Mae Hayley Richards o Cymru Global yn tynnu sylw at gyfle pwysig i gymryd rhan yn y Deml Heddwch – cartref ‘heddwch, cyfiawnder cymdeithasol a gweithredu dros yr hinsawdd’ – a llunio ei dyfodol.
Roeddwn i wedi bod yn byw yng Nghaerdydd am bron 15 mlynedd ac yn cerdded heibio i’r Deml Heddwch ac Iechyd rhestredig Gradd II bron bob dydd, yn gyntaf fel myfyriwr ac yna fel rhywun a oedd yn byw ac yn gweithio yn y ddinas. Prin y meddyliais ddwywaith am y Deml ac nid oeddwn erioed wedi dychmygu y byddwn yn cael y fraint rhyw ddydd o’i galw’n swyddfa ac y byddai’r adeilad a’i hanes yn cipio fy nghalon.
SUT Y DECHREUODD Y CYFAN
Ym 1938, fe wnaeth sylfaenydd y Deml Heddwch ac Iechyd, David Davies, ‘adael [y Deml] yn ei ewyllys i’r genedl’. Cafodd ei hagor gan Minnie James, mam o Ddowlais a oedd wedi colli tri mab yn y rhyfel ac ers hynny, mae wedi bod yn ganolfan ar gyfer meithrin heddwch, undod rhyngwladol ac iechyd.
Mae’r lle gymharol anhysbys a hudolus hwn a gaiff ei gamddeall yn aml yn bwrw ei swyn dros unrhyw un sy’n cael y cyfle i gamu drwy’r drysau. Heddiw mae’n bencadlys i Cymru Global (a elwid gynt yn Ganolfan Materion Rhyngwladol Cymru) ac mae ein cysylltiadau â’r Deml yn ymestyn yn ôl i Undeb Cynghrair y Cenhedloedd Cymru, ein rhiant-fudiad, y gwnaeth ei 60,000 o aelodau godi arian tuag at ei hadeiladu.

YMGYRCHWYR HEDDWCH A CHYFIAWNDER CYMRU
Yn fy mhum mlynedd o weithio yma, rwyf wedi dysgu nad cael ei hadeiladu fel man coffa ar ôl dinistr y Rhyfel Byd Cymru yn unig yw’r Deml; adeiladwyd hi i ‘yrru’ cenhadaeth genedlaethol dros Gymru i greu byd gwell i genedlaethau’r dyfodol.
Hyd yn oed cyn i’r Deml gael ei hadeiladu, roedd pobl Cymru wedi dechrau gweithio tuag at ddyfodol ‘llawn gobaith’ ac mae straeon cenedlaethau o heddychwyr ac ymgyrchwyr cyfiawnder yn cael eu cadw o fewn ei muriau bellach.

Y DYFODOL: CREU BYD CYFIAWN
Gyda’r etifeddiaeth enfawr hon, mae gan Cymru Global esgidiau mawr i’w llenwi. Mae ein strategaeth hirdymor newydd hyd 2075 yn ein hymrwymo i ddysgu, cydweithio a gweithredu dros heddwch, cyfiawnder cymdeithasol a hinsawdd, gan adeiladu cenedl o ddinasyddion byd-eang sy’n defnyddio gweithredu lleol i greu byd cyfiawn. Mae’r gwaith hwn wedi’i wreiddio yn y Deml Heddwch ond yn estyn allan at bobl ledled Cymru a’r byd.
Yn 2038, byddwn yn dathlu 100 mlynedd ers agor. Pa straeon fydd yn datblygu o’r Deml erbyn y canmlwyddiant nesaf tybed a pha rôl all y Deml ei chwarae mewn creu Cymru a byd lle mae pobl a’r blaned yn ffynnu mewn cydbwysedd? Gyda chymorth yr *Architectural Heritage Fund, mae Cymru Global yn myfyrio ar y cwestiynau hyn ac mae angen eich help arnom. Pa freuddwydion allai ddatblygu pe baem ni’n rhyddhau pŵer ein dychymyg cyfunol i feddwl am ddyfodol y Deml?
BETH SYDD EI ANGEN AR EIN CYMUNEDAU O’R DEML
Dim ond un o’r chwe choridor o fewn y Deml sy’n cael ei ddefnyddio ar hyn o bryd, sy’n golygu bod potensial i 30 o fannau gwag gael eu defnyddio fel swyddfeydd bach neu fannau cymunedol mwy.
A yw eich mudiad neu grŵp cymunedol yn chwilio am swyddfa, ystafelloedd cyfarfod neu fannau i gynnal gweithdai? A ydych chi’n artist neu’n gerddor sy’n chwilio am stiwdio, man perfformio neu ofod arddangos? A hoffech chi redeg caffi cymunedol neu ganolfan lles? A ydych chi’n fenter gymdeithasol sy’n chwilio am leoliad canolog ar gyfer eich busnes?
Beth sydd ei angen ar ein cymunedau o’r Deml a sut gallwn ni ei gwneud yn fwy hygyrch a chroesawgar i bawb? Byddem yn ddiolchgar iawn am bum munud o’ch amser i rannu eich syniadau yn yr arolwg byr hwn. Byddwn hefyd yn cynnal rhai digwyddiadau wyneb yn wyneb yn yr Hydref felly cysylltwch â ni os hoffech gymryd rhan yn y rhain.

RHAGOR O WYBODAETH
Os ydych chi’n chwilfrydig i ddysgu mwy, os hoffech ymweld â’r Deml neu drefnu sgwrs gydag aelod o’n tîm, cysylltwch â croeso@cymru.global a nodwch y teitl ‘Teml y Dyfodol’ ar eich e-bost.
Mewn byd lle gall heriau deimlo’n drech na chi, a allwn ni ddefnyddio’r Deml fel ffagl gobaith ar gyfer y dyfodol unwaith eto? Gyda’ch help chi, rydyn ni’n credu y gallwn ni.
*Saesneg yn unig
