Mae Rheolwr Helplu Cymru, Fiona Liddell, yn rhannu mewnwelediadau o astudiaeth ar ofal ymyrraeth mewn argyfwng.
Flynyddoedd yn ôl, roeddwn i’n Gyd-Warden mewn canolfan encil ac yn aml yn cael fy synnu o’r ochr orau gyda’r trawsnewid roedden ni’n ei weld yn y bobl a oedd yn aros yno, boed hynny am rai nosweithiau neu ragor. Roedd pobl yn cyrraedd gyda ‘phwysau’ bywyd pob dydd ar eu hysgwyddau ond yn gadael gyda llwyth metafforig ysgafnach, ar ôl cysylltu, neu ailgysylltu, â phobl eraill, â natur, â hanes, â Duw, â gweledigaeth ehangach, neu beth bynnag.
Felly roedd gennyf ddiddordeb yn yr astudiaeth* y gwnes i ei chanfod ar ganolfan encil elusennol yn Seland Newydd a oedd yn canolbwyntio ar gefnogi pobl mewn trallod seicolegol. Efallai ei fod yn ymddangos fel pwnc go arbenigol, ond rwy’n credu bod y mewnwelediadau a ganfuwyd, yn bell-gyrhaeddol. Mae’n rhoi dealltwriaeth well i ni o botensial cymorth anghlinigol, cynhwysfawr gan fudiad gwirfoddol.
GOFAL MEWN ARGYFWNG
Mae’r elusen dan sylw yn rhoi seibiant mewn argyfwng. Nod yr ymchwil oedd datblygu damcaniaeth o ran sut mae seibiannau o’r fath yn cefnogi pobl sy’n dioddef trallod, gan nodi canlyniadau allweddol yn ogystal â’r ffactorau a’r dulliau sy’n egluro sut y cyflawnwyd y canlyniadau hyn.
Yn aml, mae trafodaethau ynghylch sut i gefnogi pobl mewn argyfwng yn canolbwyntio ar yr angen i ehangu neu wella gwasanaethau iechyd meddwl clinigol. Ond, nid yw llawer o bobl angen triniaethau clinigol, ond maen nhw angen mwy na galwad ffôn i linell gymorth mewn argyfwng. Gall seibiant fod yn opsiwn effeithiol.
SBECTRWM O YMATEB
Mae Taranaki Retreat (yr Encil) yn cynnig gwasanaeth cynhwysfawr a hyblyg, gan gynnwys cymorth ymarferol ac emosiynol gan weithiwr cymorth, gweithgareddau opsiynol fel pilates, garddio, celf a chrefft a chysylltiad a chymorth dilynol am gyfnod cyfyngedig ar ôl i’r gwestai adael (maen nhw’n cyfeirio at ddefnyddwyr gwasanaethau fel ‘gwesteion’ yma). Fel arfer, bydd pobl yn aros am bump neu ddeg diwrnod, ond gallant aros am hirach ac mae am ddim i westeion gan ei fod yn cael ei gyllido drwy adnoddau elusennol, gan gynnwys rhoddion gwirfoddol. Ni all yr Encil ymdrin â phobl â salwch meddwl aciwt fel seicosis, na’r rheini â phroblemau sy’n ymwneud â sylweddau.
DULLIAU AR GYFER NEWID
Nodwyd pum canlyniad rhyngberthnasol ar gyfer gwesteion yr Encil: y rhai a gododd amlaf oedd llai o drallod emosiynol, llai o deimladau hunanladdol a meddwl yn fwy clir. Hefyd, gwnaeth y rheini a nododd bod ganddyn nhw broblemau yn ymwneud â chysgu neu wneud tasgau bob dydd (fel gallu gyrru neu astudio) ar ddechrau eu harhosiad nodi eu bod yn cysgu’n well ac yn gallu cyflawni tasgau bob dydd eto. Gyda’i gilydd, roedd y canlyniadau hyn yn ateb i argyfwng unigolyn.
