Yn y blog hwn, mae ymddiriedolwr CGGC Joe Stockley a chwech person ifanc arall yn mynegi eu syniadau ar gyfer sut Gymru yr hoffent hwy ei gweld yn y dyfodol.
Helo – Joe ydw i, 24 oed. Gyda’r nos ac ar benwythnosau rwy’n ymddiriedolwr (i CGGC a Chyngor Ieuenctid Prydain) ac yn y dydd rwy’n gyfrifol am gyfathrebu i elusen o’r enw Diverse Cymru.
Rwyf wrth fy modd gyda’r sector elusennau yng Nghymru, rwy’n caru bwyd, rwy’n caru gallu cynorthwyo pobl ifanc i drafod y pethau sy’n bwysig iddyn nhw (dim ond pan fydd pethau’n digwydd o ganlyniad i hynny).
Pe byddwn yn logio ymlaen i unrhyw wefan newyddion yr eiliad hon, rwy’n credu y gallwn ddod o hyd i stori am sut mae pobl yn cael amser caled iawn gyda Covid, sut y bydd pobl ifanc yn derbyn triniaeth annheg pan fydd y cyfnod clo yn dod i ben, y ffordd mae iechyd meddwl pobl ifanc yn dioddef yn fawr, yn ogystal â’u sefyllfaoedd ariannol – pwy a ŵyr? Mae’r Sefydliad Llafur Annibynnol yn cyfeirio at y ‘sioc driphlyg’ y bydd pobl ifanc yn eu hwynebu – ‘dinistriad gwaith, amhariad ar hyfforddiant ac addysg a’r rhwystrau i symud yn y gweithlu’.
Ond lle mae lleisiau’r bobl ifanc yn cael eu clywed yn hyn i gyd? Mae llawer o sefydliadau yn awyddus i siarad gyda phobl ifanc, ond pryd oedd y tro diwethaf i chi lenwi arolwg a chanfod beth ddigwyddodd o ganlyniad i’r arolwg hwnnw? Ni allwn i enwi un ohonynt. Ac rwyf wedi llenwi llawer o arolygon.
Roeddwn wedi cael digon o ddarllen am dranc ein cenhedlaeth. Rwy’n caru ein cenhedlaeth, rwy’n credu bod gennym feddyliau gwych, syniadau rhagorol a chysyniadau deallus sy’n rhoi blaenoriaeth i’n dyngarwch cyffredin. Rwyf yn aelod o grŵp llywio Dyfodol Gwell Cymru ac roeddem yn awyddus i ddechrau trafod syniadau, y dyfodol, sut ddyfodol yr hoffem ei weld. Felly, gofynnais i bobl ifanc o bob rhan o Gymru gyfrannu eu syniadau am Gymru y dyfodol, ac rwyf wedi coladu eu syniadau isod.
Os cawn gyfle i freuddwydio am Gymru sy’n meddwl am y dyfodol, a bod pobl eisiau clywed beth sydd gennym i’w ddweud, sy’n rhoi’r gofod i ni wneud hynny. Camu yn ôl, agor y llawr, gwrando, yna gweithredu ar yr adborth. Cwblhau’r cylch.
‘Rwyf eisiau gweld Cymru lle mae’r diwylliant gwaith yn gydweithrediad rhwng pob partner’
‘Mae COVID-19 wedi dangos i ni fod diwylliant gwaith cydweithredol, mwy hyblyg yn bosibl. Er gwaethaf yr hyn a ddywedwyd wrth bobl anabl ers blynyddoedd, nid oes angen i’r broses o addasu i anghenion cyflogeion fod yn ‘feddwl heb orwelion’, ond cyn COVID-19, roedd unrhyw newid yn ymddangos yn rhy bell yn y dyfodol i’w ddychmygu. Rwyf wedi ymwneud ag ymgyrchoedd yr undebau llafur, ac mae unrhyw frwydr i sicrhau bod y diwylliant gwaith yn rhywbeth sy’n gweithio i bawb wedi bod yn frwydr, ac rydym wedi gweld pobl yn peryglu iechyd eu cyflogeion er mwyn creu elw.
