Rydym yn sôn am gynlluniau Llywodraeth Cymru i gael eich barn ar eu cynllun gweithredu cydraddoldeb hiliol, a sut y gallwch helpu i lunio dyfodol Cymru wrthhiliol.
PAM MAE ANGEN NEWID ARNOM NI
Mae effaith anghyfartal Covid-19 ar bobl Ddu, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol a thwf yr ymgyrch Mae Bywydau Du o Bwys wedi gwaethygu’r anghydraddoldebau sy’n parhau i fodoli rhwng grwpiau ethnig amrywiol a grwpiau ethnig gwyn.
Serch y bwriadau gorau i ddatblygu lliaws o strategaethau, polisïau a mentrau a gyllidwyd ar gyfer cydraddoldeb, nid ydynt wedi gwneud digon i fynd i’r afael â’r anghydraddoldebau hiliol sy’n bodoli yng Nghymru. Mae’r anfantais systemaidd a sefydliadol a brofir gan bobl ethnig amrywiol yn dechrau o’u geni ac yn parhau drwy addysg, cyflogaeth a thu hwnt:
- mae menywod du yn y DU bum gwaith yn fwy tebygol o farw mewn beichiogrwydd na menywod gwyn[1]
- nid yw plant Du, Asiaidd ac Ethnig Lleiafrifol yn debygol o gael eu haddysgu gan rywun sy’n edrych fel nhw, ac yn ôl Dangos y Cerdyn Coch i Hiliaeth, mae pedwar o bob deg wedi profi gwahaniaethu[2]
- pan ddaw penaethiaid aelwydydd yng Nghymru o grŵp ethnig nad yw’n wyn, mae’r aelwydydd hynny’n fwy tebygol o fod mewn tlodi incwm perthnasol o’u cymharu â’r rheini sydd â phenaethiaid aelwydydd o grŵp ethnig gwyn[3].
Mae Llywodraeth Cymru wedi cydnabod y diffyg cynnydd hwn ac wedi ymateb i alwadau am strategaeth bwrpasol trwy greu ei Chynllun Gweithredu Cydraddoldeb Hiliol. Gweledigaeth Llywodraeth Cymru yw i Gymru fynd ati’n weithredol i fod yn wrth-hiliol, i gyflawni newid gwirioneddol, a’r uchelgais yw i gyflawni hyn trwy gynllun ymarferol a lywir gan weithrediadau.
YNGLŶN Â’R CYNLLUN
Mae Llywodraeth Cymru eisiau eich barnau ar gynllun gweithredu cydraddoldeb hiliol a fydd yn helpu i wneud Cymru’n wrth-hiliol. Mae’r cynllun yn seiliedig ar dystiolaeth ac wedi’i gyd-gynhyrchu. Mae wedi’i lywio gan adolygiad cyflym o dystiolaeth, a gynhaliwyd gan Ganolfan Polisi Cyhoeddus Cymru ac a ddatblygwyd mewn ymgynghoriad agos â phobl Ddu, Asiaidd ac Ethnic Leiafrifol.
Mae’r cynllun yn cynnwys nodau, camau gweithredu a chanlyniadau lefel uchel ar gyfer 13 o themâu polisi a phroblemau trosfwaol. [4]
Trwy roi’r camau gweithredu hyn ar waith, mae Llywodraeth Cymru eisiau i’w gweledigaeth am Gymru wrth-hiliol fod wedi’i gwireddu erbyn 2030. Cymru lle, er enghraifft:
- rydyn ni’n “herio pobl ar hiliaeth” pan fyddwn ni’n ei gweld
- ni ofynnir i bobl “o ble rydych chi’n dod” mwyach
- darperir gwasanaethau cyfartal sy’n briodol i bob diwylliant
- caiff ein holl brofiadau byw gwahanol eu clywed a’u cefnogi
- caiff mudiadau eu hysgogi i gydymffurfio â Deddf Cydraddoldeb 2010
Gallwch gael rhagor o wybodaeth am y cynllun ar wefan Llywodraeth Cymru.
BETH YDYCH CHI’N EI FEDDWL?
Ydych chi’n credu y bydd yn effeithiol? Ydych chi’n credu bod modd ei gyflawni neu’n credu nad yw’n ddigon uchelgeisiol o bosibl? Beth, os unrhyw beth, sydd wedi’i golli?
Rhannwch eich barn â Llywodraeth Cymru. Mae’r ymgynghoriad ar y cynllun ar agor tan 15 Gorffennaf.
[1] https://llyw.cymru/cynllun-gweithredu-cydraddoldeb-hiliol-html
[2] https://llyw.cymru/cynllun-gweithredu-cydraddoldeb-hiliol-html
[3] https://llyw.cymru/cynllun-gweithredu-cydraddoldeb-hiliol-html
[4] https://llyw.cymru/sites/default/files/consultations/2021-03/cynllun-gweithredu-cydraddoldeb-hiliol-cymru-wrth-hiliol.pdf