Mae Siân Eagar, Swyddog Gwydnwch newydd CGGC, yn siarad am yr hyn a ddysgodd am wydnwch yn ystod ein digwyddiad gofod3.
Rhoddodd gofod3, digwyddiad blaenllaw CGGC a gynhaliwyd ddiwedd mis Mehefin, gyfle i ni fyfyrio ar gyflawniadau’r sector gwirfoddol ar draws Cymru yn ystod cyfnod heriol dros ben.
Cafodd cryfder, y gallu i addasu, a gwydnwch y sector ei arddangos ym mhob sesiwn a fynychais gan gynnig enghreifftiau go iawn o sut mae mudiadau wedi camu i’r adwy i gefnogi cymunedau ac wedi parhau i ddarparu gwasanaethau gwerthfawr i fuddiolwyr drwy gydol pandemig COVID-19.
Wrth i ni ddechrau edrych ymlaen a chanolbwyntio ar adfer, ceir gwersi y gallwn ni dynnu arnynt o’r profiad cyffredin hwn i gynnal ac i adeiladu ar wydnwch y sector gwirfoddol yng Nghymru.
Dyma’r 10 darn o wydnwch y derbyniais gan fudiadau y gwrandawais arnynt yn ystod yr wythnos.
1. Mae meddu ar ddealltwriaeth glir o’ch gweledigaeth arweiniol a’ch cenhadaeth yn allweddol – mae’n allweddol o ran rhoi’r hyder angenrheidiol i droi llinynnau gweithgarwch a chyflenwi gwasanaethau mewn ffordd newydd yn ystod cyfnod o newid ac ansicrwydd
2. Mae meddwl yn greadigol a chroesawu technoleg wedi galluogi i wasanaethau barhau – gan gynnwys symud gweithgareddau cymunedol ar-lein megis ym Maes Ni (Maesgeirchen) neu addasu i weithio gartref i ddarparu gwasanaethau llinell gymorth i unigolion yn Papyrus (Caerdydd)
3. Mae diogelu, iechyd meddwl, a lles bob amser yn bryderon wrth i heriau newydd godi o ganlyniad i ddefnyddio technoleg a gweithio o bell alw am ymagwedd sy’n ffocysu ar bobl fel y datblygwyd gan Platfform
4. Ni ddylai gwydnwch gael ei gysylltu ag elusennau mawr yn unig – mae ymchwil a gynhaliwyd gan Ymddiriedolaeth Banc Lloyds yn dangos bod gan elusennau bach gapasiti i ‘amsugno, addasu, a gweddnewid’
5. Mae angen i’r sector gasglu, deall a chyfathrebu bod gwerth neu effaith gwaith y sector yn fwy nag erioed o’r blaen – a bod adnoddau a mudiadau ar gael i helpu â’r dasg hon – fel y profwyd gan y gwaith a gyflawnwyd gan Inspiring Impact, Ymddiriedolaeth Cranfield a Mantell Gwynedd
6. Mae creu diwylliant o adfyfyrio a dysgu yn arwain at fuddion ar draws y mudiad – i bobl, prosesau, a gwasanaethau fel y dangoswyd gan y sesiynau Inspiring Impact yn ystod yr wythnos
7. Mae croesawu Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant mewn ffordd ystyrlon yn cynyddu effaith – mae hyn yn cymryd amser ac ymrwymiad ond, fel y profwyd gan Samariaid Cymru, bydd yn eich galluogi chi i gyrraedd yn ddyfnach ac yn ehangach yn eich cymunedau ac i adeiladu ymgysylltu go iawn
8. I gadw’n gynaliadwy mae’n rhaid i fudiad aros yn berthnasol ac ymgysylltu â’i aelodau, ei wirfoddolwyr, a’i fuddiolwyr, ac, weithiau, mae hyn yn galw am ymagwedd newydd – fel y profodd Sgowtiaid Cymru trwy eu gwaith i sicrhau bod eu mudiad ar ‘ffurf ieuenctid’ gan osod pobl ifanc wrth galon eu gwaith
9. Un o’r heriau mwyaf ar gyfer y sector fydd cyllid – ac archwiliodd y sesiwn Dyfodol Cyllido sut i lywio amgylchedd cyllid cystadleuol
10. Ni ellir tanbrisio pwysigrwydd arweinyddiaeth – yn olaf ond nid lleiaf, os yw hynny o ran cadw’r ddysgl yn wastad mewn cyfnod o argyfwng neu weithredu newid ehangach – fel y trafodwyd yn y sesiwn Adferiad Gwyrdd a Chyfiawn olaf gan bwysleisio’r rôl y gall y sector ei chwarae wrth greu dyfodol gwell ar gyfer yr hirdymor
ADDASU A CHYNLLUNIO AR GYFER Y DYFODOL
Hwn oedd fy mhrofiad cyntaf o ddigwyddiad gofod3 fel y Swyddog Gwydnwch newydd yn CGGC a ches i fy ysbrydoli gan yr holl waith da sy’n cael ei gyflawni a dyfnder a lled y gweithgareddau hynny.
Wrth symud ymlaen, nid oes amheuaeth y bydd y sector gwirfoddol yng Nghymru yn parhau i chwarae rôl hanfodol yn yr adfer ar ôl Covid. Mae’r sector eisoes wedi dangos ei fod yn wydn ond bydd angen cymorth ar fudiadau i addasu ac i wneud cynlluniau ar gyfer y dyfodol yn enwedig wrth i ni wynebu mwy o newid a mwy o heriau newydd.
Edrychaf ymlaen at fod yn rhan o waith parhaus CGGC i ddarparu gwybodaeth, cyngor, a hyfforddiant i gefnogi gwydnwch y sector ac i sicrhau y gall mudiadau gwirfoddol yng Nghymru barhau i wneud gwahaniaeth mwy gyda’i gilydd.
DYWEDWCH EICH DWEUD AR WYDNWCH
Er mwyn helpu i hysbysu ein gwaith ar wydnwch, hoffen ni glywed gennych chi – cyfrannwch at ein harolwg sydd ar gael yma.