Menyw wenu yn adolygu biliau mewn cegin

Deall eich bil ynni: taliadau ynni a thaliadau gwasanaethau

Cyhoeddwyd: 31/03/26 | Categorïau: Gwybodaeth a chymorth, Awdur: Stephanie Steele

Gyda’r newidiadau disgwyliedig i filiau ynni, eglura Stephanie Steele, Rheolwr Partneriaethau Utility Aid, beth allai hyn ei olygu i fudiadau gwirfoddol, gan ddadansoddi strwythur biliau ynni.

Gyda’r taliadau am ddefnyddio’r system trawsyrru ynni (TNUoS) yn debygol o godi tua 60%, mae’n ddealladwy bod llawer o fudiadau’n bryderus am beth mae hyn yn ei olygu i’w costau trydan gan fod hyn fel arfer yn cyfri am 5-10% o fil trydan cwsmer.

Yn sgil y cynnydd hwn, fe fydd y darn hwn yn dadansoddi sut mae biliau ynni wedi’u strwythuro ac yn egluro’r gwahaniaeth rhwng taliadau ynni a thaliadau gwasanaethau. Bydd hyn yn rhoi mwy o ddealltwriaeth i elusennau a chwmnïau nid-er-elw o ble mae eu harian yn mynd a pham all costau godi hyd yn oed pan maen nhw’n defnyddio’r un faint.

GWELD CODIADAU ANNISGWYL

Os ydych chi erioed wedi edrych ar fil ynni a theimlo’n ddryslyd gan y dadansoddiad, nid chi yw’r unig un. Nid yw’r rhan fwyaf o anfonebau yn egluro beth yn gwmws rydych chi’n talu amdano mewn ffordd ddealladwy – na pham y gall costau newid hyd yn oed pan rydych chi’n defnyddio’r un faint.

Yn *Utility Aid, rydyn ni’n bodoli i dynnu’r cymhlethdod hwnnw oddi ar eich ysgwyddau. Rydyn ni’n helpu elusennau a mudiadau nid-er-elw i gael contractau ynni gwell, osgoi gordaliadau a gwneud synnwyr o filiau sy’n aml yn codi mwy o gwestiynau nag y maen nhw’n eu hateb.

Mae’r canllaw hwn yn rhannu’r ddwy brif ran o unrhyw fil ynni: taliadau ynni a thaliadau gwasanaethau. Gall deall y gwahaniaeth eich helpu chi i weld codiadau annisgwyl, cymharu dyfynbrisiau’n fwy cywir a herio costau sydd ddim yn edrych yn iawn.

DWY BRIF RAN BIL YNNI

Ar lefel uchel, mae’r rhan fwyaf o filiau nwy a thrydan yn cynnwys dwy elfen eang:

Taliadau ynni

Dyma’r rhan fwyaf cyfarwydd o’r bil – cost yr ynni rydych chi’n ei ddefnyddio mewn gwirionedd.

  • Wedi’i fesur mewn cilowat awr (kWh)
  • Yn union gysylltiedig â faint o ynni y mae eich mudiad yn ei ddefnyddio
  • Y darn y mae’r rhan fwyaf o bobl yn edrych arno wrth gymharu cyflenwyr

Taliadau gwasanaethau

Taliadau gwasanaethau yw’r costau ychwanegol sydd eu hangen i gludo’r ynni i’ch safle a chefnogi’r system ynni ehangach. Nid yw’r rhain yn gysylltiedig â’ch defnydd bob dydd yn yr un modd â thaliadau ynni.

Er nad yw’r rhain mor amlwg yn aml, gall taliadau gwasanaethau gyfrif am gyfran sylweddol o gyfanswm eich bil ynni – weithiau cymaint â 60% o’r hyn rydych chi’n ei dalu.

BETH YW TALIADAU GWASANAETHAU?

