Yma, mae Sally Rees, Hwylusydd Iechyd a Gofal Cymdeithasol Cenedlaethol y Trydydd Sector yn CGGC, yn rhannu ei phrofiadau o ofalu o bell. Mae ei mam yn preswylio mewn Uned Iechyd Meddwl i Bobl Hŷn. Ysgrifenna Sally am ei chysylltiad presennol – y pwyntiau uchel ac isel – sydd wedi’i ddwysau nawr gan argyfwng Covid-19.
Beth alla’ i ddweud am fy Mam? Ei henw yw Pat, mae’n 82 mlwydd oed ac mae’n ymladdwraig. Fyddai dim ots ganddi fy mod yn ysgrifennu amdani hi a’n profiadau, oherwydd byddai eisiau i bobl ddeall sut mae pethau wedi bod i ni. Roedd hi’n gymdeithasgar, â diddordeb mewn pobl, yn ofalgar, yn ddrygionus ac yn llawer o hwyl. Fyddai dim ots ganddi fy mod yn rhannu’r llun hwn ohoni.
Mae llawer o’r hyn yr oedd hi yma wedi mynd, ond nawr ac yn y man, bydd ei llygaid yn disgleirio, bydd hi’n cofio fy enw, yn dweud rhywbeth doniol neu ddiamcan.
Y dyddiau hyn, pan fydd hi’n siarad, mae’n siarad ag acen gocni! Ni chafodd ei geni o fewn clyw Clychau Bow, felly byddai’n gystadleuaeth glos rhyngddi hi ag Audrey Hepburn yn ‘My Fair Lady’ o ran pwy oedd â’r acen fwyaf amheus! Yn ystod y cyfyngiadau symud, mae’r staff wedi bod yn dweud wrthym fod ei hacen wedi bod yn eu difyrru, ac rydyn ni wedi cael pwl o chwerthin yn meddwl am hynny. Hyd yn oed mewn adegau anodd, mae arnom angen yr eiliadau hynny o lawenydd.
Rydyn ni’n teimlo’n lwcus i gael mam gyda ni o hyd, er nad ydyn ni wedi’i gweld ers y tri mis diwethaf. Stopiodd y cartref gofal ymweliadau ymhell cyn y cyhoeddwyd y cyfyngiadau symud. Ar ddechrau’r flwyddyn, cawsom wybod mai dim ond rhai wythnosau oedd ganddi ar ôl i fyw. Felly, rydyn ni’n lwcus. Mae wedi’n synnu ni i gyd.
Roedd yn ergyd ddwbl i ni pan gafodd Mam y diagnosis deuol o ddementia fasgwlaidd a chlefyd Alzheimer, yn ogystal â chael ei diagnosio’n ddiweddar gyda rhyw glefyd llidiol â theitl hir. Mae’n golygu ei bod yn gaeth i’r gwely nawr gan fwyaf.
Aeth i’r cartref gofal fel achos brys i ddechrau, pan wnaeth fy nhad gyfaddef o’r diwedd nad oedd yn gallu ymdopi. Mae hyn yn digwydd yn aml: nid yw’r rhan helaeth o ofalwyr eisiau help nac eisiau rhywun yn y tŷ. Er yr oedd dad ei hun yn cael nyrsys ardal i ddiwallu ei anghenion iechyd sylweddol ei hun, roedd yn gwrthod cael unrhyw help i Mam, hyd yn oed help gyda’i gofal personol (ac nid oedd arno eisiau ein help ni chwaith). Roedd ef yn credu pe bai’n gweiddi arni i gael cawod y byddai’n cael un, ond byddai hi’n anghofio cyn gynted ag y byddai’n cyrraedd y grisiau.
Ni all neb eich paratoi chi ar gyfer delio â’r ochr emosiynol ac ymarferol pan fydd anwylyn yn anghofio geiriau na sut i gyflawni gweithgareddau bob dydd. Nid ydych chi’n barod chwaith i weld eich tad yn cuddio a gwadu ac yn bod yn gwbl benstiff ynghylch pallu trafod problemau cof eich mam, heb sôn am beth ddylen ni ei wneud amdanyn nhw.
Ni allai dad ddelio â’r ffaith bod Mam yn colli’i chof. Wyddwn i ddim ei bod wedi gweld gweithiwr iechyd proffesiynol tan i fi ddechrau chwilota am eitemau coll o amgylch y tŷ. Ymhlith tabledi, wedi’i guddio mewn bocs hancesi papur (ei chuddfan siocled hi!), oedd Aricept, cyffur a ddefnyddir i drin mân achosion neu achosion cymedrol o ddementia.
Canfyddais ei bod hefyd wedi ymweld â Chlinig Cof gyda Dad ac yn gweld Gerontolegydd, er iddi ddweud ‘gwnaeth e’ [Dad] gymryd drosto’r holl sesiwn a ches i’m cyfle i ddweud dim, ac fy apwyntiad i oedd e’!’ Roedd hyn yn nodweddiadol ohono, roedd bob amser yn hoffi bod yn geffyl blaen. Yn raddol, aeth gorbryder fy Mam yn waeth (crafu ei hun, tapio’i thraed) a dechreuodd Dad golli rheolaeth. Byddai’n llenwi bagiau a’u gadael o amgylch y tŷ – bagiau llawn llieiniau sychu llestri, dillad isaf a bisgedi wedi hanner eu bwyta.
