Merch bach yn paentio enfys ar y ffenest

Cynnal yr ysbryd cymunedol yn dilyn COVID-19

Cyhoeddwyd: 19/10/20 | Categorïau: Heb gategori, Awdur:

Mae Ben Lloyd, Pennaeth Polisi gyda CGGC, yn archwilio Levelling Up Our Communities, adroddiad gan Danny Kruger AS sy’n cynnig gweithredoedd ar gyfer ‘cynnal yr ysbryd cymunedol a welsom yn ystod cyfnod y cyfyngiadau symud’.

Y mis diwethaf, rhyddhaodd yr AS Ceidwadol Danny Kruger adroddiad ar gynnal yr ysbryd cymunedol rydym wedi’i weld yn ystod pandemig y coronafeirws. Mae gan Mr Kruger gefndir yn y sector gwirfoddol, gan iddo sefydlu dwy elusen yn Llundain yn canolbwyntio ar gefnogi pobl ifanc agored i niwed. Roedd y gyntaf, Only Connect, yn canolbwyntio ar atal troseddu ieuenctid ac mae’r ail, West London Zone, yn cefnogi plant a phobl ifanc.

Mae ei adroddiad yn adnabod 20 o flaenoriaethau polisi, sy’n canolbwyntio ar dri phrif faes: grym, pobl a lleoedd. Tra bod nifer o’i argymhellion ond yn berthnasol i Loegr, gallai rhai ohonynt gael effaith ganlyniadol ar Gymru.

GRYM

Ymysg argymhellion Mr Kruger o ran grym mae gwella’r data sydd ar gael ynglŷn ag elusennau ac ynghylch eu hamcanion. Cynigia gyfres o newidiadau mewn perthynas â chomisiynu a gwerth cymdeithasol yn ogystal. Yn fwyaf diddorol, mae’r adran hon yn cynnwys argymhellion ynglŷn â Deddf Grym Cymdeithasol (i Loegr) a fyddai’n ‘datgan hawl pobl gyffredin i gyflawni newid ystyrlon yn eu cymdogaethau nhw’u hunain’.

Mae llawer o hyn yn debyg i ddeddfwriaeth mae CGGC yn ei chefnogi yng Nghymru. Yn ogystal â’r Ddeddf hon ceir cynigion ynghylch hawl y gymuned i wasanaethu ac Ardaloedd Gwella Busnes. Mae’r cyntaf yn cynnwys galluogi prosiectau megis grwpiau gofal iechyd cymunedol, mentrau cymdeithasol y blynyddoedd cynnar, ac ailsefydlu ffoaduriaid.

POBL

Mae’r adran sy’n ymwneud â phobl yn awgrymu cynnig o basport i wirfoddolwyr a fyddai’n creu ‘cronfa’ o wirfoddolwyr a allai symud rhwng cyfleoedd gwirfoddoli pan fo’r angen, gan weithio gydag argyfyngau, neu’n fwy cyffredinol gyda gwasanaethau cyhoeddus a chymunedol. Mae hefyd yn archwilio nifer o fecanweithiau ar gyfer cefnogi pobl ifanc a chymunedau ffydd yn enwedig, yn ogystal â Diwrnod y Gymdogaeth – sef dathliad o gymuned -– ar ŵyl y banc.

Yn ystod cyfnod cyfyngiadau COVID-19, cafwyd tensiynau rhwng Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru ynglŷn â’r cynllun gwirfoddoli mewn argyfwng a ddatblygwyd ar gyfer Lloegr a’r defnydd a ffefrir o seilwaith hirdymor Gwirfoddoli Cymru, y ffrwythiant a gynigir gan wefan Gwirfoddoli Cymru. Mae nifer o elusennau’n gweithredu ledled y DU ac felly bydd angen ystyried hyn hefyd.

LLEOEDD

Mae’r adran sy’n ymwneud â lleoedd yn edrych yn benodol ar sut gellir cefnogi asedau cymunedol a chysylltwyr cymdeithasol a sut i gryfhau’r rôl maen nhw’n ei chwarae mewn datblygiad cymunedol. Mae Mr Kruger yn hynod feirniadol o’r esgeulustod o sefydliadau cymunedol yn ddiweddar ac mae’n ceisio gwella’r seilwaith hon. Edrycha hefyd ar nifer o opsiynau cyllido ar gyfer prosiectau cymunedol, gan gynnwys pwyslais ar haelioni a chyllido torfol, ochr yn ochr ag awgrymiadau ar gyfer cronfeydd ychwanegol ar gyfer cyllid yn seiliedig ar le ac adolygiad o weithrediad Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol er mwyn ei gwneud ‘yn system ddosrannu fwy lleol fyth wedi’i harwain gan gymunedau’.

YR HYN A DYNNWN NI O’R ADRODDIAD

Caiff y ffocws ar gymuned, yn ogystal â rhai awgrymiadau ymarferol ynghylch sut i ddenu cyllid newydd, eu croesawu gan elusennau sydd wedi’u harwain gan y gymuned, a byddai rhai o’r cynigion cyllido hyn naill ai’n cynnwys Cymru, neu’n rhyddhau cyllid newydd i Lywodraeth Cymru. Fodd bynnag, mae rhoi gormod o bwyslais ar haelioni yn mentro annog ardaloedd cyfoethocach i ailfuddsoddi ynddyn nhw’u hunain, ac ailadrodd patrymau dosrannu cyfoeth anghyfartal, yn hytrach na gwastatáu gwahaniaethau cymdeithasol.

Y diffyg mwyaf yn yr adroddiad hwn yw’r diffyg pwyslais ar gydraddoldeb ac amrywiaeth. Mae Mr Kruger wedi esbonio’i fod yn bwriadu canolbwyntio ar gymunedau daearyddol, yn hytrach na chymunedau o ddiddordeb, a’i obaith y bydd cefnogi cymunedau daearyddol yn cynorthwyo i ostwng anghydraddoldeb. Ond byddai cymunedau BAME yn dadlau na fydd hyn yn digwydd heb ffocws uniongyrchol ar hil, er enghraifft.

Mae’r adroddiad hwn yn un cynhwysfawr a meddylgar. Teimla CGGC y gallai rhai o’r cynigion ynddo gryfhau gweithredu gwirfoddol yng Nghymru, yn enwedig mewn perthynas â chyfleoedd cyllido, ond mae angen mwy o fanylion er mwyn gweld a allant ddarparu cefnogaeth briodol i’r heriau unigryw sy’n wynebu cymunedau yng Nghymru.

Gallwch ddarllen adroddiad llawn Danny Kruger AS yma (Saesneg yn unig)