Mae Prif Weithredwr CGGC, Ruth Marks, wedi ysgrifennu i Lywodraeth Cymru i amlygu pwysigrwydd y sector gwirfoddol i gyflawni amcanion ei Chytundeb Cydweithredu newydd â Phlaid Cymru. Dyma’r hyn y gwnaethon ni ei ddweud…
‘Yr wythnos ddiwethaf, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru Gytundeb Cydweithio. Mae gan y Cytundeb gwmpas eang ac mae’n ymdrin â chwmpas eang cyfatebol o feysydd polisi. Mae gan lawer o’r meysydd polisi hyn gysylltiadau agos â gwaith y sector gwirfoddol, naill ai grwpiau cymunedol lleol neu elusennau rhyngwladol mwy o faint.
‘Mae sector gwirfoddol llewyrchus yn fuddiol i gyflawni newidiadau i wasanaethau cyhoeddus fel y rheini a nodwyd yn y Cytundeb. Gall grwpiau cymunedol ac elusennau roi llais cryfach i bobl sy’n derbyn gwasanaethau, yn enwedig y rheini o grwpiau ymylol sy’n aml yn cael eu hepgor wrth lunio polisïau. Mae grwpiau’r sector gwirfoddol hefyd yn cyflwyno gweithgareddau sy’n cyfrannu’n benodol at lesiant, er nad hyn yw eu nod penodol o bosibl. Yn aml, mae mudiadau’r sector gwirfoddol yn gweithio gydag unigolion sy’n wynebu anfantais sylweddol, a allai fod yn ddrwgdybus neu’n ddatgysylltiedig o’r sector cyhoeddus.
Ymgysylltu adeiladol
‘Mae hefyd nifer o agweddau yn y Cytundeb lle y bydd angen i’r sector gwirfoddol gael ei gynnwys yn y gwaith er mwyn sicrhau bod ei ganlyniadau uchelgeisiol yn cael cymaint â phosibl o effaith. Mae’r rhain yn cynnwys; y cynigion ynghylch dyfodol gofal cymdeithasol, digartrefedd, y strategaeth fwyd gymunedol, y strategaeth ddiwylliant, cefnogi’r iaith Gymraeg, iechyd meddwl, cryfhau hawliau pobl anabl a’r cynlluniau gweithredu ar gyfer cydraddoldeb hiliol a’r gymuned LHDTC+. Ym mhob achos, bydd sicrhau bod y sector gwirfoddol yn rhan o’r gwaith o lunio a chyflawni polisïau yn gwella gallu’r gwasanaethau hyn i gyrraedd y bobl sydd eu hangen.
‘Yng Nghymru, mae cydberthynas gref wedi bodoli’n hanesyddol rhwng y sector gwirfoddol a llunio polisïau, gan gynnwys ymgysylltiad adeiladol â gwleidyddion o bob plaid. O ganlyniad, mae’r sector gwirfoddol a grwpiau cymunedol yn cael eu cynnwys yn aml mewn trafodaethau cynnar â gweision sifil, ac mae hyn wedi arwain at wasanaethau gwell. Mae Cyngor Partneriaeth y Trydydd Sector a Llywodraeth Cymru hefyd wedi dechrau darn o waith yn ddiweddar gyda’r nod o gryfhau’r cysylltiadau hyn ar draws y sector cyhoeddus.
‘Byddai CGGC yn annog ymgysylltiad â’r sector gwirfoddol wrth ddatblygu’r polisi yn y Cytundeb hwn a’i roi ar waith. Byddem yn argymell fod hyn yn cynnwys ymhél yn gynnar â’r sector ar draws pob agwedd ar y Cytundeb, yn ogystal â sicrhau capasiti’r sector gwirfoddol i gynorthwyo â’r gwaith cyflawni lle y bo hynny’n briodol.
Cefnogi llawr gwlad
Byddai CGGC hefyd yn annog ystyriaeth o’r rôl benodol y gall gwirfoddoli ei chwarae mewn rhai o’r meysydd hyn. Er na ellir ystyried defnyddio gwirfoddolwyr yn lle staff cyflogedig, gallant ategu’r gweithgarwch hwn ac mae enghreifftiau di-ri o ble mae gweithgarwch dan arweiniad gwirfoddolwyr wedi cyflwyno buddion gwirioneddol i bobl a’u cymunedau.
‘Yn olaf, mae llawer o grwpiau, yn aml, grwpiau cymunedol ar lawr gwlad, sy’n cyfrannu at les pobl yng Nghymru. Yn aml, nid oes gan y grwpiau bach niferus hyn, sy’n effeithio’n gadarnhaol ar fywyd cymunedol yng Nghymru, y strwythurau llywodraethol na’r capasiti i dderbyn cyngor neu gymorth uniongyrchol gan Lywodraeth Cymru. Fodd bynnag, rydym yn gallu eu cynnwys yn ein gwaith o ganlyniad i’r rhwydwaith cadarn o Gynghorau Gwirfoddol Sirol ledled Cymru. Mae’r cysylltiadau hyn rhwng grwpiau cymunedol a Llywodraeth Cymru yn cryfhau’r rôl y gall y sector ei chwarae i wella llesiant.
‘Fel y corff aelodaeth cenedlaethol ar gyfer y sector gwirfoddol yng Nghymru, mae CGGC yn awyddus i gefnogi trafodaethau rhwng y sector cyhoeddus a’r sector gwirfoddol ar draws yr amrediad llawn o swyddogaethau a nodwyd yn y Cytundeb hwn.’