Mae Fiona Liddell, Rheolwr Helplu Cymru yn myfyrio ar weithdy a ddefnyddiodd storïau gofal iechyd y cyfranogwyr eu hunain i ddychmygu dyfodol gwell.
Gwnaeth cynhadledd Comisiwn Bevan ym mis Gorffennaf, ‘Y pwynt tyngedfennol – Lle nesaf i iechyd a gofal?’ ein hannog ni i feddwl yn ofalus am y dyfodol rydyn ni eisiau ei weld.
Gwnaeth ein gweithdy wahodd cyfranogwyr i feddwl am ryngweithiad pwysig yr oedden nhw neu rywun a oedd yn agos iddyn nhw wedi’i gael gyda’r gwasanaeth iechyd a rhoi hwn ar bapur. Yn nes ymlaen, gofynnwyd iddyn nhw ‘feddwl ymlaen’ i’r flwyddyn 2048 ac ailfeddwl sut byddai’r senario hwnnw’n wahanol mewn system iechyd gwell yn y dyfodol.
Ni fydd rhai o’r themâu a ddaeth i’r amlwg yn syndod, ond mae manylion y storïau a rannwyd ganddyn nhw’n bwerus. Clywsom droeon sut byddai newidiadau bach yn gwneud gwahaniaeth mawr i brofiad, iechyd a lles rhywun.
Efallai na fydd y GIG byth yn gallu darparu’r gofal holistaidd sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn rydyn ni’n anelu amdano, ond trwy weithio law yn llaw gyda mudiadau gwirfoddol a chymunedol a chyda gwirfoddolwyr, efallai y gallwn ni gyflawni lefel mwy cyflawn a phellgyrhaeddol o ofal na fyddai’n bosibl fel arall.
Dyma ddetholiad o storïau (wedi’u rhannu’n ddienw a’u golygu), sy’n dangos rhai o’r newidiadau syml sy’n bwysig i bobl.
GOFAL HOLISTAIDD
‘Gwnaeth fy mam ganfod lwmp ar y frest a bu’n ddigon dewr i fynd at y meddyg am gyngor. Ar ôl hyn, cafodd driniaeth (a oedd wedi’i dychryn ei holl oes), a chanlyniad positif. Gwrthododd gysylltiad cymdeithasol a chysylltiad â’r sector gwirfoddol oherwydd ei chredoau ei hun.’
Yn y dyfodol – ‘Gallai’r sector gwirfoddol gael ei gynrychioli o fewn meysydd ymgynghori, gan alluogi cysylltiad â chymuned gymdeithasol a gwirfoddoli. Byddai gwerth cymorth o’r fath yn cael ei ddeall yn dda.’
‘Mynd â fy merch i’r adran Damweiniau ac Achosion Brys – pobl yn symud o gwmpas mewn amgylchedd prysur. Roeddwn i wedi fy llethu. Ddim yn brofiad da fel rhiant awtistig.’
Yn y dyfodol – ‘Digon o amser i gynllunio a phacio pethau fel plygiau clust er mwyn lleihau’r sŵn. Lle glân a thawel i aros ac ychydig o gydnabyddiaeth o sbardunau gorbryder sy’n effeithio arna i. Pan rydw i’n iach gallaf roi gofal gwell i’m mhlentyn.’
‘Roedd dyn o Wcráin yn ein meddygfa yn gofyn am nodyn wedi’i lofnodi gan y meddyg ar gyfer tocyn bws. Roedd yn cael anhawster gyda’r iaith a’r oedi ac yn amlwg yn teimlo’n rhwystredig ac wedi’i gynhyrfu. Ailadroddodd y derbynnydd “mae e’ gyda’r meddyg”, dweud wrth y dyn bod ei agwedd yn ymosodol a cherdded ymaith.’
Yn y dyfodol – ‘Byddai gan “gysylltydd” gofal iechyd amser i wrando a siarad am ei bryderon mewn lle tawel. Ni fyddai angen i feddyg lofnodi’r tocyn bws. Byddai gwybodaeth arall am gymorth lleol yn cael ei gynnig.’
CYDLYNU A CHYFATHREBU
‘Ffoniais i drefnu sgan CT. Nid oedd yr ysbyty yn ymwybodol fy mod wedi bod mewn ysbyty arall o fewn yr ardal leol.’
Yn y dyfodol – ‘Byddai gennym ni gofnodion cleifion electronig ledled Cymru.’