Mae taliadau gwasanaethau yn cynnwys amrediad o gostau a osodir gan weithredwyr rhwydwaith, rheoleiddwyr a pholisïau llywodraethol yn hytrach na’r cyflenwyr ynni eu hunain.

Fel arfer, mae’r costau hyn yn:

  • Cael eu bwndelu mewn cyfraddau uned a thaliadau sefydlog
  • Cael eu hegluro’n wael mewn anfonebau
  • Rhwym wrth newid rheoleiddiol

Dyma beth maen nhw fel arfer yn eu cynnwys:

Taliadau rhwydwaith trydan

Mae’r rhain yn talu am gynnal a chadw a gweithredu’r rhwydweithiau trydan sy’n cludo ynni i’ch safle.

  • Defnyddio’r system ddosbarthu (DUoS): Mae hwn yn cynnwys cost eich rhwydwaith dosbarthu lleol – y polion, gwifrau ac is-orsafoedd sy’n dod â thrydan i’ch drws. Mae’r taliadau yn amrywio yn ôl rhanbarth, math o safle a chapasiti.
  • Defnyddio’r system trawsyrru ynni (TNUoS): Mae hwn yn talu am y rhwydwaith trawsyrru ynni foltedd uchel sy’n symud trydan ar draws y wlad. Mae’r taliadau yn dibynnu ar eich lleoliad a phryd rydych chi’n defnyddio ynni.

Taliadau rhwydwaith nwy

  • Taliadau’r rhwydwaith dosbarthu nwy (DN): Mae hwn yn seiliedig ar eich lleoliad a’ch proffil defnyddio. Mae gan ardaloedd gwahanol weithredwyr rhwydwaith gwahanol, sy’n golygu costau gwahanol.
  • Nwy Anhysbys (UID): Nwy Anhysbys (UID) yw’r gwahaniaeth rhwng cyfanswm y nwy sy’n cael ei roi i mewn i’r rhwydwaith cenedlaethol a’r swm a gofnodir sy’n cael ei ddefnyddio gan gwsmeriaid. Gall y cam-gymharu hwn ddigwydd oherwydd oediadau cyn cael darlleniadau mesuryddion neu wallau yn y data. Caiff cost y diffyg hwnnw ei rhannu ar draws cyflenwyr a gall gael ei phasio i gwsmeriaid drwy eu biliau.
  • Taliadau’r System Trawsyrru Cenedlaethol (NTS): Mae hwn yn talu’r gost o symud nwy ar draws system trawsyrru pwysedd uchel y DU.

Ardollau amgylcheddol a chymdeithasol

Mae’r rhain yn cefnogi cynlluniau llywodraethol sydd wedi’u dylunio i leihau allyriadau carbon neu amddiffyn defnyddwyr ynni agored i niwed, fel:

  • Rhwymedigaeth Ynni Adnewyddadwy (RO): Cefnogi prosiectau ynni adnewyddadwy mawr
  • Tariffau cyflenwi trydan (FiTs): Talu cynhyrchwyr am drydan adnewyddadwy ar raddfa fechan
  • Contractau ar gyfer Gwahaniaeth (CfD): Sybsideiddio cynhyrchiad ynni carbon isel
  • Taliadau marchnad capasiti: Sicrhau bod digon o gapasiti i gynhyrchu trydan wrth gefn
  • Sylfaen Asedau Rheoledig (RAB) Niwclear: Mae’r tâl RAB Niwclear a godir yn helpu i gyllido prosiectau ynni niwclear yn y DU

Weithiau, gall cymhwysedd, esemptiad neu gymorth fod yn gymwys, yn dibynnu ar eich mudiad a’ch proffil defnyddio.

Ardoll Newid Hinsawdd (CCL)

Mae llawer o elusennau yn gymwys i gael esemptiad llawn gan CCL, cyhyd â bod yr ynni a ddefnyddir at ddibenion elusennol ar wahân i fusnes. Gall hyn arwain at arbedion ystyrlon os caiff ei ddefnyddio’n gywir – ond nid yw cyflenwyr yn ei gael yn iawn bob amser.

