Mae ein Rheolwr Gwirfoddoli, Felicitie Walls, yn egluro mwy am y rhwydweithiau gwirfoddoli yng Nghymru, y manteision o gymryd rhan a sut i ymuno.
Cefnogi Trydydd Sector Cymru yw’r rhwydwaith o fudiadau cymorth ar gyfer holl sector gwirfoddol Cymru. Mae’n cynnwys CGGC a’r 19 o Gynghorau Gwirfoddol Sirol lleol a rhanbarthol (CVCs). Mae hefyd nifer o rwydweithiau ar gyfer unigolion a mudiadau yn y maes gwirfoddoli a rheoli gwirfoddolwyr.
Ceir Rhwydwaith Gwirfoddoli Cymru (VWN), sef rhwydwaith ar gyfer arweinwyr strategol cenedlaethol a rhanbarthol o fudiadau sy’n cynnwys gwirfoddolwyr neu’n hyrwyddo gwirfoddoli yng Nghymru. Nod y rhwydwaith hwn yw bod yn llais cryf, cydweithredol i ddylanwadu ar bolisïau a gwella arferion mewn gwirfoddoli a rheoli gwirfoddolwyr. Hwn hefyd yw’r rhwydwaith cynrychiadol ar gyfer gwirfoddoli, sy’n cyfrannu at Gyngor Partneriaeth y Trydydd Sector (TSPC) – y lle i gysylltu’r sector gwirfoddol â Llywodraeth Cymru.
I staff neu wirfoddolwyr mwy lleol neu ranbarthol, mae llawer o’r CVCs yng Nghymru yn cynnal Fforymau Rheoli Gwirfoddolwyr lleol, sy’n ymgynnull i rannu mewnwelediadau lleol a dysgu a bwydo i mewn i’r rhwydweithiau uchod drwy gynrychiolwyr CVC.
MANTEISION YMUNO Â RHWYDWAITH GWIRFODDOLI
Trwy ymuno ag un o’r rhwydweithiau hyn yng Nghymru, byddwch chi’n cael:
- Cyfle i ddylanwadu ar ddatblygiadau polisi ac arferion mewn gwirfoddoli yn eich ardal neu ranbarth chi, neu yng Nghymru (a thu hwnt).
- Mynediad at rwydwaith o arbenigwyr gwirfoddoli.
- Cyfleoedd i gydweithio a rhannu dysgu trwy gyfarfodydd rhwydwaith a mynediad at fforwm ar-lein ar gyfer aelodau rhwydwaith cenedlaethol.
- Cyfle i gymryd rhan mewn ymgyrchoedd gwirfoddoli cenedlaethol a/neu leol.
- Cyfathrebiadau perthnasol, rheolaidd ynghylch hyfforddiant, digwyddiadau, cyllid ac arferion da.
BETH FYDD YN DDISGWYLIEDIG OHONOCH
Nod pob un o’n rhwydweithiau yw cyflwyno buddion i bawb. Fel aelod rhwydwaith, byddem yn eich annog i:
- Fynd i gyfarfodydd rhithiol a/neu wyneb yn wyneb yn rheolaidd er mwyn i chi gael y diweddaraf ar weithgarwch y rhwydwaith.
- Rhannu eich profiadau, dysgu a’ch heriau fel y gallwch helpu aelodau eraill o’r rhwydwaith. Gallai’r rhannu hwn ddigwydd mewn cyfarfodydd rhwydwaith, trwy fforymau ar-lein neu drwy ddulliau cyfathrebu eraill dewisol, fel straeon newyddion da, blogiau, gwaith ymchwil neu adroddiadau.
- Ymuno ag is-grwpiau a gweithgorau ar bynciau sydd o ddiddordeb i chi.
- Croesawu a chefnogi eich cyd-aelodau rhwydwaith.
CYSYLLTWCH NAWR
Os ydych chi’n arweinydd strategol mewn mudiad cenedlaethol neu ranbarthol yng Nghymru sy’n cynnwys gwirfoddolwyr, gallech ymuno â Rhwydwaith Gwirfoddoli Cymru.
I ymuno ag unrhyw un o’r rhain, cysylltwch â Felicitie Walls, Rheolwr Gwirfoddoli, am ragor o wybodaeth yn fwalls@wcva.cymru
Os ydych chi’n aelod staff neu’n wirfoddolwr lleol neu ranbarthol sy’n ceisio cysylltu’n lleol – ymunwch â’n Fforwm Rheoli Gwirfoddolwyr lleol trwy gysylltu â’ch CVC lleol. Gellir dod o hyd i’r rhestr lawn o CVCs Cymru yma.
Dewch i ni wneud mwy o wahaniaeth gyda’n gilydd.