Dwy ddynes yn eistedd ar soffa, yn gwenu ac yn dal stumog feichiog un o'r merched

Cynnig cymorth hanfodol i geiswyr noddfa sy’n feichiog

Cyhoeddwyd: 13/05/24 | Categorïau: Gwirfoddoli, Awdur: Bec Woolley

Rydym wedi casglu straeon sy’n tynnu sylw at sut mae mudiadau sy’n gweithio ym maes iechyd a gofal cymdeithasol yn mynd yr ail filltir i ddarparu cymorth. Mae Bec Woolley, Arweinydd Prosiect dros dro y Birth Partner Project, yn dweud mwy wrthym.

Gan ein bod yn awyddus i glywed storïau’r rheini sy’n cynnig gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol anhygoel ledled Cymru, rydyn ni wedi lansio tudalen astudiaethau achos newydd sbon, sy’n edrych ar waith syfrdanol llawer o fudiadau, yn ogystal â’r heriau y maen nhw’n eu hwynebu. Un o’r rhain yw The Birth Partner Project yng Nghaerdydd, sy’n cynnig cymorth i bobl feichiog sy’n chwilio am noddfa.

Y BIRTH PARTNER PROJECT

Elusen yng Nghaerdydd yw The Birth Partner Project, sy’n darparu partneriaid genedigaeth ar gyfer menywod beichiog a phobl sy’n rhoi genedigaeth sy’n chwilio am noddfa, a fyddai fel arall yn wynebu beichiogrwydd, genedigaeth a’u hwythnosau cyntaf gyda’u babanod newydd-anedig ar eu pennau eu hunain.

Caiff pob menyw neu unigolyn sy’n esgor ei gefnogi gan dîm bychan o dri neu bedwar partner geni gwirfoddol, sy’n cwrdd â’i gilydd o wythnos 34 y beichiogrwydd ymlaen, i feithrin cyfeillgarwch a rhoi gwybodaeth ymarferol a chefnogaeth emosiynol yn y cyfnod cyn yr enedigaeth.

Pan fydd y cyfnod esgor yn dechrau, bydd y tîm yn rhoi cymorth 24 awr ar sail rota i sicrhau bod gan y fenyw neu’r unigolyn sy’n esgor rywun gydag ef ar bob adeg. Ar ôl yr enedigaeth, bydd y gwirfoddolwyr yn parhau i gwrdd â’r fam a’r baban bob wythnos am wyth wythnos bellach, gan gynnig cefnogaeth ychwanegol a gwneud yn siŵr bod ganddyn nhw bopeth sydd eu hangen arnyn nhw.

Mae Partneriaid Geni gwirfoddol yn cynnig cefnogaeth emosiynol ac ymarferol nad yw’n feddygol, mesurau cysur a phresenoldeb positif, magwraethol, yn ogystal â gwybodaeth a chyfeiriadau i’w cynorthwyo i gael mynediad at gymorth perthnasol arall yn ystod y cyfnod hwn.

Yn ogystal â phartneru menywod a phobl sy’n esgor yn ystod y cyfnod esgor a’r enedigaeth, mae’r Prosiect yn cynnig gwasanaeth galw heibio wythnosol sy’n canolbwyntio ar fynediad i wybodaeth a gwasanaethau iechyd ynghyd â gweithgareddau llesiant.

PAM MAE ANGEN Y GWASANAETH?

Mae gan The Birth Partner Project lawer o brofiad blaenorol o weithio gyda menywod a phobl sy’n esgor sy’n chwilio am noddfa yng Nghaerdydd, o’i sefydliad fel Mudiad Corfforedig Elusennol (CIO) yn 2018 ac am ddwy flynedd cyn hyn. Mae’r menywod a’r bobl sy’n esgor y maen nhw’n eu cefnogi i gyd wedi’u dadleoli gan wrthdaro a/neu erledigaeth, ac maen nhw i gyd yn chwilio am noddfa. Mae’r elusen yn cefnogi pobl sydd wedi’u masnachu, y rheini sydd wedi goresgyn trais domestig a’r rheini sydd wedi dioddef camdriniaeth yn erbyn menywod a merched.

