Saethwr merch ifanc yn dal ei bwa gan anelu at darged

Cysylltu’r Comisiwn Elusennau â’r sector yng Nghymru

Cyhoeddwyd: 13/04/23 | Categorïau: Heb gategori, Awdur: Pippa Britton

Ymunodd Pippa â’r Comisiwn Elusennau fel Aelod Bwrdd Cymru yr hydref diwethaf ac yma mae’n myfyrio ar waith y Comisiwn yng Nghymru.

Mae’r gymuned chwaraeon a’r sector elusennol yn ddwy ecosystem wahanol, ond fel yr wyf wedi dysgu yn fy chwe mis cyntaf fel Aelod Cymru o Fwrdd y Comisiwn Elusennau, rwy’n dal i synnu pa mor debyg yw’r ddau. Ategir y ddau sector gan lywodraethu da, arweinyddiaeth gref ac ymrwymiad dwfn i ysgogi canlyniadau sydd wirioneddol o bwys i bobl.

Fel mewn chwaraeon, heb lywodraethu da, ni all elusen ffynnu. Ar y gorau bydd yn aneffeithlon ac ar y gwaethaf, yn ddi-hid, yn y dewisiadau mae’n gwneud. I’r gwrthwyneb, mae llywodraethu da yn hwyluso prosesau gwneud penderfyniadau effeithiol, atebol a theg, eglurder ffocws ac arweinyddiaeth a chanlyniadau mwy effeithiol yn y pen draw, felly mae cefnogaeth i’r rhai sydd ei angen.

Mae fy ngyrfa wedi esblygu o fod yn athletwr cystadleuol i weithio gydag arweinwyr mewn chwaraeon, a thu hwnt, i ddatblygu eu strwythurau cynhwysiant a llywodraethu, cefnogi mudiadau a rhoi tegwch. Y cyfle hwn a ddenodd fi at fy rôl ddiweddaraf fel Aelod o Fwrdd y Comisiwn Elusennau.

Mae tegwch wrth wraidd popeth sy’n bwysig i mi, ac felly roedd y pwyslais a roddwyd gan y Cadeirydd newydd, Orlando Fraser KC, ar arwain Comisiwn sy’n Deg, Cytbwys ac Annibynnol yn atseinio’n gryf iawn gyda mi.

AMSER O FYFYRIO A NEWID

Rwy’n teimlo fy mod wedi ymuno â’r Comisiwn ar adeg ddiddorol. Mae’r Comisiwn yn gweithredu ledled Lloegr a Chymru ac maent bob amser wedi cynnal swyddfa yng Nghymru, sy’n cynnwys tîm medrus a phrofiadol. Dros y blynyddoedd, mae’r Comisiwn wedi treialu gwahanol ddulliau o ymgysylltu a rheoleiddio’r sector yng Nghymru, rhai yn fwy llwyddiannus nag eraill.

Yn gynharach eleni ymunais â’n tîm yng Nghasnewydd i glywed am eu profiadau a’u huchelgeisiau, ac edrychaf ymlaen at ddod i adnabod ein gwaith yng Nghymru yn llawer agosach yn yr wythnosau a’r misoedd nesaf, gan ddefnyddio fy ngwybodaeth a’m profiad fy hun o Gymru, a fy rôl fel Aelod Bwrdd i gefnogi’r gwaith hwn.

Mae nifer yr elusennau yng Nghymru gryn dipyn yn llai nag yn Lloegr, tua 8,000 a 161,000, yn y drefn honno. Mae Cymru a Lloegr yn debyg mewn sawl ffordd, ond mae gwahaniaethau sylweddol hefyd – o iaith hyd at wleidyddiaeth. Gellir dweud yr un peth am y sector elusennol, mae llawer o fudiadau yn rhannu’r un profiadau ond, oherwydd y tirweddau (yn ffisegol ac yn ddiwylliannol) y maent yn gweithredu ynddynt, gall eu profiadau hefyd fod yn wahanol.