Yr hyn sy’n ddiddorol i mi yw canfyddiadau’r astudiaeth o ran pum dull sylfaenol ar gyfer newid: daeth ‘darparu seibiant’ a ‘tharfu ar ymddygiadau annefnyddiol’ yn sgil gallu tynnu rhywun o’r hyn nad yw’n ddefnyddiol. Mae’r tri arall yn ymwneud mwy ag ansawdd yr amgylchedd newydd, ‘cydnabod trallod’, ‘cynnig gofal gwirioneddol’ a ‘phresenoldeb cynghreiriaid’.
GWERTH UNIGRYW GWIRFODDOLI
Gwnaeth statws aelodau staff, nad oedd yn broffesiynol, a chymorth gwirfoddolwyr ychwanegu at y teimlad bod y gofal yn cael ei ysgogi gan awydd go iawn i helpu. Gwnaeth y ffaith bod staff, gwirfoddolwyr a rhoddwyr ariannol wedi dewis rhoi’r gefnogaeth a wnaethant ein llenwi ag edmygedd a chynyddu’r cymhelliant i wella.
Gwnaeth cael staff a gwirfoddolwyr o gwmpas a oedd yn hawdd uniaethu â nhw, rhai a fyddai’n aml yn rhannu eu profiadau eu hunain ac yn cyflwyno mewn ffordd anffurfiol, ychwanegu at deimladau o gael eu gwerthfawrogi, eu deall a’u bod ‘ym mhresenoldeb cynghreiriaid’, ac yn aml, roedd hyn i’r gwrthwyneb i brofiadau gwesteion o wasanaethau iechyd meddwl ffurfiol. Gwnaeth yr ymdeimlad o ‘gynghreiriaid’ cefnogol ehangu i ryw raddau, ond nid ym mhob achos, i westeion eraill hefyd.
GOBLYGIADAU EHANGACH
Un o nodweddion unigryw mudiadau gwirfoddol yw eu dull gweithredu mwy holistaidd a hyblyg a yrrir gan werth, o’i gymharu â gwasanaethau statudol.
Daeth yr astudiaeth ddiddorol tu hwnt hon, yr wyf dim ond wedi cyffwrdd â hi yma, i’r casgliad bod ‘…yr agwedd wirfoddol a’r agwedd nad yw’n broffesiynol yn cyflwyno manteision unigryw a phwysig yn ôl pob golwg. Nid ychwanegiad defnyddiol neu ffynhonnell o waith am ddim yn unig mo gwirfoddolwyr – maen nhw’n ganolog i ganlyniadau positif.’
Felly rhaid i ni beidio â syrthio i’r fagl o feddwl mai gofal proffesiynol yw’r unig ofal sy’n cyfri. Os yw’r astudiaeth hon yn pledio’r achos dros wasanaethau mewn argyfwng da, nad yw’n broffesiynol, pa feysydd eraill o ofal iechyd allai, o bosibl, gael eu darparu’n well gan staff nad ydynt yn broffesiynol neu wirfoddolwyr? A sut ydyn ni’n sicrhau bod y gwasanaethau hyn ar gael i fwy o bobl a’u bod yn gysylltiedig â’r ddarpariaeth prif ffrwd?
YNGLŶN Â HELPLU CYMRU
Mae Helplu Cymru yn gweithio gyda Chefnogi Trydydd Sector Cymru (CGGC ac 19 o Gynghorau Gwirfoddol Sirol (CVCs)), Llywodraeth Cymru a phartneriaid eraill i ddatblygu potensial gwirfoddoli i gefnogi gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru.
Ewch i dudalen we Helplu Cymru, neu i dderbyn diweddariadau ar e-bost, cofrestrwch yma a dewiswch yr opsiwn ‘gwirfoddoli iechyd a gofal’.
*Cyfeiriad: ‘The provision of comprehensive crisis intervention by a charitable organisation: findings from a realist evaluation’. Magill R, Collings, S, Jenkin G (2023) yn Voluntary Sector Review Cyfrol 14 Rhif 1 Mawrth 2023.