Gwnaeth y trydydd digwyddiad yn ein cyfres o ddigwyddiadau COVID-19 ganolbwyntio ar beth mae’r pandemig wedi’i olygu i’r gwaith o ddarparu gwasanaethau, a’r goblygiadau ar gyfer sut byddwn ni’n darparu gwasanaethau yn y dyfodol. Dyma adroddiad Jess Blair ar y digwyddiad.
Ddydd Iau diwethaf, cynhaliwyd y drydedd sesiwn yn y gyfres o ddigwyddiadau gan CGGC ar ‘Paratoi ar gyfer Dyfodol Gwahanol’, sy’n ceisio hwyluso sgwrs gyda’r sector gwirfoddol ynghylch y problemau y mae’n ei wynebu yn sgil pandemig y coronafeirws. Cyn hyn, mae’r gyfres wedi cynnwys digwyddiadau ar effaith ariannol argyfwng COVID, a’r goblygiadau ar gyfer gwirfoddoli (Gweler isod adroddiad ar y digwyddiadau hyn).
Canolbwyntiodd y sesiwn hon ar effeithiau’r pandemig ar ddarparu gwasanaethau, a chafodd ei chadeirio gan Helen White, Prif Weithredwr Tai Taf ac Ymddiriedolwr CGGC.
Gwnaeth dros 80 o gyfranogwyr gymryd rhan yn yr alwad. Er yr oedd y bobl a gymerodd ran yn gweithio mewn gwahanol feysydd, o faes iechyd i faes tai, roedd yr heriau a’r cyfleoedd sy’n wynebu’r cyfranogwyr yn gyson ar y cyfan; llai o wasanaethau wyneb yn wyneb, y cynnydd dilynol mewn gwasanaethau digidol a’r angen am gydweithio i alluogi gwasanaethau i gael eu darparu.
O wyneb yn wyneb i ddigidol
Amlygodd y digwyddiad astudiaethau achos gan fudiadau sydd wedi darparu gwasanaethau wyneb yn wyneb yn draddodiadol, gan edrych ar sut roedd hyn wedi newid. Roedd hwn yn ddatblygiad cadarnhaol i lawer o gyfranogwyr.
Dywedodd un cyfranogwr ‘Cyn y cyfyngiadau symud, roeddwn i’n cynnal grwpiau cymorth misol mewn lleoliadau amrywiol. Ers y cyfyngiadau symud, rwyf wedi cynnal un rhith-gyfarfod yr wythnos, felly mewn rhai ffyrdd, mae’r bobl sy’n mynychu’n cael mwy o gymorth’.
Gwnaeth mudiadau fel Sgowtiaid Cymru, BEAT a’r Gymdeithas Strôc fynegi’r manteision dros symud gwasanaethau ar-lein. Dywedodd Sgowtiaid Cymru eu bod ‘wedi symud i ddarparu ein sesiynau wythnosol arferol ar gyfer ein Pobl Ifanc drwy blatfformau amrywiol’, ac amlygodd y Gymdeithas Strôc fod unigolion nad oeddent wedi meddwl y byddent eisiau ymgysylltu ar-lein wedi mwynhau ac maen nhw wedi gallu symud y tu hwnt i ffiniau daearyddol.
Mae gweision cyhoeddus hefyd wedi gweld newid yn eu ffordd o weithio. Amlygodd Un Llais Cymru, sy’n cynrychioli cynghorau tref a chymuned yng Nghymru, eu bod wedi’u cyfyngu rhag gweithio o bell cyn y pandemig. Mae hyn wedi newid dros dro ac maen nhw’n bwriadu lobïo i hyn gael ei ehangu.
Cynnwys y rheini sydd wedi’u hallgáu o’r byd digidol
Nid yw symud i weithio’n ddigidol wedi bod mor gadarnhaol i lawer ledled Cymru. Mae prinder technegol a hyfforddiant a chymorth yn rhwystro llawer rhag gallu cael mynediad at wasanaethau’n ddigidol. Mae yna fudiadau hefyd sy’n methu â darparu eu gwasanaethau ar-lein.
Roedd llawer o’r cyfranogwyr yn y digwyddiad hwn yn pryderu ynghylch y rheini sydd wedi’u hallgáu o’r byd digidol. Dywedodd un, ‘Mae’n anodd iawn i bobl heb ryngrwyd neu’r rheini nad ydynt yn deall technoleg.’
Mae llawer yn defnyddio cylchlythyrau i ategu eu gwasanaethau rheolaidd, a dywedodd un cyfranogwr, ‘Yn Aren Cymru, rydyn ni wedi cydweithio gyda dwy elusen arennol arall a’r Rhwydwaith Clinigol Arennol i lunio cylchlythyr copi caled ar gyfer 1200 o gleifion ar ddialysis ledled Cymru. Nid ydyn ni erioed wedi gwneud hyn o’r blaen cyn COVID.’
