Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi datblygu dau ddangosfwrdd newydd i helpu’r sector i gasglu data. Yma, mae Victoria Tice, Uwch Ymarferydd Iechyd y Cyhoedd yn siarad am sut gallwn ni eu defnyddio.
Mae’r sector gwirfoddol yn chwarae rôl bwysig mewn gwella iechyd a lles pob unigolyn ym mhob cwr o Gymru. O bresgripsiynu cymdeithasol a chysylltwyr cymunedol i gymorth iechyd meddwl a threchu unigrwydd neu ansicrwydd ariannol, mae ei waith yn hanfodol.
Ond fel llawer yn y maes iechyd a gofal, mae’r sector yn wynebu galw cynyddol gydag adnoddau cyfyngedig. Dyma le gall data helpu.
PAM MAE DATA YN DDEFNYDDIOL I’R SECTOR GWIRFODDOL
Mae data yn eich helpu i:
- Ddeall anghenion iechyd lleol
- Dangos effaith gwasanaethau, mentrau neu ymyriadau cymunedol
- Canolbwyntio adnoddau a gall gefnogi gwasanaeth neu flaenoriaethu
- Defnyddio data mewn cynigion a cheisiadau am gyllid
- Cydweithio â chydweithwyr yn y maes gofal sylfaenol
BETH YW DANGOSFYRDDAU?
Adnoddau gweledol yw dangosfyrddau sy’n dod â data am iechyd ynghyd mewn un lle. Maen nhw’n ei gwneud hi’n haws deall a defnyddio gwybodaeth gymhleth. Mewn gofal sylfaenol, defnyddir dangosfyrddau i:
- Gynllunio a darparu gwasanaethau
- Cefnogi penderfyniadau
- Hysbysu ymyriadau iechyd cyhoeddus
- Deall anghenion iechyd lleol
SUT MAE DANGOSFYRDDAU YN CEFNOGI’R SECTOR GWIRFODDOL
- Cynllunio gwasanaethau ar sail angen lleol
Gall Dangosfyrddau amlygu’r anghenion iechyd yn eich ardal leol, fel cyfraddau ysmygu uchel neu broblemau iechyd meddwl. Gellir datblygu ac addasu gwasanaethau wedyn i ddiwallu anghenion penodol cymuned. - Rhoi tystiolaeth
Gellir defnyddio dangosfyrddau data fel tystiolaeth i amlygu anghenion a heriau iechyd. Gall defnyddio data mewn ceisiadau cyllido gryfhau cynigion cyllido ac amlygu effaith bosibl unrhyw ymyrraeth iechyd. - Ymgysylltu a gweithio gyda chydweithwyr a chlystyrau gofal sylfaenol
Gall defnyddio’r un data â gofal sylfaenol gefnogi cydweithio ar lefel clwstwr a phractis. Gall alluogi nodau i gael eu halinio neu wasanaethau gael eu cyd-ddylunio. - Mesur eich effaith
Mae dangosfyrddau yn rhoi data sylfaenol fel y gallwch olrhain y cynnydd a gwerthuso canlyniadau dros amser. Mae’n ffordd hygyrch o ddeall a chyfathrebu’r broblem, mesur yr effaith a gwerthuso canlyniadau.
Gwnaeth gweminar diweddar a gyflwynwyd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru gyflwyno dau ddangosfwrdd gofal sylfaenol a ddatblygwyd ar gyfer pobl sy’n gweithio o fewn neu gyda gofal sylfaenol yng Nghymru.
DANGOSFYRDDAU SYDD AR GAEL I’R SECTOR GWIRFODDOL
Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi datblygu dau ddangosfwrdd allweddol ar gyfer gofal sylfaenol:
- Dangosfwrdd Clystyrau Gofal Sylfaenol
Mae hwn yn dangos data ar iechyd y boblogaeth ar lefel glwstwr. Cafodd hwn ei ddatblygu gyda mewnbwn gan bobl sy’n gweithio o fewn a chyda chlystyrau. - Clystyrau Gofal Sylfaenol: Adnodd Crynodeb o Ddangosyddion
Crynodeb o ddangosyddion iechyd allweddol i gefnogi cynllunio a gweithio mewn partneriaeth.
Mae’r ddau adnodd wedi’u datblygu i’ch helpu chi i ddeall anghenion iechyd lleol a chefnogi eich gwaith. Gallwch lawrlwytho siartiau a mapiau i’w defnyddio mewn adroddiadau, cynigion am gyllid neu gyflwyniadau.
Mae’r dangosfwrdd yn cyflwyno amrediad o ddata, gan gynnwys morbidrwydd, cyflyrau cronig, y gweithlu a data ar bresgripsiynu. Cyflwynir y data ar lefel clwstwr a phractis drwy lygaid anghydraddoldebau er mwyn amlygu’r amrywiaethau sy’n gysylltiedig ag amddifadedd.
Dim ond staff GIG Cymru sy’n gallu gweld y dangosfwrdd hwn ar hyn o bryd a chaiff ei gyflwyno gan Perfformiad a Gwella GIG Cymru. Os hoffech gael mynediad at y dangosfwrdd hwn, anfonwch e-bost at NHSPI_Data.Analytics@wales.nhs.uk.
ADNODDAU ERAILL
Mae gan dudalen we Gofal Sylfaenol Un wybodaeth, adnoddau ac offer cymorth wedi’u datblygu i helpu unrhyw un sy’n gweithio o fewn a chyda gofal sylfaenol yng Nghymru.
Tudalennau gwe Gweithio mewn Clystyrau yng Nghymru – Mae’r tudalennau hyn yn cyflwyno gwybodaeth am ofal sylfaenol a chymunedol yng Nghymru.
Mae Tudalennau gwe Porth Cynllunio yn cyflwyno adnoddau a gwybodaeth i gefnogi cynllunio, gan gysylltu ag adnoddau perthnasol a defnyddiol.
Lleihau Anghydraddoldebau Iechyd a Chynhwysiant mewn Iechyd – Mae gan y tudalennau hyn amrediad o offer ac adnoddau cymorth i’ch helpu chi i weithredu a gwella eich dealltwriaeth o anghydraddoldebau yn y maes iechyd cynhwysiant.
Tudalennau gwe Gofal Sylfaenol Gwyrddach, mae’r rhain yn rhoi manylion Cynllun Gofal Sylfaenol Gwyrddach Cymru i bractisiau yng Nghymru ac mae ganddynt wybodaeth ac adnoddau i helpu practisiau i ddod yn fwy amgylcheddol gynaliadwy.
Gallwch ddod o hyd i wefan Iechyd Cyhoeddus Cymru yma. Am ragor o wybodaeth am iechyd a gofal yn y sector gwirfoddol, darllenwch am Brosiect Iechyd a Gofal CGGC.