Two people talking

Cysylltu Cymunedau: Mae gwrando yn allweddol

Cyhoeddwyd: 11/11/21 | Categorïau: Gwybodaeth a chymorth, Awdur: Babs Lewis

Babs Lewis, Uwch Reolwr Cymru Canlyniadau Pŵer Pobl, sy’n egluro pam mae gwrando’n allweddol i gefnogi grwpiau cymunedol i ffynnu

Beth mae’n ei olygu i wrando? Y math o wrando lle rydych chi’n clywed beth sy’n cael ei ddweud, ac nid lle mae pobl yn aros am fwlch i gael siarad? Yn ystod y deufis diwethaf, mae rhaglen gweithredu ymarferol Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru wedi bod yn gwrando ar grwpiau cymunedol i geisio dysgu mwy am weithredu o dan arweiniad y gymuned, a sut gall hynny adeiladu adferiad yn dilyn y pandemig a helpu i greu dyfodol mwy teg, cyfartal, gwyrdd, cynaliadwy ac iach.

GWRANDO ER MWYN DYSGU GYDA THIMAU LEDLED CYMRU

Gweithiodd y rhaglen gyda thri thîm gwahanol iawn o bob rhan o Gymru, gan eu cefnogi nhw i symud at weithredu yn eu cymunedau. Mae un yn grŵp mawr o dan arweiniad gofalwyr sy’n gweithio’n agos gyda chydweithwyr yn y trydydd sector. Mae un arall yn dîm llai a gwledig sy’n gweithio gyda’u cynghorydd lleol. Mae’r trydydd yn rhwydwaith eang o bobl a grwpiau cymunedol mewn ward dinas brysur, ac sydd wedi dod ynghyd i gefnogi pobl leol.

Mae pob tîm yn rhoi cynnig ar ffyrdd newydd o gydweithio gyda chefnogaeth hyfforddiant gan y rhaglen. Bu pob un yn ystyried gwerth gwrando, a sut mae gwrando yn aml ar goll o’r perthnasau sydd eu hangen ar grwpiau cymunedol i ffynnu.

Mae gwrando yn ein helpu ni i ddysgu. Ar gyfer y timau, mae’n ymwneud â deall sut mae ‘da’ yn edrych i’w cymunedau nhw, ac ar gyfer y rhaglen, mae’n ymwneud â chynhyrchu dysg ar sail cwestiynau hanfodol, gan gynnwys:

  • sut gall grwpiau addasu a chynnal eu hunain ar ôl y cyfnodau clo?
  • beth sydd ei angen i feithrin perthnasau cydweithredol ar draws sectorau sy’n rhoi cymunedau ‘wrth y llyw’?
  • sut ydyn ni’n ymgysylltu â phobl fel bod modd i bawb gyfrannu at weithredu cymunedol a chael budd ohono?
  • sut gall cyd-ddealltwriaeth o werth gweithredu cymunedol gefnogi gweithredu effeithiol?

Cododd y cwestiynau yma yn haf 2021 ar ôl cyfres o archwiliadau gydag arweinwyr cymunedol a’r trydydd sector ar yr hyn sydd ei angen nesaf ar y sector gwirfoddol, gwasanaethau statudol, a llunwyr polisi, i feithrin perthnasau cryf gyda chymunedau.

Ers hynny, mae’r timau wedi cynnal gweithgareddau, ymyriadau, a myfyrdodau, a bellach, wrth i ni gyrraedd y pwynt canol, yr hyn sy’n dod i’r amlwg yw pwysigrwydd gwrando er mwyn dysgu.

Mae’r holl dimau’n datblygu eu technegau eu hunain ar gyfer gwrando ar eu cymunedau, o arolygon syml i ddigwyddiadau cymunedol sy’n creu gofod i bobl fynegi’r hyn mae ‘da’ yn ei olygu iddyn nhw. Mae gwrando’n allweddol i’w nod trosfwaol o archwilio sut gellir pontio rhwystrau er mwyn cyd-gynhyrchu gwasanaethau sydd wirioneddol yn adlewyrchu’r pethau sy’n bwysig i’w cymunedau.

Mae ganddyn nhw i gyd gysylltiadau cryf gyda chydweithwyr yn y sectorau cyhoeddus, gwirfoddol ac elusennol, lle maen nhw’n teimlo wedi’u clywed. Y tu hwnt i’r perthnasau yma o ymddiriedaeth, maen nhw wedi nodi angen gwirioneddol am fwy o ofodau i rannu eu gwybodaeth a’u profiad, lle byddan nhw’n cael eu clywed a lle bydd eu lleisiau’n dylanwadu ar bolisi a strategaeth.

Mae Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru a’r arweinwyr traws-sectorol sydd wedi dod ynghyd i gefnogi’r rhaglen yn awyddus i greu rhywfaint o’r gofod hwnnw, fel bod modd rhannu gwaith dysgu’r timau yma yn ehangach, a sicrhau effaith.

RHANNU GWERTHOEDD I GEFNOGI GWEITHIO CYDWEITHREDOL

Nid gwrando er mwyn dysgu yw’r unig fyfyrdod sydd wedi’i amlygu gan y timau, ond hefyd pwysigrwydd gwerthoedd a rennir fel sail ar gyfer gweithredu cydweithredol.

Yn aml mae gan dimau brofiad sylweddol yn darparu digwyddiadau lleol, ac maen nhw wedi camu i’r adwy i ddiwallu anghenion uwch yn ystod y pandemig. Mae’r timau hyn yn gobeithio adeiladu ar y profiad hwnnw ar gyfer y dyfodol. Mae’r rhaglen yn cynnig gofod diogel lle gallan nhw fyfyrio ar y gofynion sydd arnyn nhw, sy’n aml yn heriol, ac weithiau’n cystadlu. Er enghraifft, mae ffynonellau cyllid hanfodol yn aml yn clymu grwpiau i nodau ac amcanion nad ydyn nhw’n adlewyrchu blaenoriaethau lleol. Fel rhan o’r rhaglen, mae timau’n myfyrio ynghylch sut gallan nhw gyfathrebu gwerthoedd a gweledigaethau a rennir yn fwy effeithiol gyda phartneriaid posib, ynghyd â’u cymuned, i feithrin y perthnasau o ymddiriedaeth sydd eu hangen arnyn nhw i ddatblygu.

Mae rhai timau hefyd yn edrych ar sut i ymgysylltu’n ehangach gydag aelodau o’u cymunedau eu hunain, sy’n aml yn teimlo nad ydyn nhw’n cael eu clywed. Mae gwrando yn allweddol i’r her yma hefyd.

BLE NESAF?

Yr hyn sy’n dod i’r amlwg yw awydd go iawn am ymagwedd fwy dynol sy’n canolbwyntio ar unigolion, sy’n seiliedig ar berthnasau o ymddiriedaeth, lle gall pobl wrando a dysgu gyda’i gilydd i wneud gwahaniaeth go iawn. Y cwestiwn sy’n codi ar gyfer y rhaglen nawr yw ble nesaf, a hynny ar gyfer y timau a’r sectorau gwirfoddol a statudol ehangach yng Nghymru? Sut gellir adeiladu gwrando a dysgu i wead perthnasau, er mwyn creu rhywbeth gwell ar gyfer y dyfodol? Rhywbeth y byddwn ni’n ei ystyried gyda Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru a’r grŵp arweinyddiaeth cenedlaethol dros yr ychydig wythnosau nesaf.