Menyw ifanc yn gweithio mewn caffi gan ddefnyddio gliniadur a ffonau clust

Defnyddio Salesforce i chwyldroi’r gwaith o reoli data cwsmeriaid

Cyhoeddwyd: 15/12/21 | Categorïau: Ar gyfer aelodau,Gwybodaeth a chymorth, Awdur: Rhodri Jones

Eglura Rhodri Jones, Pennaeth Gwasanaethau Digidol CGGC, sut mae Salesforce yn helpu Cefnogi Trydydd Sector Cymru (TSSW) i reoli a gwella eu data ar gysylltiadau cwsmeriaid.

Rhwydwaith o fudiadau cymorth ar gyfer y sector gwirfoddol yng Nghymru yw Cefnogi Trydydd Sector Cymru (TSSW). Mae’n cynnwys 19 o gyrff cymorth lleol a rhanbarthol ledled Cymru, y Cynghorau Gwirfoddol Sirol (CVCs) a’r corff cymorth cenedlaethol, Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru (CGGC).

Roedd sefydlu system Rheoli Cysylltiadau Cwsmeriaid (CRM) yn rhan annatod a hanfodol o gynllun busnes TSSW mor bell yn ôl â 2017/18. Ar ôl ymweld â’n chwaer-gyngor, y Scottish Council for Voluntary Organisations (SCVO) (Cyngor Mudiadau Gwirfoddol yr Alban), gwnaethom ddilyn yr hyn roedden nhw wedi’i wneud a mynd ati i ddylunio un system y gellid ei defnyddio gan holl bartneriaid TSSW – a’r platfform y gwnaethom ni ei ddewis oedd Salesforce.

DATRYSIADAU YN Y CWMWL

Mae Salesforce.org yn ganolfan effaith gymdeithasol gyda Salesforce. Maen nhw’n adeiladu technoleg bwerus ar gyfer, a chyda’r gymuned o fudiadau addysgol, dyngarol nid-er-elw er mwyn eu helpu i weithredu’n effeithiol, codi arian a chysylltu. Yn y byd digidol cyntaf sydd ohoni, mae technoleg yn helpu i gynyddu ymgysylltiad digidol, yn creu un ffynhonnell o wirionedd ac yn creu mewnwelediadau y gellir eu gweithredu er mwyn cael yr effaith gymdeithasol fwyaf posibl. Mae Salesforce.org yn cynnig datrysiad integredig cyflawn i fudiadau reoli eu holl ryngweithiadau â’u cwsmeriaid. Mae’r holl ddatrysiad hwn ar y cwmwl, felly nid oes angen prynu unrhyw feddalwedd na chaledwedd, a gall cyflogeion weithio o unrhyw le, ar unrhyw ddyfais â chysylltiad rhyngrwyd.

Gwnaethom ddechrau ar ein taith Salesforce drwy ddylunio datrysiad a oedd yn cadw hunaniaeth ac annibyniaeth partneriaid ond a oedd yn seiliedig ar system graidd ganolog. Cyflwynwyd y prosiect gan fwrdd prosiect traws-bartner a arweiniwyd gan CGGC. Mae gan bob partner ei borth cymunedol a brand ei hun a chafodd data 20 a rhagor o gronfeydd data ar wahân ei drin a’i fewnforio i greu’r gronfa ddata fwyaf dibynadwy o fudiadau sector gwirfoddol ledled Cymru. Aeth y system yn fyw am y tro cyntaf ym mis Ebrill 2018.

BUDDION RHANNU DATA

Heddiw, mae bron 500 o aelodau staff yn defnyddio platfform Salesforce bob dydd i gofnodi eu rhyngweithiadau â’r sector, rheoli digwyddiadau dysgu, cofnodi cymorth ariannol a llawer mwy!

Mae gennym ni hefyd integreiddiadau â Mailchimp, Eventbrite, Singlify, Hwb Gwybodaeth Cefnogi Trydydd Sector Cymru, cyllido.cymru, a Phorth Data’r Trydydd Sector ac mae posibilrwydd o gael rhai eraill ar y gorwel.

Mae ein gwaith adrodd wedi dod yn llawer haws (dim rhagor o gyfri â llaw!) ac mae gan staff fynediad at ddangosfyrddau data allweddol. Rydym ni hyd yn oed yn cyflwyno data cyfanredol i Lywodraeth Cymru ar lefel Cymru gyfan ar gyfer y prosiectau y maen nhw’n eu cyllido.

BETH DDYWEDODD EIN DEFNYDDWYR

Mae Matt Brown, ein Cyfarwyddwr Gweithrediadau, yn dweud:

‘Roedd dod â’r data ar gyfer 20 o fudiadau ynghyd mewn un platfform Salesforce yn brosiect enfawr i TSSW. Trwy waith diwyd y tîm prosiect, rydyn ni’n gweld buddion yr holl waith caled hwnnw bellach. Mae’r galluoedd adrodd sydd gennym ni nawr yn ein galluogi i gloddio a darparu pob math o fewnwelediadau nad oedd yn bosibl o’r blaen.’

Mae Ami Morris, Swyddog Gweithredol Gweithrediadau yng Nghynghrair Gwirfoddol Torfaen yn nodi:

‘Mae CRM Salesforce nid yn unig yn rhoi’r data sydd ei angen arnom i allu dangos dyfnder a lled y cymorth rydyn ni’n ei ddarparu i fudiadau trydydd sector Torfaen, ond mae hefyd yn fy helpu i fel offeryn rheoli i reoli perfformiad y mudiad a’i staff.’

RHAGOR O WYBODAETH

Mae gan fudiadau nid-er-elw yr hawl i gael deg tanysgrifiad Salesforce am ddim drwy’r rhaglen Power of Us. Mae’r Pecyn Llwyddiant Nid-er-elw (NPSP) (Saesneg yn unig) yn rhoi system rheoli cysylltiadau cwsmeriaid (CRM) cyflawn i’ch mudiad.

A hoffech chi wybod rhagor?

Lawrlwythwch y canllawiau cyflawn ar Salesforce i Fudiadau Nid-er-elw (Saesneg yn unig).