Mae Llywodraeth Cymru wedi lansio Cynllun Iechyd Menywod Cymru a’r Strategaeth Iechyd Meddwl a Llesiant Meddyliol yn ddiweddar. Yn y gyntaf o ddau flog, mae Debbie Shaffer, Cyfarwyddwr Triniaeth Deg i Fenywod Cymru, yn edrych ar y cyfleoedd a’r risgiau a rennir.
Chwe mis ers lansiad y Cynllun Iechyd Menywod cyntaf erioed i Gymru gan y GIG, ac ychydig fisoedd ers cyhoeddiad Strategaeth Iechyd Meddwl a Llesiant Meddyliol (2025-2035) Llywodraeth Cymru, mae’n bryd edrych ar beth sy’n gyffredin yn y rhain a beth allent ei olygu i’r sector.
Mae’r ddau yn cyflwyno gweledigaeth deng mlynedd ar gyfer gwella iechyd a lles poblogaeth Cymru, ac wedi’u seilio ar uchelgais eang i fynd i’r afael ag anghydraddoldebau iechyd.
TRECHU STIGMA A STEREOTEIPIAU
Mae iechyd ac iechyd meddwl menywod, efallai yn fwy nag unrhyw bwnc arall sy’n ymwneud ag iechyd, yn rhannu’r un mythau a thabŵs, felly mae amlygu a threchu effaith niweidiol rhagfarnau, stereoteipiau a stigma hen ffasiwn ar y rheini a effeithir yn hanfodol i’r ddau gynllun.
Mae’n bwysig mynd i’r afael â rhai camsyniadau parhaol ynghylch iechyd menywod, gan gynnwys y ffaith ei fod yn ymwneud â materion mamolaeth a gynaecolegol yn unig. Er mor bwysig yw’r rhain, heb, os, awgryma’r dystiolaeth nad oes digon o ymchwil yn cael ei wneud i’r meysydd hyn na digon o adnoddau yn cael eu rhoi iddynt, sy’n arwain at brofiadau a chanlyniadau anghyfartal a gwael i lawer o fenywod.
Fodd bynnag, mae’r diffyg buddsoddiad ac ymchwil hyn hefyd yn ymestyn i brofiad menywod o faterion iechyd a all effeithio ar unrhyw un ohonom ni, boed hynny’n diabetes, asthma, cyflyrau’r galon neu iechyd meddwl.
Gall hyn roi straen fawr ar bobl, eu teuluoedd, gweithleoedd a’r gymdeithas ehangach. Mae’n hawdd gweld sut mae’r angen i leihau anghydraddoldebau iechyd yn cael ei adleisio yn y Strategaeth Iechyd Meddwl a Llesiant Meddyliol.
Mae’r ddau gynllun yn canolbwyntio ar ofal sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn a mynd i’r afael â rhagfarnau hanesyddol, rhagdybiaethau gwahaniaethol ac amgylcheddau anhygyrch. Bydd mudiadau gwirfoddol yn gweld hyn fel rhan o’u harbenigedd nhw, sy’n ddigon teg, ac yn rhan annatod o agenda ‘atal’ Cymru. Ochr yn ochr â darparu gwasanaethau ein hunain, bydd llawer o fudiadau gwirfoddol yn canolbwyntio hefyd ar fwyhau lleisiau ac anghenion buddiolwyr a grwpiau a ymyleiddiwyd.
MEWNWELEDIAD AC ARBENIGEDD
Rydym wedi ein hymwreiddio’n unigryw yn ein cymunedau a’r cymunedau hynny’n ymddiried ynom, a waeth beth yw ein maint, bydd llawer o fudiadau yn casglu cyfoeth o wybodaeth wrth wneud eu gwaith. Gan hynny, mae gennym lawer o fewnwelediadau gwerthfawr a chryn dipyn o arbenigedd i’w rhannu â chyrff statudol, a gall y rhain eu galluogi i ddatblygu polisïau ac arferion sy’n lleihau (yn hytrach na pharhau) annhegwch, gan arwain at ymyriadau cynharach a gwell i ddefnyddwyr gwasanaethau.
