Yn y blog hwn i aelodau CGGC, edrycha John Matthews, Rheolwr Gyfarwyddwr SCG Cymru, ar gyflwr y rhwydwaith ffôn symudol yng Nghymru a’i oblygiadau i’r sector gwirfoddol.
Mae’r sector gwirfoddol yn chwarae rhan hanfodol mewn cefnogi a grymuso cymunedau ledled Cymru. Yn y byd sydd ohoni heddiw a yrrir gan ddigidol, mae’n rhaid i gymunedau gael mynediad at rwydweithiau ffonau symudol dibynadwy er mwyn cadw mewn cysylltiad, yn enwedig mudiadau sy’n gweithredu o fewn y sector gwirfoddol.
Mae gweithio’n effeithiol mewn modd symudol yn bwysig, yn enwedig gyda gweithlu a gwirfoddolwyr sydd ar wasgar yn ddaearyddol, felly mae cael signal ffôn symudol cryf yn hanfodol. Felly beth yw cyflwr y rhwydwaith ffôn symudol yng Nghymru a beth mae hyn yn ei olygu i fudiadau gwirfoddol?
Y DIRWEDD GYFREDOL
Mae gan Gymru dirweddau syfrdanol, o’i bryniau a phantiau i’w harfordiroedd prydferth, ond mae ei daearyddiaeth yn heriol o ran cael signal i ffonau symudol. Yn aml, mae ardaloedd gwledig yn dioddef o gysylltedd gwael am fod y boblogaeth yn wasgaredig a’r tir yn heriol. Tra bod canolfannau trefol fel Caerdydd ac Abertawe yn mwynhau rhwydwaith ffôn cryf, nid yw llawer o gymunedau gwledig yn cael gwasanaeth cystal.
I fudiadau gwirfoddol, sy’n gweithredu yn yr ardaloedd gwledig hyn fynych, gall rhwydwaith ffôn symudol annigonol rwystro eich gallu i gynnig gwasanaethau a chymorth hanfodol i gymunedau. Waeth a ydych yn darparu gwasanaethau gofal iechyd, rhaglenni addysg, neu’n rhoi cymorth brys, mae cyfathrebu cost-effeithiol a dibynadwy yn hanfodol i’ch cenhadaeth.
HERIAU A WYNEBIR GAN Y SECTOR GWIRFODDOL
Oherwydd y ddibyniaeth gynyddol ar ddata ymarferol a gweithio ar draws lleoliadau, mae’r sector gwirfoddol yn dibynnu’n drwm nawr ar dechnoleg ffôn symudol i gyrraedd buddiolwyr, cydlynu gwirfoddolwyr a chasglu data ar gyfer monitro a gwerthuso.
Fodd bynnag, gall rhwydweithiau ffonau symudol annibynadwy darfu ar y gweithgareddau hyn, gan arwain at aneffeithlonrwydd a chyfleoedd coll. Er enghraifft, gall elusen sy’n trefnu digwyddiad allgymorth cymunedol gael trafferth cyfathrebu â gwirfoddolwyr neu gael gafael ar adnoddau ar-lein os ydynt mewn ardal â signal ffôn gwael.
Yn ogystal â hyn, mae digidol yn gwneud anghydraddoldebau’n waeth, gyda chymunedau ar yr ymylon yn cael eu heffeithio’n anghymesur gan gysylltedd gwael. Ynghyd â llesteirio mynediad at wasanaethau hanfodol, mae hyn hefyd yn cyfyngu cyfleoedd ar gyfer datblygiad economaidd a chymdeithasol.
YMDRECHION I WELLA CYSYLLTEDD
Gan gydnabod pwysigrwydd cysylltedd, mae’r sectorau cyhoeddus a phreifat wedi bod yn ceisio gwella’r rhwydwaith ffôn symudol yng Nghymru. Mae mentrau fel Cynllun Gweithredu Ffonau Symudol Llywodraeth Cymru yn ceisio mynd i’r afael â bylchau mewn signal a gwella’r seilwaith mewn ardaloedd gwledig. Ynghyd â hyn, mae partneriaethau rhwng gweithredwyr rhwydwaith ac awdurdodau lleol wedi arwain at ddefnyddio mastiau ffonau symudol newydd a diweddaru’r seilwaith presennol.