Roedd galw hefyd am ddarpariaeth well o dechnoleg, gydag un cyfranogwr yn nodi, ‘Mae rhai o’n grwpiau cymunedol llawr gwlad wedi llwyddo i gael cyllid ar gyfer plant sydd wedi’u hallgáu o’r byd digidol, felly mae hynny’n dda. Ond mae diffyg eglurder o hyd ynghylch mynediad at y cyfarpar digidol mewn ysgolion. Nid ydyn ni wedi clywed unrhyw aelodau o’n cymuned yn dweud bod eu plant wedi llwyddo i gael gliniaduron o’u hysgolion.‘
Gwneud i’r byd digidol weithio ar gyfer y dyfodol
Gyda mudiadau’n ymgodymu ag argyfwng y coronafeirws, gwnaeth llawer o’r symudiadau tuag at ddarparu gwasanaeth digidol ddigwydd y tu allan i’r ffyrdd arferol y gallai newid ddigwydd mewn mudiadau’n draddodiadol.
Wrth symud ymlaen, mynegodd cyfranogwyr yr angen i gynnwys darparwyr gwasanaethau, gydag un yn nodi, ‘Oherwydd natur yr argyfwng a’r angen i wneud rhywbeth, nid ydyn ni wedi ymgysylltu â’n defnyddwyr gwasanaethau ar hyn. Rydyn ni dim ond wedi mynd ati i’w wneud. Nid ydyn ni eisiau defnyddio COVID fel esgus dros roi newid gwasanaeth ar waith heb ymgysylltu. Sut ydyn ni’n cynnwys pobl yn y newidiadau hyn?’
Yn yr hirdymor, dadleuodd un cyfranogwr fod ‘Unrhyw drawsnewid digidol da yn ddull unigolyn yn unig …[yr her yw] sut rydyn ni’n cysylltu’r dull digidol â’r dull wyneb yn wyneb’, gan ddadlau y dylai’r byd digidol fod yno i hwyluso a chyfeirio cymorth wyneb yn wyneb.
Cydweithio wrth ddarparu gwasanaethau
Un o effeithiau eraill pandemig y coronafeirws yw’r symudiad at ffyrdd newydd o gydweithio.
Credai rhai mai ymlacio’r protocolau rhannu gwybodaeth oedd yn gyfrifol am hyn, ac roedd eraill wedi datblygu partneriaethau cadarnhaol yng ngŵydd yr amgylchiadau sydd wedi’u hachosi gan yr argyfwng. Fel enghraifft o’r un olaf, dywedodd un cyfranogwr, ‘Rydyn ni’n gweithio mewn partneriaeth â mudiadau trydydd sector eraill nad ydynt yn derbyn cymaint o gyfeiriadau ag arfer, pan rydym ni’n derbyn llawer mwy. Mae hyn wedi bod yn ddefnyddiol tu hwnt o ran y ffaith nad oes yn rhaid i staff weithio oriau hir ofnadwy.‘
O ganlyniad i’r cydweithio mwy effeithiol hwn, dywedodd cyfranogwyr eu bod yn gobeithio y byddai hyn yn parhau ar ôl yr argyfwng, a nododd rhai bod eu mudiad gwirfoddol yn teimlo fel ‘partneriaeth go iawn â’r gwasanaethau statudol.’
Eto i gyd, gan ystyried y cynnydd hwn mewn cydweithio gydag eraill, cwestiynodd eraill sut bydd Llywodraeth Cymru yn ystyried rôl mudiadau gwirfoddol yn y dyfodol. Amlygodd cyfranogwr hyn drwy ddweud, ‘O safbwynt codi arian, un peth nad yw wedi gweithio cystal yw’r ffaith bod cyllid wedi’i arallgyfeirio o elusennau iechyd i’r GIG. Beth yw goblygiadau hyn? Mae angen i Lywodraeth Cymru feddwl yn ofalus am ei pherthynas â’r trydydd sector’.
Y dyfodol
Wrth edrych i’r dyfodol, mae’n amlwg mai ychydig iawn o feysydd darparu gwasanaethau sy’n parhau i fod heb eu cyffwrdd na’u newid gan yr argyfwng ar hyn o bryd. Er bod llawer yn datblygu straeon cadarnhaol o hyn ac eisiau parhau â rhyw elfen o ddarparu gwasanaethau digidol hyd yn oed pan ddaw’r pandemig i ben, mae cwestiynau sylweddol o hyd ynghylch sut bydd mudiadau yn gallu dychwelyd i mewn i gymunedau i ddarparu gwasanaethau, yn enwedig mewn cyfnod pan fydd angen cyfarpar diogelu personol a mesurau cadw pellter cymdeithasol am gryn amser i ddod.
Mwy gan Jess Blair ar y digwyddiadau yn ein cyfres Paratoi ar gyfer Dyfodol Gwahanol