Rwyf eisoes wedi gweld bod y Comisiwn yn ymwybodol na all yr un mudiad honni ei fod yn siarad dros y sector yn ei gyfanrwydd a’i fod bob amser yn ceisio cynrychiolaeth amrywiol o farn. Mae hynny hefyd yn golygu cynnwys y persbectif Cymreig a gobeithio y gallaf dynnu sylw at yr amrywiaeth barn sy’n bodoli o fewn y sector.

DEFNYDDIO DATA

Un o’r allweddi i reoleiddio effeithiol yw gwella’r data sydd gennym am elusennau yng Nghymru. Rydyn ni’n edrych ar wella’r data rydyn ni’n casglu a sut rydyn ni’n defnyddio’r data hwnnw i lywio ein darpariaeth gwasanaeth, y canllawiau rydyn ni’n eu cynhyrchu i gefnogi ymddiriedolwyr ac arweinwyr sector a’r ffordd rydyn ni’n rhyngweithio ag elusennau.

Yn bwysig, nid yw’r ffordd rydym yn caffael gwybodaeth yn gyfyngedig i arolygon ystadegol ac adrodd ar-lein, gan fod rhywfaint o’n data mwyaf gwerthfawr yn dod o gyfarfod ag arweinwyr elusennau a chynrychiolwyr y sector. Effeithiodd y pandemig a’r cyfyngiadau cysylltiedig ar allu’r Comisiwn i gyfarfod yn bersonol, ond mae hyn yn newid, ac yn y chwe mis diwethaf mae arweinyddiaeth y Comisiwn wedi ymweld â sawl elusen ledled Cymru, gyda’r sgyrsiau a gawsom yn helpu i lywio sawl ffrwd gwaith y Comisiwn.

YMDRIN Â’R GYMRAEG

Mae’r iaith Gymraeg yn un o’r gwahaniaethau amlwg rhwng y ddwy genedl. Mae’n rhywbeth sy’n wirioneddol unigryw i Gymru ac yn rhan ganolog o ddiwylliant a threftadaeth Cymru. Mae’r Comisiwn wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o’r radd flaenaf i’w gwsmeriaid Cymraeg ac ar hyn o bryd mae’n cynnal adolygiad cyfannol o’r modd y mae’n ymdrin â’r Gymraeg – nid yn unig wrth ddarparu gwasanaethau i’r cyhoedd ond yn fewnol hefyd.

CYSYLLTU Y COMISIWN A’R SECTOR

Rwyf wedi fy nghalonogi’n fawr gan y camau y mae’r Comisiwn yn eu cymryd i wella ei amlygrwydd a’i bresenoldeb yma. Rwyf hefyd yn awyddus i fod yn weithgar ac yn weladwy yn fy rôl ac rwy’n gobeithio bod yn gysylltydd effeithiol rhwng y sector yng Nghymru, y Comisiwn a’i arweinyddiaeth.

Mae hyn yn arbennig o bwysig nawr, yn ystod argyfwng costau byw, pan fod ein hamgylchiadau economaidd yn ei wneud yn ofynnol i’n hymddiriedolwyr elusen Cymreig ddangos yn fwy nag erioed hen rinwedd pwyll, a’r Comisiwn i’w cynorthwyo i wneud hyn. Byddaf yn parhau i ymgysylltu’n rheolaidd â CGGC a gobeithiaf gwrdd â llawer mwy ohonoch yn y dyfodol. Yn y cyfamser, daliwch ati â’r holl waith gwych rydych yn gwneud yma yng Nghymru.

AM PIPPA

Mae Pippa Britton yn Baralympiad dwbl a fu’n cystadlu ar dîm saethyddiaeth Prydain Fawr am 15 mlynedd ac yn cynrychioli tîm abl Cymru ar fwy nag 20 achlysur. Wrth gystadlu daeth Pippa yn aelod pwyllgor athletwyr para-saethyddiaeth cyntaf yn World Archery, gan gynrychioli saethwyr ledled y byd, ac ar ôl ymddeol o gystadlu cafodd ei hysbrydoli gan hyn i symud i lywodraethu. Ar hyn o bryd, Pippa yw Is-Gadeirydd Chwaraeon Cymru a Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan ac mae’n aelod o Fwrdd Cymdeithas Baralympaidd Prydain.