Yn ogystal â hyn, mae datblygiadau mewn technoleg, fel 5G ac ehangu’r rhwydwaith 4G presennol, yn addo gwella cysylltedd a galluogi datrysiadau arloesol ar gyfer y sector gwirfoddol. O delefeddyginiaeth i addysg o bell, mae cysylltedd 4G a 5G yn chwyldroi sut y caiff gwasanaethau eu darparu mewn cymunedau gwledig.
RÔL CYDWEITHIO
I fynd i’r afael â heriau rhwydweithiau ffonau symudol, mae angen cydweithio rhwng asiantaethau llywodraethol, gweithredwyr rhwydweithiau a mudiadau gwirfoddol. Drwy weithio gyda’i gilydd, gall rhanddeiliaid nodi ardaloedd blaenoriaethol, dod o hyd i gyfleoedd cyllido a rhoi datrysiadau cynaliadwy ar waith.
Ynghyd â hyn, mae ymgysylltu cymunedol yn hanfodol ar gyfer sicrhau bod anghenion a phryderon trigolion lleol yn cael eu hystyried. Mae dulliau gweithredu cyfranogol, fel mentrau band eang a arweinir gan gymuned, yn grymuso cymunedau i gymryd perchnogaeth dros eu problemau cysylltedd a dod o hyd i ddatrysiadau sy’n diwallu eu hanghenion penodol.
EDRYCH YMLAEN
Er bod cynnydd wedi’i wneud o ran gwella’r rhwydwaith ffonau symudol yng Nghymru, mae heriau’n parhau, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig a phellennig. Wrth i ni edrych at y dyfodol, mae’n hanfodol ein bod yn rhoi blaenoriaeth i fuddsoddi mewn seilwaith, meithrin cydweithrediad rhwng rhanddeiliaid ac yn mabwysiadu dulliau arloesol o bontio’r bwlch digidol.
I’r sector gwirfoddol, mae cael mynediad at rwydweithiau ffonau symudol dibynadwy yn ymwneud â mwy nag aros mewn cysylltiad —mae’n ymwneud â grymuso cymunedau, gyrru newid cymdeithasol a chreu dyfodol mwy disglair i bawb. Drwy weithio gyda’n gilydd, gallwn sicrhau nad oes unrhyw gymuned yn cael ei gadael ar ôl yn yr oes ddigidol.
CASGLIAD:
Mae tirwedd y rhwydwaith ffonau symudol yng Nghymru yn chwarae rôl hanfodol mewn llunio pa mor effeithiol mae’r sector gwirfoddol yn gwasanaethu cymunedau. Er bod heriau’n parhau, mae’r ymdrechion parhaus i wella cysylltedd, ynghyd â chydweithio ac arloesedd, yn cynnig gobaith am ddyfodol mwy cynhwysol a chysylltiedig.
Wrth i ni lywio drwy gymhlethdodau cynhwysiant digidol, gadewch i ni barhau i flaenoriaethu anghenion cymunedau a gweithio tuag at Gymru lle y mae gan bawb fynediad at y cyfleoedd a gynigir gan gysylltedd ffonau symudol dibynadwy.
YNGLŶN AG SCG CYMRU
Mae *SCG Cymru, un o gyflenwyr dibynadwy CGGC, yn ddarparwr ffonau symudol aml-rwydwaith sy’n galluogi mynediad at holl rwydweithiau’r DU ar un cyfrif a reolir drwy borth sengl; mae hyn yn optimeiddio’r signal ac yn rhoi tawelwch meddwl i’n defnyddwyr.
Fel Partner Strategol EE mwyaf y DU a Phartner Ffonau Symudol y Flwyddyn ar hyn o bryd, ynghyd â bod yn un o Bartneriaid Strategol allweddol O2, a chyda mynediad uniongyrchol at rwydweithiau Vodafone a Three, Mae SCG Cymru mewn sefyllfa berffaith i’ch cynorthwyo chi i ddiwallu eich anghenion ffôn symudol, gan hefyd gyflwyno gwerth uchel i’ch mudiad.
*Saesneg yn unig