Mae grŵp o ferched sy'n gwenu yn eistedd mewn grŵp gyda'i gilydd.

Diogelu a’r Elusen FAN

Cyhoeddwyd: 10/11/23 | Categorïau: Gwybodaeth a chymorth, Awdur: Sarah Duncan-Jones

Mae Sarah Duncan-Jones, rheolwr FAN, yn dweud wrthym pam fod diogelu mor bwysig iddyn nhw ac elusennau eraill.

Mae Elusen FAN (Ffrindiau a Chymdogion) yn dathlu ei 20fed pen-blwydd eleni. Mae wedi bod 20 mlynedd ers i athrawes ESOL (Saesneg ar gyfer Siaradwyr Ieithoedd Eraill) o’r enw Gill ddechrau un grŵp bychan fel modd o gynnig lle anffurfiol i’w myfyrwyr benywaidd ymarfer eu sgiliau newydd. Sefydlodd Gill ‘y model FAN’, ein rheolau craidd sy’n caniatáu i bawb gymryd eu tro, i siarad dim ond os dymunant, ac i gael rhywun i wrando arnynt â pharch.

O’R DECHREUADAU BACH

O’r un grŵp bychan hwnnw, mae mwy na 35 o grwpiau bellach yn cwrdd bob wythnos yng Nghaerdydd, Y Barri, Pen-y-bont ar Ogwr, Abertawe, Llanelli ac ar-lein.  Mae’r rhan fwyaf o’r grwpiau yw ddynion a menywod a rhai i fenywod yn unig, eu harwain gan hwyluswyr FAN gwirfoddol. Er bod traean o’n cyfranogwyr yn dysgu Saesneg, mae’r mwyafrif ohonynt yn bobl leol bellach sy’n mwynhau estyn allan i’r gymuned ehangach, teimlo’n llai unig a siarad am bynciau diddorol ac amrywiol bob wythnos,pynciau sy’n amrywio o hoff fwydydd, i anturiaethau, i briodasau a Mwy.

Wrth i FAN dyfu, cynyddodd yr heriau a’r cyfleoedd hefyd. Yn 2010, daeth FAN yn Elusen, a chaiff ei rheoli gan fwrdd o ymddiriedolwyr gwirfoddol sy’n cyflogi tîm bychan iawn o staff rhan-amser (rheolwr, gweithwyr datblygu a gweinyddwr) fel y mae’r cyllid yn caniatau. Ar hyn o bryd, y rheolwr sy’n gyfrifol am y diogelu bob dydd, a chaiff ei gefnogi gan Weithgor Ymddiriedolwyr Diogelu.

CYMRYD CYFRIFOLDEB

Mae FAN yn cymryd ei chyfrifoldebau diogelu o ddifrif a daw pobl i ni a siarad am eu hunain, eu hwythnos a phwnc gyda chymaint o frwdfrydedd am eu bod yn teimlo’n ddiogel. Ysgrifennwyd polisi Diogelu FAN gan ddefnyddio templed CGGC i ddechrau, ac yn cael ei adolygu bob blwyddyn pan fydd amgylchiadau newydd

yn dod i’r golwg neu mewn ymateb i newidiadau mewn rheoliadau.

Mae diogelu yn rhan o sesiwn gynefino’r staff a hyfforddiant yr hwylusydd ac mae’n eitem sefydlog ar agendâu cyfarfod Ymddiriedolwyr. Mae cael mynediad at Ap Gweithdrefnau Diogelu Cymru ( yn golygu bod gennym ni wybodaeth allweddol ar flaenau ein bysedd. Rydym wedi cyflwyno modiwl hyfforddi Grŵp A () i’r holl wirfoddolwyr yn ddiweddar, ac mae hyn wedi cynyddu’r drafodaeth a’r ymwybyddiaeth o.

DYSGU O’R GWAITH

Dywedaf hyn â gofal, ond oherwydd natur yr hyn y mae FAN yn ei wneud, mae pryderon wedi’u codi gan hwyluswyr, staff neu gyfranogwyr ar brydiau. Nid yw’r rhain wedi codi’n aml, a phan fyddant wedi codi, gyda chyngor gan CGGC, rydyn ni wedi ymdrin â nhw’n effeithiol, gan ein gadael ni â dealltwriaeth well ac arferion gwell.

Er bod Covid wedi achosi llawer o bethau gwael, gwnaeth hefyd gynyddu’r cyfleoedd am gysylltedd rhithiol, ac rwyf wedi bod yn falch iawn o fynychu cyfarfodydd Cymuned Ymarfer Diogelu rheolaidd CGGC (anfonwch e-bost at diogelu@wcva.cymru am ragor o fanylion).

CYFFWRDD DYNOL

Mae’r cyfarfodydd hyn yn dwyn ynghyd tîm diogelu CGGC (Mair Rigby, Suzanne Mollison ac Amanda Harvey-Cooke) a chynrychiolwyr o’r sector gwirfoddol sydd â chyfrifoldeb diogelu. Maen nhw’n rannu’r newidiadau diweddaraf mewn rheoliadau, pryderon ac ystadegau gyda chyd-destun ac eglurhad gan lais dynol ac mae’n llawer mwy pwerus na dim ond darllen trwy ddiweddariad e-bost!

Weithiau, ceir siaradwr allanol a bydd hanes achos a thrafodaeth bob amser, yn rhan allweddol o’r cyfarfod, lle y rhennir gwybodaeth, caredigrwydd a synnwyr da’r grŵp. Bu trafodaethau ynghylch beth i’w ystyried wrth gynnal grwpiau FAN ar-lein yn arbennig o ddefnyddiol pan aeth pob un ar-lein ar ddechrau Covid.

Rydych chi’n clywed barnau sy’n adlewyrchu barnau eich hun, ac roedd hi’n galonogol clywed cynrychiolwyr eraill mewn Cymuned Ymarfer Diogelu diweddar yn rhannu safbwynt tebyg i’n un ni, sef, er bod diogelu yn rhan greiddiol o’n busnes, byddai ein harbenigedd ‘mewnol’ yn eithaf cyfyngedig heb gefnogaeth y rheini rydyn ni’n gofyn iddynt am help – sef Mair, Mandy a Suzanne. Os nad oedd gennym ni’r cysylltiad ag CGGC, byddai’n sefyllfa llawer mwy heriol i FAN.

CYSYLLTU

Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau am ddiogelu, mae croeso i chi gysylltu â’n tîm diogelu a fydd yn fwy na pharod i helpu, Safeguarding@wcva.cymru

Eisiau’r newyddion diweddaraf, barna a chyhoeddiadau yn ogystal ag erthyglau defnyddiol ar bynciau sydd o bwys? Ymunwch gyda’n rhestr bostio. Bob wythnos rydym yn cynnig crynodeb o newyddion y sector wirfoddol a diweddariadau yn syth i’ch mewnflwch.