Dwylo mewn gliniadur gyda swigen siarad yn llawn eiconau

Datblygu Digidol

Cyhoeddwyd: 19/07/21 | Categorïau: Heb gategori, Awdur: CGGC

Sut mae CGGC, Canolfan Cydweithredol Cymru a phartneriaid eraill yn cydweithio i ddatblygu galluoedd digidol y sector gwirfoddol yng Nghymru.

Mae pandemig COVID-19 wedi pwysleisio’r angen am gyflenwi digidol yn gryf iawn ac, yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, cafwyd nifer o enghreifftiau llwyddiannus o fudiadau gwirfoddol yn newid ac yn addasu i gyflenwi gwasanaethau ar-lein. Mae’r newid hwn wedi agor ein llygaid i’r posibiliadau ond, hefyd, i bwysigrwydd mudiadau’n meddu ar yr adnoddau i ddatblygu eu cynnig digidol.

O ganlyniad i hyn, diolch i gyllid gan Lywodraeth Cymru, mae CGGC wedi bod yn gweithio mewn partneriaeth â Chanolfan Cydweithredol Cymru a nifer o bartneriaid eraill, i gyflenwi prosiectau a fydd yn helpu’r sector gwirfoddol yng Nghymru i ddatblygu ei alluoedd digidol.

Mae’r blog hwn yn rhoi trosolwg o’r prosiectau digidol cyffrous sydd ar waith.

DARGANFOD DIGIDOL

 Mae CGGC yn gweithio’n galed yn barhaus i adnabod anghenion ein haelodau a’r sector ehangach er mwyn sicrhau bod y cymorth cywir ar gael. Rydyn ni’n ymwybodol bod y maes digidol wedi cael ei adnabod fel un o’r heriau sy’n wynebu’r sector, yn enwedig ar ôl y pandemig a Brexit, a’r union gymorth y mae ei angen yn y gofod hwn.

Mae ProMo-Cymru wedi cael eu comisiynu i gynnal ymchwil ar sut mae’r trydydd sector yn defnyddio’r maes digidol ar hyn o bryd. Bydd hyn yn ein helpu ni i ddeall ac i ddiffinio pa gymorth y mae ei angen ar y sector er mwyn hysbysu rhaglenni’r dyfodol. Mae’r ymchwil hon yn dilyn cyflymu’r gwaith digidol yn ystod y pandemig a bydd yn ein helpu ni i sicrhau bod y sector yn gallu cynyddu’r cynnydd digidol a brofwyd yn ystod y cyfnod hwn.

Bydd ProMo-Cymru yn cynnal cyfweliadau gyda mudiadau gwirfoddol ar draws Cymru yn ogystal â chasglu gwybodaeth trwy gynnal arolwg agored.

SGILIAU A GALLU DIGIDOL

Cafwyd cynifer o straeon llwyddo o ran arloesi digidol yn cael ei ddefnyddio i gyflenwi gwasanaethau sector gwirfoddol ers dechrau’r pandemig ac mae’n bwysig ein bod ni, fel sector, yn adeiladu ar y newidiadau hyn. Fodd bynnag, gall arwain newid fod yn heriol felly mae darparu hyfforddiant i sicrhau bod arweinwyr yn teimlo’n hyderus wrth gyflenwi newid digidol ar gyfer eu mudiad yn hanfodol.

Penodwyd Ysgol Entrepreneuriaid Cymdeithasol (Saesneg yn unig) a Zoe Amar Digital (Saesneg yn unig) i gyflwyno cwrs hyfforddiant newydd ar gyfer y sector gwirfoddol yng Nghymru. Bydd y cwrs Arweinwyr Digidol yn helpu cyfranogwyr i fagu eu hyder wrth ysgogi newid digidol trwy ddiffinio sut y mae’r maes digidol yn cyd-fynd â’u strategaeth sefydliadol a sut i adnabod risgiau a chyfleoedd yn y gofod hwn.

Trwy’r hyfforddiant, bydd cyfranogwyr hefyd yn cael cyfle i ddysgu oddi wrth ei gilydd, gan adeiladu perthnasau rhwng arweinwyr sy’n gweithio yn y sector gwirfoddol yma yng Nghymru.

I ddysgu mwy am y prosiect hwn, dilynwch y ddolen hon.

TRAWSNEWID DIGIDOL

Yn ogystal â’r uchod, rydyn ni hefyd yn gweithio gyda Third Sector Lab (Saesneg yn unig) i roi cymorth ymarferol i nifer o fudiadau gwirfoddol â phrosiectau digidol penodol y mae angen arweiniad ymarferol ar eu cyfer.

Bydd rhaglen Potensial Digidol Cymru yn grymuso’r ymgeiswyr llwyddiannus o elusennau, mudiadau nid-er-elw, a mentrau cymdeithasol, i flaenoriaethu eu defnyddwyr gwasanaeth a chael y budd mwyaf o’r maes digidol.

Bydd y rhaglen yn meithrin amgylchedd cydweithredol lle y bydd cyfranogwyr yn derbyn arweiniad ar sut i ddatblygu eu gwefan er mwyn iddi ddiwallu anghenion defnyddwyr yn well, sut i gyflenwi gwasanaethau presennol trwy blatfformau digidol, a sut i integreiddio systemau digidol er mwyn gwella effeithlonrwydd.

Mae’r prosiect chwe wythnos bellach wedi dechrau ac edrychwn ymlaen at rannu’r canlyniadau.

DYSGWCH FWY

Os hoffech chi ddysgu mwy am sut y gall eich mudiad ddatblygu’n ddigidol, edrych ar y pecyn cymorth digidol newydd.

Mae datblygu digidol yn un o’r prif feysydd ffocws ar gyfer CGGC a Chanolfan Cydweithredol Cymru a byddwn ni’n rhoi diweddariadau ar y prosiectau uchod yn hwyrach eleni. Yn y cyfamser, os hoffech chi rannu enghreifftiau o arloesi digidol neu roi gwybodaeth am heriau digidol, cysylltwch â ni.