Mae cyd-gynhyrchu yn elfen amlwg yn y ddau gynllun cyflawni. Mae’r dull gweithredu hwn yn dod â gwasanaethau statudol, y sector gwirfoddol a phobl â phrofiadau bywyd ynghyd i gydweithio ar ddylunio a gwerthuso gwasanaethau. Mae hyn yn rhywbeth i ni fod yn optimistaidd iawn amdano.
Wrth roi’r ddau gynllun ar waith, bydd disgwyl i gyrff cyhoeddus ymchwilio i’r gwasanaethau a’r cymorth a gynigir i bobl a’r cymunedau y maen nhw’n byw o’u mewn, a chreu rhwydwaith o arbenigwyr i sicrhau bod beth bynnag a lunnir yn hygyrch ac effeithiol.
Mae hwn yn gyfle ardderchog i fudiadau gwirfoddol gymryd rhan, rhoi cefnogaeth i’n buddiolwyr, sicrhau bod eu lleisiau yn cael eu clywed a helpu i gael gwared ag anhegwch cyn iddo gydio. Mae hefyd yn gyfle i ddangos bod y gwasanaethau y mae cymaint ohonom yn eu darparu yn hanfodol i iechyd, iechyd meddwl a lles ehangach menywod, a dylent gael eu trin felly.
RISGIAU
Fodd bynnag, gallai’r ffaith bod corff cyhoeddus yn cyfeirio atom fel mudiad sy’n darparu gwasanaethau arwain at fwy o alw. Nid yw pob mudiad mewn sefyllfa i amsugno’r gwaith ychwanegol hwn ar hyn o bryd heb fwy o adnoddau. Yn ei hanfod, mae cyd-gynhyrchu yn golygu sicrhau bod cyfranogwyr yn cael eu gwerthfawrogi a’u cefnogi fel eu bod yn bartneriaid cyfartal, felly bydd angen i gyrff statudol ystyried hyn o’r cychwyn cyntaf.
Efallai bydd angen i fwy o fudiadau gwirfoddol ymhél â phrosesau comisiynu ffurfiol, heb fawr iawn o wybodaeth nac arbenigedd ohonynt. Er mwyn amddiffyn grwpiau llai a grwpiau llawr gwlad rhag cael eu cadw allan, bydd angen i bartneriaid statudol edrych ar ffyrdd newydd, arloesol o sicrhau bod y mudiadau hynny yn cael eu hymbaratoi’n gynaliadwy i gymryd rhan.
Bydd y lleisiau hynny sy’n aml yn cael eu hymyleiddio y mae cymaint ohonom yn eu cynrychioli yn dibynnu ar hyn, a bydd profiadau gwell a chanlyniadau mwy cyfartal i bob defnyddiwr gwasanaeth yn fesur allweddol o lwyddiant Cynllun Iechyd Menywod Cymru a’r Strategaeth Iechyd Meddwl a Llesiant Meddyliol.
Mae FTWW: Triniaeth Deg i Fenywod Cymru yn elusen Cymru gyfan a mudiad pobl anabl sy’n canolbwyntio ar fynd i’r afael ag anghydraddoldeb iechyd a brofir gan fenywod a phobl a bennwyd yn fenywod ar enedigaeth.
MWY O ADNODDAU
Yn ail ran y gyfres hon, bydd Simon Jones, Pennaeth Polisi, Ymgyrchoedd a Chyfathrebiadau Mind Cymru, yn edrych yn fanylach ar y Strategaeth Iechyd Meddwl a Llesiant Meddyliol.
Am ragor o wybodaeth am y dirwedd iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru, ewch i dudalen Prosiect Iechyd a Gofal CGGC.
Nodir yr egwyddorion y mae Llywodraeth Cymru yn eu dilyn i gyllido’r sector yn y Cod Ymarfer ar gyfer Ariannu’r Trydydd Sector.