’r nod o fod o gymorth i unrhyw un sy’n gweithio gyda phlant neu oedolion – p’un a yw’n waith â thâl neu’n waith di-dâl, ym mhob sector.

Prif swyddogaeth y trefniadau newydd yw egluro’n union yr hyn a ddisgwylir o’r unigolyn mewn perthynas â Diogelu. Er enghraifft, ceir ynddynt nid yn unig awgrymiadau ar gyfer arfer da ond hefyd amserlenni penodol ar gyfer tasgau penodol a phryd y dylid eu cwblhau.

Gofynnais i rai o’m cydweithwyr yn y sector gwirfoddol beth, yn eu barn nhw, yw’r peth pwysicaf y dylai sefydliad yn y sector gwirfoddol ei wneud i ddiogelu eu buddiolwyr, y gwirfoddolwyr, a/ neu eu staff ac ymddiriedolwyr, wrth i ni symud ymlaen i 2020.

‘DYLAI GWIRFODDOLI FOD YN HWYL, OND HEFYD YN DDIOGEL’

Ann Woods yw Prif Swyddog ac Arweinydd Diogelu Cyngor Gwirfoddol Lleol Sir y Fflint ac mae wedi gweithio am 15 mlynedd o fewn Gwasanaethau Cefnogi Teuluoedd y Trydydd Sector.

Dywed: “Fel sefydliadau yn y Trydydd Sector sy’n darparu Gwasanaethau Cyhoeddus, credaf y dylem sicrhau:

  • mai llesiant ein defnyddwyr sy’n hollbwysig – dylem amddiffyn hawliau a buddiannau defnyddwyr a gofalwyr;
  • bod ein gwirfoddolwyr yn cael eu recriwtio, eu hyfforddi a’u cefnogi er mwyn gallu ymdopi â’r heriau sy’n dod yn sgil darparu gwasanaethau cyhoeddus – dylai gwirfoddoli fod yn hwyl ond hefyd yn ddiogel!
  • bod gan ein staff yr wybodaeth, y sgiliau a’r gefnogaeth i ddiogelu unrhyw un sy’n gysylltiedig â’n sefydliad rhag niwed, gan leihau’r risg drwy ddefnyddio arferion da sy’n seiliedig ar bolisïau da.

Os oes unrhyw ansicrwydd ynglŷn ag unrhyw agwedd ar Ddiogelu, mae’n hanfodol i ni i gyd geisio cael cefnogaeth ( i ni’n hunain a’n cymdeithas). Gallwch gael cymorth gan eich Cyngor Gwirfoddol Sirol (a gefnogir gan Wasanaeth Diogelu CGGC).

Gallwch ddod o hyd i bob Cyngor Gwirfoddol Sirol yma:

Cefnogi Trydydd Sector Cymru

‘MAE PAWB YN GYFRIFOL AM DDIOGELU’

Carl Harris yw Uwch Ymgynghorydd Hyfforddiant a Datblygiad (Cymru) yr NSPCC.

Mae hefyd wedi ystyried y cwestiwn hwn. Dywed Carl y dylai sefydliad o fewn y sector gwirfoddol ddiogelu drwy:

  • (Ar gyfer Buddiolwyr) Sicrhau bod gan fuddiolwyr lais sy’n cael ei glywed
  • (Ar gyfer Gwirfoddolwyr) Mae’n hanfodol i wirfoddolwyr gael cwrs sefydlu amserol ac addas sy’n cynnwys hyfforddiant diogelu angenrheidiol ac ymwybyddiaeth o bolisi a gweithdrefnau’r sefydliad o ran yr hyn i’w wneud os cyfyd unrhyw bryderon ynglŷn â lles unrhyw blentyn neu oedolyn
  • (Ar gyfer Staff ac ymddiredolwyr) Sicrhau bod pob aelod o staff a phob ymddiriedolwr yn ymwybodol o’u cyfrifoldebau diogelu gan fod ‘diogelu yn gyfrifoldeb i bawb’

Mae’r NSPCC wedi bod yn lledaenu’r neges hon ers tro bellach. Diolch, Carl, am ein hatgoffa.

Felly y neges sylfaenol yw bod diogelu yn golygu ymdrech fel tîm a chydgyfrifoldeb.

Gallwn i gyd gyfrannu a gwneud gwahaniaeth er mwyn diogelu pawb a lleihau’r risg o gam-drin, niwed ac esgeulustod.

Ni ddylai un person, ac ni all un sefydliad, wneud hyn ar ei ben ei hun. Cofiwch fanteisio ar y cyfleoedd amrywiol i gael cymorth a chefnogaeth y cyfeiriwyd atynt uchod.

Mae Suzanne Mollison yn Swyddog Diogelu gyda CGGC. Am Wybodaeth a Chefnogaeth ynglŷn â Diogelu edrychwch ar y tudalennau gwe ar ddiogelu neu ffoniwch 0300 111 0124 (opsiwn 6).