Ym mis Mai, aeth Marjana Khatun-Kootin, Swyddog Cymorth Grantiau CGGC, i ddathliad 20 mlynedd EYST Cymru.
Wedi’i sefydlu gan Momena Ali, mae *Tîm Cymorth Lleiafrifoedd Ethnig ac Ieuenctid Cymru (EYST) wedi ffynnu i fod yn fudiad arobryn sy’n cefnogi pobl ifanc, teuluoedd ac unigolion ethnig lleiafrifol o bob oed ym mhob cwr o Gymru.
Ar ddechrau Mai 2025, cefais y pleser pur o fynd i ddathliad 20 mlynedd EYST Cymru – ac am brynhawn ysbrydoledig!
DOD Â CHYMUNEDAU YNGHYD
Cafodd y digwyddiad ei gynnal yn adeilad godidog Neuadd Brangwyn yn Abertawe, lle daeth cymysgedd fywiog o gefnogwyr, staff a buddiolwyr at ei gilydd o bob rhan o Gymru. Wedi fy magu yn Abertawe, yr union ddinas lle y dechreuodd EYST ei daith yn 2005, roedd yn wefreiddiol tu hwnt i weld yr effaith anhygoel y mae’r mudiad hwn wedi’i chael ar bobl ifanc a theuluoedd amrywiol ledled Cymru dros y ddau ddegawd diwethaf.
Llenwyd y prynhawn ag areithiau pwerus, teyrngedau fideo trawiadol ac adegau twymgalon a amlygodd y brwdfrydedd a’r gwydnwch y tu ôl i genhadaeth EYST. Un o’r adegau sy’n fyw yn y cof i mi oedd clywed gan Momena, sylfaenydd EYST. Roedd ei stori hi nid yn unig yn ysbrydoledig; roedd hefyd yn ein hatgoffa o bâm bod y gwaith hwn mor hanfodol.
Roedd yn deimladwy tu hwnt ei gweld hi’n cael ei hanrhydeddu gyda theyrnged hyfryd a’r gydnabyddiaeth y mae’n wirioneddol ei haeddu.
LLEISIAU DYLANWADOL
Clywsom hefyd gan amrediad o leisiau dylanwadol, gan gynnwys y cyn-Brif Swyddog Gweithredol, Rocio Cifuentes, sydd bellach yn Gomisiynydd Plant Cymru, yn ogystal â Shehla Khan, Cadeirydd y Bwrdd Ymddiriedolwyr, Jane Hutt, Ysgrifennydd y Cabinet dros Ddiwylliant a Chyfiawnder Cymdeithasol, a neges fideo hyfryd gan Brif Weinidog Cymru, Eluned Morgan. Gwnaeth pob siaradwr amlygu’r effaith ddofn a pharhaol y mae EYST wedi’i chael ledled cymunedau yng Nghymru.
Y tu hwnt i’r areithiau, roedd y digwyddiad yn llawn llawenydd a digonedd o fwyd blasus, i gyd wedi’u lapio mewn awyrgylch cynnes o gymuned, perthyn a diben a rennir. Hwn oedd y fath o ddigwyddiad s’n eich atgoffa o bâm bod gwaith ar lawr gwlad mor bwysig a sut gall gweithredu ar y cyd drawsnewid bywydau’n ddiau.
Llongyfarchiadau i bawb yn EYST Cymru ar 20 mlynedd o waith diflin sydd wedi newid bywydau. Pob dymuniad da i’r 20 mlynedd nesaf a thu hwnt!
RHAGOR O WYBODAETH
I ddysgu mwy am waith anhygoel EYST, ewch i’w *gwefan am ragor o wybodaeth.
*Saesneg yn unig