Roedd fel petai hi eisiau dianc. A byddai’n llwyddo’n rheolaidd, pan fyddai fy nhad yn syrthio i gysgu. Yn ffodus, byddai pobl a oedd yn eu hadnabod yn dod o hyd iddi bob amser, fel y fenyw bost. Rwy’n credu, i Mam, roedd yn fendith gadael o’r diwedd a symud i gartref gofal. O fewn diwrnodau, diflannodd ei gorbryder.
Gwnaeth hi dim ond gweld Dad unwaith eto cyn iddo ef farw. Hyd heddiw, d’yn ni heb ddweud wrthi. D’yw hi byth yn gofyn amdano mewn gwirionedd, er ei bod wedi bod yn briod iddo ers ei hugeiniau cynnar. Mae’n drist, a bydd fy chwaer a finnau’n teimlo’n eithaf emosiynol ar brydiau wrth i ni gofio’r adegau da a llawer o chwerthin.
Llewys ffidlan a gwybodaeth – Achubwyr bywyd
Er y bu Mam yn egnïol am gyfnod yn y cartref, treuliodd nifer o gyfnodau yn yr ysbyty, a oedd yn anodd iddi. Bu llewys ffidlan (a elwir hefyd yn myffiau wedi’u gwau neu lewys bodio) yn fendith, oherwydd bydden nhw’n cadw Mam yn brysur am oriau, yn rhoi seibiant i’w ‘dwylo aflonydd’ ac yn ei hatal rhag tynnu’r canwla allan pan oedd hi yn yr ysbyty. Mae ffidlan gydag amrywiaeth o ddeunyddiau cyffyrddadwy a gwlân yn ddefnyddiol o ran lleddfu teimladau o orbryder ymhlith pobl â dementia.
Mae mam ar y cam ‘olaf’ o’r saith cam Dementia. Er ein bod wedi cael rhai cyfnodau sefydlog, mae’n anodd ei gwylio hi’n diflannu o flaen ein llygaid o un wythnos i’r llall.
Gall darllen am y symptomau a’r hyn y gallech chi ei ddisgwyl yng nghyfnodau olaf Alzheimer a Dementia Fasgwlaidd helpu. Mae gwefan y Gymdeithas Alzheimer yn ddefnyddiol iawn, ond mae rhai’n credu bod yr wybodaeth yn ormod iddyn nhw. Ond rwy’n hoffi gwybod, fel y galla i baratoi fy hun.
Covid-19
Yn ystod y cyfnod ansicr hwn, rydyn ni nawr – fel teulu – wedi ein gwahanu oddi wrthi. Mae’n bwysig nad ydyn ni’n ymweld fel y gallwn ni gadw Mam yn ddiogel, yn ogystal â’r preswylwyr eraill a’r staff. Ond mae’n anodd – rydyn ni’n poeni ynghylch faint mae hi wedi gwaethygu ac yn aros am yr alwad ffôn erchyll.
Mae’r ffôn wedi canu yn barod. Roedd achosion o Covid-19 wedi’u cadarnhau yng nghartref gofal Mam. Gwnaethon ni gadw’n pwyll. Roedd ei phrawf yn negyddol. Dywedir wrthym ei bod yn parhau i fod ‘yn cadw’n dda’. Ond beth mae hynny’n ei olygu, heb hyd yn oed ei gweld hi ar alwad fideo? Rydyn ni’n aros am ganlyniadau ail brawf.
Mae Covid-19 yn golygu ein bod ni’n colli pob un o’i diwrnodau da. Fyddwn ni byth yn cael y rheini’n ôl. Mae’n anodd peidio â gwybod pryd fyddwn ni’n ei gweld hi eto. Anoddach fyth yw gwybod nad ni yw’r unig rai, gyda miloedd o deuluoedd yn wynebu’r un peth neu’n waeth.
Os hoffech chi wau Llewys Ffidlo/Bodio, mae patrwm gan Knit for Peace.
Cysylltwch â Chydlynydd Gwirfoddolwyr neu Reolwr eich Bwrdd Iechyd Lleol i gynnig gwau llewysau neu eich cartref gofal lleol. Cofiwch olchi’r eitemau a’u rhoi mewn bag er mwyn osgoi trosglwyddo Covid-19. Er enghraifft, mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan yn croesawu llewysau wedi’u gwau neu eu crosio.
Os hoffech chi ddarllen mwy am ddementia, ewch i wefan y Gymdeithas Alzheimer’s.
Os hoffech chi rannu eich profiadau, cysylltwch â Sally Rees srees@wcva.cymru Byddai wrth ei bodd cael clywed gennych chi a sut gallwn ni ddychwelyd i weld aelodau o’r teulu sy’n byw mewn cartrefi gofal mewn modd diogel.