Ar ôl rhannu arweiniad ymarferol ar y daith i sero net yn gofod3, mae Kim Page, Rheolwr Datblygu Busnes, yn egluro sut mae Utility Aid yn ei gwneud hi’n haws i elusennau bach newid darparwr ynni.
Yn dilyn sesiwn ffantastig yn gofod3 gydag CGGC, lle cefais y pleser o redeg gweithdy ar ‘Dechrau eich taith sero net’, roeddwn eisiau myfyrio ar her allweddol a gafodd ei grybwyll droeon yn ystod y drafodaeth: pa mor anodd y mae’n gallu bod i elusennau bach newid darparwyr ynni.
Mae llawer o fudiadau bach eisoes wedi’u gorymestyn wrth ganolbwyntio ar ddarparu gwasanaethau, cydlynu gwirfoddolwyr a chodi arian. Gall y syniad o bori trwy dariffau ynni cymhleth neu derminoleg anghyfarwydd deimlo’n ormod o waith caled i newid.
Dyma le rydyn ni eisiau helpu.
EIN HADNODD AM DDIM AR GYFER CYMHARU DARPARWYR
Mae Utility Aid, noddwyr balch gofod3, yn ymrwymedig i symlhau’r broses hon. Rydyn ni’n deall bod angen adnoddau ymarferol sy’n arbed amser ar elusennau bach i gefnogi eu nodau cynaliadwyedd. Dyna pam rydyn ni wedi datblygu gwefan Newid am ddim*! Mae hon wedi’i dylunio’n benodol ar gyfer y sector gwirfoddol. Mae’n caniatáu i chi gymharu darparwyr, deall eich opsiynau a gwneud penderfyniadau cyflym a hawdd ar sail gwybodaeth.
Newid i dariff gwyrddach yw un o’r camau symlaf y gall elusen ei gymryd i leihau ei hôl troed carbon. Mae hefyd yn anfon neges bwerus i gyllidwyr a chefnogwyr: bod eich mudiad yn ymrwymedig i chwarae ei ran i leihau’r carbon y mae’n ei ddefnyddio.
DECHRAU CYFLYM I SERO NET SYDD HEFYD YN ARBED ARIAN
Yn ystod y gweithdy, gwnaethom siarad am rannu’r daith sero net yn gamau bach syml. Lle da i ddechrau yw newid eich cyflenwad ynni. Mae’n rhad ac yn gyflym iawn i’w wneud, a gall ddatgloi arbedion y gellir eu buddsoddi’n ôl i mewn i’ch cenhadaeth graidd.
Gwyddom nad yw un datrysiad yn mynd i weithio i bawb, bydd taith pob mudiad yn wahanol. Ond gyda’r adnoddau a’r cymorth iawn, ni ddylai’r un elusen deimlo ei bod yn cael ei gadael ar ôl.
Os nad ydych chi’n siŵr ble i ddechrau, neu os hoffech chi edrych ar eich opsiynau, ewch i’n gwefan Newid Safle heddiw*.
*Saesneg yn unig