Ymateb Lindsay Cordery-Bruce, Prif Weithredwr CGGC, i’r drafodaeth ar wirfoddoli gorfodol i bobl ifanc wedi’i gyllido trwy ddod â’r UKSPF i ben.
Rydym yn croesawu’r drafodaeth a gododd dros benwythnos gŵyl y banc yn sgil adduned Plaid Geidwadol y DU ynghylch y gwasanaeth cenedlaethol. Yn rhy aml o lawer, mae’r meysydd polisi hanfodol sy’n ymwneud â gwirfoddoli cymunedol a chyfranogiad dinesig yn cael eu hepgor o drafodaethau etholiadau cyffredinol.
Er ein bod yn cydnabod y byddai llawer o fanylion y cynllun arfaethedig yn cael eu llunio gan Gomisiwn Brenhinol, mae gennym bryderon cryf ynghylch cyfeiriad rhai o’r cynlluniau polisi a chyllido a nodwyd ar ei gyfer.
MAE GWIRFODDOLI YN WEITHGAREDD Y MAE POBL YN DEWIS EI WNEUD O’U GWIRFODD
Byddai’r *cynllun gwasanaeth cenedlaethol arfaethedig yn gofyn i bobl 18 oed ddewis rhwng cofrestru ar raglen hyfforddiant milwrol blwyddyn o hyd a gwirfoddoli un penwythnos y mis am flwyddyn. Byddai’n ofynnol yn ôl y gyfraith i gymryd rhan yn y cynllun a byddai gwrthod â chymryd rhan yn arwain at gosbau anhroseddol nad ydynt wedi’u nodi eto.
Nid yw’r cynllun, fel y’i rhagwelir ef ar hyn o bryd, yn cyd-fynd â’n diffiniad ni o wirfoddoli fel gweithgaredd y mae pobl yn dewis ei wneud o’u gwirfodd. Ynghyd â hyn, nid yw’r cyhoeddiadau hyd yma yn cydnabod y cyfraniad gweithredol y mae pobl ifanc eisoes yn ei wneud o fewn eu cymunedau lleol. Mae llawer eisoes yn cymryd rhan, er ein bod wedi sylwi ar lai o wasanaethau i bobl ifanc dros y bum mlynedd ddiwethaf.
Er bod cynllun i gyflwyno cyfleoedd i bobl ifanc waeth beth yw eu cefndir i’w ganmol, rydym yn poeni am y canlyniadau anfwriadol a allai godi o’u gorfodi i gymryd rhan. Sut ddarlun o ‘wirfoddoli’ fydd hyn yn ei greu i bobl ifanc? A oes tystiolaeth i awgrymu bod hwn yn fodd effeithiol o greu brwdfrydedd gydol oes am wirfoddoli?
CYLLIDO’R CYNLLUN
Amcangyfrifir y bydd y cynllun hwn yn costio oddeutu £2.5 biliwn. Cynigir dod o hyd i £1.5 biliwn o’r costau hyn drwy arallgyfeirio holl gyllid cynllun Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU (UKSPF).
Dyluniwyd yr UKSPF i ddisodli cronfeydd strwythurol yr UE, a hwn oedd un o brif nodweddion agendâu ffyniant bro’r tri chabinet Ceidwadol diwethaf. Mae’n bryderus iawn clywed bod y blaid yn bwriadu dod â’r cynllun i ben os cânt eu hethol.
Byddai hyn yn cael effaith negyddol enfawr ar y gwaith mawr ei angen i leihau anghysondebau economaidd a chymdeithasol ledled y DU, ac ar allu’r sector gwirfoddol i gyfrannu ato.
CYNLLUN AR GYFER Y SECTOR GWIRFODDOL A GWIRFODDOLI
Mae’r sector gwirfoddol a gwirfoddoli yn chwarae rhan dyngedfennol mewn cymunedau ar hyd a lled y DU, ond rydym yn sector sydd ar ymyl y dibyn. Wrth i ni agosáu at yr etholiad cyffredinol, rydym eisiau gweld pob plaid yn amlinellu cynllun eglur ar gyfer gweithio gyda’r sector gwirfoddol.
Mae’n rhaid iddynt nodi a gweithredu polisïau effeithiol am ddyfodol cynaliadwy, lle gall y sector gwirfoddol a gwirfoddolwyr chwarae rôl lawn mewn bodloni’r heriau y mae pob un ohonom yn eu hwynebu.
MWY AR YR ETHOLIAD CYFFREDINOL
Gyda’r etholiad ar y gorwel, efallai fod gennych gwestiynau am sut gall elusennau ymgyrchu dros y misoedd nesaf. Os felly, cofrestrwch ar gyfer y sesiwn hwn yn gofod3 wythnos nesaf gyda Geldards – Diweddariad ar weithgarwch gwleidyddol a’r gyfraith elusennau.
Bydd gofod3 yn cael ei gynnal yn ystod Wythnos Gwirfoddolwyr arbennig iawn sy’n dathlu 40 blynedd – 5 Mehefin 2024 yn Stadiwm Dinas Caerdydd.
Fel yn y blynyddoedd cynt, bydd y digwyddiad am ddim i fynychu, ond gyda dim ond nifer penodol o leoedd ar bob sesiwn, rhaid archebu lle ymlaen llaw, dyma’r rhaglen lawn o ddigwyddiadau.
*Saesneg yn unig