Children stand in front of Y Tŷ Gwrydd's front window

Cymunedau Rhuthun a Dinbych ‘ar dân!’

Cyhoeddwyd: 27/04/21 | Categorïau: Heb gategori, Awdur: Aimee Parker

Yn Rhuthun a Dinbych, buon ni’n gweithio gyda thri mudiad cymunedol, sef Cwmni Buddiannau Cymunedol Resource, Drosi Bikes, a’r Tŷ Gwyrdd. Roedd hwn yn gyfle i dri mudiad newydd weithio gyda’i gilydd…cyfle roedden nhw’n ei werthfawrogi!

Roedd y cyfranogwyr yn y gweithdy yn cynrychioli llawer o grwpiau a mudiadau gan gynnwys myfyrwyr, swyddog datblygu cymunedol, ecolegydd, entrepreneuriaid cymdeithasol, prifysgol y drydedd oes, extinction rebellion, cymunedau cyfeillgar o ran dementia ac aelodau o’r gymuned oedd â diddordeb.

Nodwyd diwylliant a’r Gymraeg fel themâu pwysig gan y cymunedau yma, a dewisodd un o’r cyfranogwyr y Gymraeg fel ei ‘cherbyd’ yn y sesiwn torri’r iâ wrth ystyried y daith.

SGYRSIAU BYWIOG

 

Fel rhan o’r gweithdy cyntaf, rhannwyd y cyfranogwyr yn grwpiau a gofynnwyd iddyn nhw ddefnyddio olwynion y dyfodol i ‘freuddwydio’n fawr’ gan ddefnyddio’r ‘hadau newid’ fel ysbrydoliaeth. I gael rhagor o wybodaeth am y fethodoleg a’r broses, darllenwch fy mlogiad am y fethodoleg a ddefnyddiwyd.

Cafwyd sgyrsiau bywiog gan bob grŵp oedd yn eu hannog i freuddwydio am beth allai dyfodol gwell fod i’w cymunedau. Roedd y gweithdy’n fywiog ac yn ysbrydoledig; nododd un o’r cyfranogwyr ar y diwedd ei bod hi ‘ar dân!’

Fel rhan o’r broses, caiff nifer o ddatganiadau eu datblygu sy’n cynrychioli’r themâu a nodwyd gan y gymuned fel elfennau ar gyfer dyfodol gwell. Yn Rhuthun a Dinbych, roedd y datganiadau a luniwyd ar gyfer yr ail weithdy’n canolbwyntio ar ddefnyddio gofodau yng nghanol trefi a gwneud y gorau o asedau a seilwaith.

Roedden nhw hefyd yn awyddus i archwilio’r posibilrwydd o ddatblygu economi gylchol, gwneud newidiadau i’r economi leol bresennol a beth roedden nhw’n gallu ei wneud er mwyn galluogi creu cymuned gynhwysol a chydlynus.

Adeilad bach gyda logo Adnodd arno

THEMÂU SY’N CODI

Roedd y dull tri gorwel yn galluogi’r grwpiau i ystyried lle maen nhw a sut mae hynny’n wahanol i’r fan yr hoffen nhw ei chyrraedd. Fel rhan o’r drafodaeth yma, cafodd y grwpiau eu hannog i ystyried pa newid cadarnhaol sydd eisoes yn digwydd yn eu cymunedau.

Yn yr ail weithdy, roedd cyfranogwyr yn gallu dewis pa grwpiau roedden nhw’n ymuno â nhw yn seiliedig ar eu diddordebau a’u profiadau. Roedd hyn yn creu sgyrsiau actif a bywiog oedd yn llawn brwdfrydedd ac angerdd. Roedd hwn yn gyfle prin i grŵp amrywiol o bobl ddod at ei gilydd ac i drafod newidiadau maen nhw am eu gweld yn eu cymunedau mewn ffordd gadarnhaol.

Yn y gymuned yma, roedd y grŵp cymuned gylchol yn boblogaidd iawn!

Roedd llawer o orgyffwrdd rhwng grwpiau gyda themâu cryf yn dod i’r fei. Roedd gan y grŵp llawer iawn o syniadau o ran y newid roedden nhw am ei weld a’r camau y bydden nhw’n eu cymryd er mwyn cyrraedd yno.

Cafodd Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol ei chrybwyll sawl tro ac roedd y gymuned am symud i ffwrdd o’r ysfa am gyfoeth ariannol a chasglu pethau. Roedden nhw am weld pobl yn rhoi gwerth ar lesiant a ‘gwneud’ yn hytrach na ‘chael’.

SYMUD PETHAU YMLAEN

Mae dyn yn reidio beic heibio i gae

Mae’r tri mudiad a fu’n rhan o’r ymarferiad yma’n edrych i sefydlu grŵp llywio lleol i symud y weledigaeth ymlaen. Mae hyn yn ganlyniad gwych o’r prosiect yma ac rydyn ni’n edrych ymlaen at weld sut bydd y cydweithio yma’n datblygu dros amser. Gyda’r tri unigolyn a’r mudiadau yma’n gweithio gyda’i gilydd, mae unrhyw beth yn bosibl!

RHAGOR O WYBODAETH AM BROSIECT DYFODOL GWELL CYMRU

Rydyn ni’n awyddus i weld y prosiect yn cael mwy o effaith yn ehangach, ac rydyn ni wedi datblygu’r gyfres yma o flogiadau yn ogystal â phodlediadau, flogiau a phecyn cymorth, ac mae’r cyfan ar gael yn fan hyn.