Mam-gu gyda'i dau o wyrion yn cael hwyl ac yn chwarae gemau addysg ar-lein gyda llechen ddigidol gartref yn yr ystafell fyw

Cysylltu ag aelodau: AbilityNet

Cyhoeddwyd: 15/12/21 | Categorïau: Ar gyfer aelodau,Gwybodaeth a chymorth, Awdur: AbilityNet

Bob chwarter, rydyn ni’n canolbwyntio ar weithgareddau amrywiol un o’n haelodau. Yn y blog hwn, mae AbilityNet yn egluro sut gallai eu gwasanaethau eich helpu chi a’r bobl rydych chi’n gweithio gyda nhw.

PWY YW ABILITYNET?

Mae AbilityNet yn elusen sy’n ymrwymedig i greu byd lle mae pobl o bob oed a chyda phob anabledd yn defnyddio cyfrifiaduron, y rhyngrwyd a thechnolegau digidol eraill i gyflawni eu potensial llawn.

Rydyn ni’n gwneud hyn drwy ddarparu gwasanaethau cynghori arbenigol, adnoddau gwybodaeth am ddim a thrwy helpu i greu byd digidol mwy hygyrch. Gyda thros 20 mlynedd o brofiad, gallwch chi ddibynnu ar ein harbenigedd ni.

SUT GALL ABILITYNET HELPU?

Mae AbilityNet yn elusen sy’n bodoli i newid bywydau pobl hŷn ac anabl drwy eu helpu i ddefnyddio technoleg ddigidol. Ein gweledigaeth yw am fyd digidol sydd yr un mor hygyrch i bawb. Rydyn ni’n cynnig nifer o wasanaethau sy’n cynorthwyo amrediad eang o bobl.

Mae AbilityNet yn cynnig llinell gymorth am ddim felly gallwch chi siarad â ni am gyngor a gwybodaeth am dechnoleg, neu ofyn am ein help os oes gennych chi unrhyw gwestiynau ynghylch anabledd a thechnoleg. Y cwbl sydd angen i chi ei wneud yw ffonio 0800 048 7642 i siarad â ni.

Mae gennym ni fwy na 350 o wirfoddolwyr technoleg, gan gynnwys nifer cynyddol yng Nghymru. Mae ein tîm cyfeillgar a dibynadwy yn aros i’ch helpu a’ch cefnogi, boed hynny dros y ffôn, drwy gysylltiad o bell neu’n bersonol gartref os oes rhywun gerllaw. Gall ein gwirfoddolwyr helpu gydag amrediad o broblemau technolegol, o osod technoleg, datrys problemau, i ddangos i chi sut i gysylltu â theulu a ffrindiau neu syrffio’r rhyngrwyd.

Er enghraifft, mae Jayne, un o’n gwirfoddolwyr sy’n byw yng Nghasnewydd, wedi bod yn helpu menyw hŷn, Ann, i siopa ar-lein yn ddiweddar. Trwy ymweliad cartref i osod apiau Amazon, Coop a Morrisons, mae Ann bellach wrth ei bodd yn archebu ei siopa wythnosol ar-lein, ac yn barod i daclo ei siopa Nadolig!

Gyda help gan arbenigwyr, rydyn ni hefyd wedi datblygu amrediad eang o adnoddau ar-lein am ddim, gan gynnwys taflenni ffeithiau, gweminarau a My Computer My Way, sef cyfres unigryw o ganllawiau cam wrth gam ar y ffyrdd niferus y gallwch chi addasu eich gliniadur, bwrdd gwaith, llechen neu ffôn clyfar, gan gynnwys newidiadau i’ch bysellfwrdd a llygoden.

FFYRDD SYML O DDYSGU MWY AM ABILITYNET:

Ffoniwch ein llinell gymorth am ddim 0800 048 7642 (9-5 Dydd Llun-dydd Gwener)

Gofyn am help neu gefnogaeth gwirfoddolwr ar-lein

Cofrestru i gael ein cylchlythyr a derbyn negeseuon e-bost sy’n cynnwys gweminarau am ddim, hyfforddiant, digwyddiadau a newyddion diweddar.

Gallwch chi ddysgu mwy am AbilityNet drwy ein dilyn ni ar Facebook a Twitter @AbilityNet

Dysgwch fwy amdanom ni a’n gwasanaethau am ddim drwy fynd i’n gwefan (Saesneg yn unig).