Yn aml, mae ceiswyr lloches beichiog unigol yn cyrraedd Caerdydd yn ystod eu beichiogrwydd ac yn gorfod llywio dinas newydd a system iechyd newydd ar eu pennau eu hunain.

Fel y cydnabu gan Goleg Brenhinol y Bydwragedd yn eu *datganiad sefyllfa ar gyfer 2022:

‘Mae menywod beichiog mudol yn grŵp amrywiol sydd mewn perygl o brofi canlyniadau mamol ac amenedigol gwaeth anghymesur. Yn aml, maen nhw’n wynebu rhwystrau gofal lluosog…’

Mae hyn yn adleisio canfyddiadau diweddar ymchwiliad Birthrights i anghydraddoldeb hiliol a amlygodd effaith groestoriadol hil, ethnigrwydd a statws mewnfudol ar ganlyniadau mamol. Canfu’r adroddiad *Mothers and Babies: Reducing Risk through Audits and Confidential Enquiries 2022 (Mamau a Babanod: Lleihau’r Risg drwy Archwiliadau ac Ymholiadau Cyfrinachol) fod menywod du bedair gwaith yn fwy tebygol, a menywod o Asia ddwywaith yn fwy tebygol, o farw na menywod gwyn o ganlyniad i roi genedigaeth. Gall anghenion ac amgylchiadau penodol y grŵp demograffig amrywiol hwn arwain at ynysu ymhlith mamau, unigrwydd, anhwylder meddyliol a chanlyniadau iechyd gwael, gan gynnwys achosion y bu bron iddynt ddigwydd a marwolaethau newyddenedigol.

Y CANLYNIADAU

Mae The Birth Partner Project yn defnyddio fframwaith canlyniadau sy’n cynnwys cyfres o gwestiynau cyn ac ar ôl ymgysylltu (adnodd hunanadrodd) sy’n gwbl hygyrch i’r rheini nad ydynt yn siarad Saesneg a/neu’r rheini nad ydynt yn hyddysg yn eu hieithoedd eu hunain. Dengys ffigurau 2022/23:

  • Gwnaeth 100% o’r menywod a phobl a esgorodd a gefnogwyd gan y Prosiect deimlo gwelliant yn eu llesiant meddyliol o gael y prosiect yn gweithio ochr yn ochr â nhw
  • Teimlai 90% o’r menywod a phobl a esgorodd bod rhywun wedi gwrando arnyn nhw a bod eu lleisiau wedi’u clywed
  • Daeth 83% o’r menywod a phobl a esgorodd yn fwy ymwybodol o’u hawliau a’u dewisiadau o ran yr enedigaeth a’r esgor
  • Teimlai 71% o’r menywod a phobl a esgorodd yn fwy hyderus o ran gofalu am eu babanod newydd a sut i gael cymorth pe bai angen
  • Teimlai 85% o’r menywod a phobl a esgorodd yn llai unig ac yn llai ynysig

Yn ystod 2022-23, cynyddodd yr elusen nifer y menywod a phobl sy’n esgor, a nifer y babanod roedden nhw’n eu cefnogi, a gwnaethant lwyddo i beilota a gwerthuso gwasanaeth galw heibio (sydd bellach wedi’i gyllido i gael ei gynnal bob wythnos tan fis Tachwedd 2025). Diolch i’r gwasanaeth galw heibio, mae cyfranogwyr yn teimlo’n llai unig ac mae nifer sylweddol o atgyfeiriadau wedi’u gwneud i dimau arbenigol fel Iechyd Meddwl Amenedigol, therapïau Seicolegol, timau gofal cymhleth, ymhlith eraill.

Ceir rhagor o fanylion ynghylch yr elusen, a’r hyn y mae’n ei gyflawni, yn *Adroddiad Effaith 2023 The Birth Partner Project.

GWYBODAETH BELLACH

Gallwch ddarllen mwy am The Birth Partner Prosiect, ynghyd ag astudiaethau achos gan lawer o fudiadau eraill, ar ein tudalen astudiaethau achos newydd.

*Saesneg yn unig