Taliadau mesuryddion a data

Mae’r rhain yn talu’r gost o weithredu, cynnal a chadw a darllen mesuryddion ynni, gan gynnwys casglu data bob hanner awr lle y bo’n berthnasol.

Costau system eraill

Gall taliadau ychwanegol fod yn gymwys i gydbwyso’r cyflenwad a’r galw ar draws y system ynni neu i reoli cyfnodau pan ddefnyddir mwy o ynni.

A ALL TALIADAU AM WASANAETHAU NEWID YN YSTOD CONTRACT?

Gallant – ac yn aml, nid yw mudiadau yn barod am hyn.

Efallai y bydd angen i gyflenwyr ynni ailagor contractau presennol er mwyn addasu’r rhan o’ch bil sy’n ymwneud â gwasanaethau. Fel arfer, daw hyn yn sgil newidiadau a gyflwynir gan y llywodraeth neu reoleiddwyr, fel ardollau newydd, cynlluniau amgylcheddol diwygiedig neu ddiwygiadau i daliadau rhwydwaith a system.

Gan fod y costau hyn wedi’u gosod y tu allan i reolaeth y cyflenwr ac yn gallu newid yn ystod oes contract, gall cyflenwyr basio’r addasiadau hyn i gwsmeriaid, yn unol â’r telerau a gytunwyd ar y dechrau.

Yn ddealladwy, gall hyn deimlo’n rhwystredig iawn, ond mae’r newidiadau hyn yn adlewyrchu’r pwysau polisi a rheoleiddiol ehangach yn hytrach na newidiadau i’r ynni rydych chi’n ei ddefnyddio neu ymylon cyflenwyr. Dyma un o’r rhesymau pam y gall biliau ynni godi hyd yn oed pan fo’r un faint o ynni yn cael ei ddefnyddio.

PAM MAE DEALL HYN YN BWYSIG I GWMNÏAU NID-ER-ELW

I elusennau a mudiadau nid-er-elw, mae pob punt a gaiff ei wario ar ynni yn bunt na gaiff ei wario ar ddarparu gwasanaethau.

Mae deall taliadau gwasanaethau yn eich helpu chi i:

  • Weld codiadau annisgwyl yn eich biliau a gofyn y cwestiynau cywir
  • Cymharu contractau’n fwy cywir (nid y gyfradd uned rataf yw’r fargen orau bob amser)
  • Gwybod a oes cymorth neu esemptiadau yn gymwys i’ch mudiad
  • Cyllidebu’n fwy hyderus ar gyfer costau yn y dyfodol
  • Herio taliadau pan nad yw rhywbeth yn edrych yn iawn

Mae hefyd yn golygu na fyddwch mor agored i wallau bilio – sy’n fwy cyffredin nag y meddyliech chi.

SUT GALL UTILITY AID HELPU

Rydyn ni’n edrych ar daliadau gwasanaethau fel rhan o bob contract rydyn ni’n ei reoli. Mae hyn yn golygu gwirio am ordaliadau, sicrhau bod esemptiadau yn cael eu cymhwyso’n gywir a sylwi ar newidiadau cyn iddynt gyrraedd eich bil.

Os nad ydych chi’n siŵr a yw eich biliau’n gywir, neu os hoffech chi i ni edrych ar faint rydych chi’n ei dalu ar hyn o bryd, *cysylltwch â ni. Fe wnawn ni edrych ar eich anfonebau, egluro ein canfyddiadau a rhoi gwybod i chi os oes unrhyw beth y gallwn ni ei wneud i helpu.

Dim ffỳs. Dim dwli. Dim ond cymorth syml gan bobl sy’n deall ynni ac eisiau gwneud pethau’n symlach i chi.

 

*Saesneg yn unig