‘Roedd curiad calon fy merch yn afreolaidd ers cael COVID-19. Cafodd ECG [Electrocardiogram] ond aeth misoedd heibio heb ganlyniadau. Cawsom ni apwyntiad i weld y pediatregydd. Roedd ef a ninnau’n meddwl y byddem ni’n trafod canlyniadau’r ECG – ond rydyn ni’n dal i aros ac yn poeni. Mae’n cael pyliau o banig ac yn ofn gwneud ymarfer corff ac ati. Gwnaethom ni dalu am sesiynau EFT (Techneg Rhyddid Emosiynol) i reoli’r gorbryder.’
Yn y dyfodol – ‘Ni fyddai plant a theuluoedd yn cael eu pasio rhwng pediatregwyr a chlinigwyr arbenigol fel hyn. Y peth cyntaf fyddai ar feddwl staff iechyd fyddai materion yn ymwneud â lles ehangach. Byddai’n hawdd cael gafael ar wybodaeth am fecanweithiau ymdopi a strategaethau i ymdrin â straen emosiynol/ofn salwch o fewn lleoliadau addysg a chymunedol.’
‘Roedd iechyd a chof fy mam yn dirywio a’i gorbryder yn cynyddu. Cafodd lliaws o brofion ac asesiadau heb gydlyniad – pawb yn ceisio cynorthwyo o bell. Ni all mam gadw i fyny â phopeth ac mae wedi anghofio ei stori ei hun.’
Yn y dyfodol – ‘Bydd y gofal wedi’i gydlynu’n well, gyda chymorth gwirfoddol i’w chael hi i leoedd, i’w helpu hi i ddeall beth sy’n mynd ymlaen ac i ddeall ei stori.’
ATAL A HUNANGYMORTH
‘Mae fy merch 11 oed yn hunan-niweidio a chafodd ei hatgyfeirio gan y meddyg teulu i gael ei hasesu. Nid yw’r achos yn ddigon difrifol i CAMHS (Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a’r Glasoed). Cafodd ei hatgyfeirio i’r trydydd sector ond rydym ni’n ei chael hi’n anodd cael help. Mae opsiynau eraill, preifat yn ddrud. Mae’n teimlo fel petaem ni’n gorfod cwrso pobl o hyd. Yn y cyfamser, mae’r hunan-niweidio wedi mynd yn waeth.’
Yn y dyfodol – ‘Byddai “perchenogaeth” well o’r claf. Byddai llwybr claf digidol yn caniatáu i’m merch i gadw llygad ar ei symptomau ei hunan. Byddai help priodol ar gael ar adeg amserol.’
‘Mae gennyf ddiabetes math 2 sy’n cael ei reoli’n dda, rwy’n credu. Roeddwn i’n arfer cael archwiliad blynyddol, ond diflannodd hwn yn ystod COVID. Rwy’n gorfod cymryd yr awenau nawr a gofyn i gael profion.’
Yn y dyfodol – ‘Byddai profion hunanofal yn beth cyffredin, gyda’r canlyniadau yn mynd yn syth at yr arbenigwyr. Gallai’r sector gwirfoddol gymryd rhan drwy wirio fy mod i’n gwneud y profion. Mae hunanofal o fudd i mi ac i’r GIG.’
Y WELEDIGAETH AR GYFER Y DYFODOL
Cafodd y gweithdy ei hwyluso gan Fran Targett a Mary Cowern – Cyd-Gadeiryddion Helplu Cymru gyda Jo Davies (Pennaeth Iechyd a Gofal Cymdeithasol, CGGC) a minnau.
Bydd yr holl storïau a gasglwyd yn cael eu bwydo i mewn i sgwrs genedlaethol (tudalen we Saesneg yn unig) ar ddyfodol ein gwasanaethau iechyd, sy’n cael ei harwain gan Gomisiwn Bevan.
Rydym wedi gosod ein gweledigaeth ar gyfer gwirfoddoli o ran iechyd a gofal cymdeithasol mewn papur: Gwerthoedd a gwerth gwirfoddoli – ein hased cudd ac wrthi’n gweithio ar bapur ategol am rôl y sector gwirfoddol. Cadwch lygad allan amdano!
YNGLŶN Â HELPLU CYMRU
Mae Helplu Cymru yn gweithio gyda Chefnogi Trydydd Sector Cymru (CGGC ac 19 o Gynghorau Gwirfoddol Sirol (CVCs)), Llywodraeth Cymru a phartneriaid eraill i ddatblygu potensial gwirfoddoli i gefnogi gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru.
Ewch i dudalen we Helplu Cymru, neu i dderbyn diweddariadau ar e-bost, cofrestrwch yma a dewiswch yr opsiwn ‘gwirfoddoli iechyd a gofal’.