Mae sgyrsiau ar droed ar draws y llywodraeth ynghylch diwygiad cyfansoddiadol posibl yng Nghymru. Yma, mae Ben Lloyd, Pennaeth Polisi CGGC, yn edrych ar pam mae hyn yn bwysig i’r sector gwirfoddol.
‘Proses, nid digwyddiad yw datganoli’ – Ron Davies, Cyn Ysgrifennydd Gwladol Cymru
Ers 1999, mae cymdeithas Ddinesig Cymru wedi cymryd rhan uniongyrchol mewn trafodaethau ynghylch dyluniad y Senedd, a’r hyn a fyddai’n gwneud ein deddfwrfa yn Senedd go iawn.
Mae dau ddatblygiad mawr wedi digwydd ynghylch cyfansoddiad Cymru yn ystod y misoedd diwethaf: y cyntaf yw lansio’r Comisiwn Annibynnol ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru, a’r ail yw’r drafodaeth sy’n parhau ynghylch diwygio’r Senedd, gan gynnwys nifer yr Aelodau o’r Senedd a’r system etholiadol ar gyfer etholiadau yng Nghymru.
Mae CGGC yn gwybod bod nifer fawr o fudiadau’r sector gwirfoddol yn teimlo’n gryf ynghylch y cyfansoddiad, er nad hyn yw eu prif ffocws fel arfer. Dengys gwaith ymchwil academaidd yn betrus fod datganoli wedi bod yn bositif i gymdeithas ddinesig, ac yn bendant, mae cred o fewn y sector fod Llywodraeth Cymru yn fwy hygyrch na San Steffan. Yn wir, gosododd Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 ddyletswydd statudol ar Lywodraeth Cymru i gynnal Cynllun Trydydd Sector yn nodi sut bydd y llywodraeth yn ymgysylltu â’r sector, ac ar y pryd, broliwyd mai Cymru oedd y wlad gyntaf yn y byd i gynnwys dyletswydd o’r fath yn ei chyfansoddiad.
Fodd bynnag, nid yw diwygiad cyfansoddiadol erioed wedi bod ymhell o drafodaethau gwleidyddol. Yn wir, sefydlwyd Comisiwn Richards cyn yr oedd y Cynulliad Cenedlaethol (fel y’i hadnabu bryd hynny) wedi cwblhau ei dymor cyntaf.
Y COMISIWN ANNIBYNNOL AR DDYFODOL CYFANSODDIADOL CYMRU
Sefydlwyd y Comisiwn Annibynnol ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru ar ôl etholiad diweddar y Senedd, gyda’r nodau canlynol:
‘Yr amcan cyntaf yw ystyried a datblygu opsiynau i ddiwygio’n sylfaenol strwythurau cyfansoddiadol y Deyrnas Unedig, y mae Cymru yn parhau’n rhan annatod ohoni. Yr ail amcan yw ystyried a datblygu’r holl brif opsiynau blaengar i gryfhau democratiaeth Cymru a sicrhau gwelliannau i bobl Cymru.’
Ar draws y sector gwirfoddol, mae gan lawer o bobl brofiadau o werth, a heriau’r setliad datganoli presennol. Mae hyn yn arbennig o wir am fudiadau sy’n rhedeg gwasanaethau cymorth sy’n ymwneud â gwasanaethau datganoledig a gwasanaethau heb eu canoli, fel pan fydd elusen iechyd hefyd yn rhoi cyngor ar gymorth lles. Yn yr un modd, roedd llawer o fudiadau yn bositif ynghylch y bartneriaeth gref rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU o ran y rhaglen frechu COVID-19 ddiweddar. Rydym eisiau gwneud yn siŵr bod y profiad hwn yn cael ei adlewyrchu yn nhrafodaethau’r Comisiwn.
Mae CGGC wedi cwrdd â’r Comisiwn i bwysleisio’r angen am ymgysylltiad cryf â’r sector gwirfoddol fel rhan o’i waith. Byddwn hefyd yn trefnu digwyddiad ar y cyd â Materion Cyhoeddus Cymru ar 8 Mehefin i ddysgu am y materion pwysig hyn o fudiadau. (Bydd angen i chi fod yn aelod o CGGC neu Materion Cyhoeddus Cymru i fynychu.) Rydym yn arbennig o awyddus i sicrhau bod yr ymgysylltiad cryf rhwng cymdeithas ddinesig a phrosesau penderfynu yn parhau.
Y PWYLLGOR DIBEN ARBENNIG AR DDIWYGIO’R SENEDD
Fel ein senedd genedlaethol, mae’r Senedd yn rhan allweddol o’n lluniad cyfansoddiadol. Fel rhan i waith y Pwyllgor hwn, maen nhw wedi ystyried maint a chyfansoddiad y Senedd yn ogystal â’r system etholiadol. (mae’r Ceidwadwyr Cymreig wedi gadael y Pwyllgor gan eu bod yn credu bod y Prif Weinidog, Mark Drakeford ac arweinydd Plaid Cymru, Adam Price yn disodli eu canfyddiadau gyda’u cynigion eu hunain).
Un o elfennau rhwystredig y trefniadau cyfredol yn y Senedd yw’r capasiti llai ar gyfer gwaith craffu. Yn benodol, nid oes digon o bwyllgorau ac mae’r cwmpas yn rhy eang. Mae llawer o aelodau yn eistedd ar bwyllgorau lluosog, sy’n eu gadael heb fawr iawn o amser i ganolbwyntio ar faterion penodol. Mae hyn yn gwneud i’r gymdeithas ddinesig deimlo’n rhwystredig fynych, ac mae’n heriol cael llais mewn ymchwiliadau. Pan fydd y cynigion terfynol yn cael eu hamlinellu, bydd CGGC yn edrych i weld a allant hybu’r capasiti er mwyn sicrhau bod mwy o waith craffu yn cael ei wneud ar bolisïau Llywodraeth Cymru, a bod mwy o ymgysylltu â’r sector gwirfoddol o fewn y gwaith craffu hwnnw.
A oes gennych chi unrhyw beth i’w ychwanegu at y drafodaeth hon? Neu brofiad o sut mae’r cyfansoddiad neu’r Senedd wedi gweithio’n dda, neu’n wael? Os felly, cysylltwch â ni ar policy@wcva.cymru.