‘Rwyf eisiau gweld Cymru lle mae gweithleoedd a’r diwylliant gwaith yn gynnyrch cydweithrediad rhwng pob partner. Lle gall cyflogeion, yn arbennig cyflogeion anabl, undebau llafur a chyflogwyr ddod at ei gilydd i greu rhywbeth sy’n gweithio i bawb, ac nid i rai pobl yn unig. Gallai diwylliant gwaith democrataidd, sy’n cael ei arwain gan anghenion y cyflogeion eu hunain, gael effaith aruthrol ar ddyfodol pobl ifanc yng Nghymru.’
- Megan, 22, Swyddog Polisi ac Ymchwil, Anabledd Cymru @meganniathomas
‘Mae’r deg wythnos diwethaf wedi helpu i ddatblygu cenhedlaeth gryfach fyth’
‘Mae pobl ifanc wedi helpu i siapio’r byd drwy osod materion allweddol ar lefel uwch ar agendâu gwleidyddol. Cenhedlaeth gyda diben: gwneud gwahaniaeth.
‘Er bod pawb wedi cael eu heffeithio gan y Coronafeirws, pobl ifanc yw un o’r grwpiau demograffig sydd wedi’u heffeithio fwyaf – yn nodweddiadol maent ganddynt incwm is a mannau byw llai. Er hynny, maent wedi parhau i ganolbwyntio ar wneud gwahaniaeth, o sefydlu mentrau cymunedol i wirfoddoli a mwy – mae pobl ifanc wedi gwneud bywyd yn haws i ni gyd.
‘Mae’r deg wythnos diwethaf wedi helpu i ddatblygu cenhedlaeth gryfach fyth a fydd yn canfod ffordd i oresgyn unrhyw adfyd y byddant yn ei wynebu. Mae hyn wedi pwysleisio pwysigrwydd cymdeithas decach lle mae gan bobl ifanc lais, heb iddynt orfod brwydro i gael eu clywed.
Os gall pobl ifanc barhau i wneud newid, hyd yn oed pan fydd y byd ‘ar gau’, pwy a ŵyr beth all ddigwydd pan fyddwn yn dychwelyd i ‘normal’.’
- Holly, 23, Swyddog Cysylltiadau Cyhoeddus a Chyfathrebu, Cymdeithas Tai Taf @hollymcanoy
‘Mae Covid yn rhoi cyfle i ni unioni’r cydbwysedd pŵer’
‘Er nad yw’n gynhwysfawr o bell ffordd, beth am alw hyn yn ‘glasnost’ ar gyfer y celfyddydau gwledig a’r byd artistig y tu hwnt i Lundain. Am ormod o amser, ystyriwyd mai canolbwynt y diwylliant celfyddydol yn y Deyrnas Unedig oedd Llundain, er gwaethaf y gwaith aruthrol sy’n deillio o Gymru a rhannau eraill o’r DU. Mae Covid yn cynnig cyfle hir-ddisgwyliedig i unioni’r cydbwysedd pŵer.
‘I ddechrau, mae angen treth cyfoeth ar y West End. Byddai treth o ddim ond dau y cant ar incwm tocynnau yn cynhyrchu tua 30 miliwn o bunnoedd. Byddai hyn yn cael ei roi i’r Cynghorau Celfyddydol ym mhob un o wledydd y DU, yn benodol ar gyfer gwaith y tu allan i’r brifddinas.
‘Gallai hyn ysgogi dadeni theatr a’r celfyddydau y tu hwnt i Lundain ar ôl i’r feirws ddiflannu. Mae lleoliadau yn Llundain yn llawer mwy gwydn na’u cyfoedion yng Nghymru – mae’n rhaid i ni sicrhau nad ydym yn cael ein hanghofio.’
- Ben, 22, darpar Gadeirydd y Blaid Werdd @bsmithgreens
‘Rwy’n ofni y bydd costau byw yn cynyddu’n aruthrol, ac ni all llawer o bobl ifanc fforddio hyn’
‘Fel llawer o bobl ifanc yn ystod y cyfnod digyffelyb hwn, rwyf wedi bod yn gweithio gartref ers canol mis Mawrth ac mae wedi bod yn fy nrysu. (Yn bennaf oherwydd problemau TG). Cyn y pandemig, roeddwn yn mynd i dderbyn dyrchafiad a chynnydd cyflog yr oeddwn ei angen yn fawr, sy’n arwain at y pwnc yr hoffwn ei drafod – cyflog.
‘Yn ystod egwyl paned yn gynharach yr wythnos hon, penderfynais edrych ar y newyddion diweddaraf am Covid-19 ar Twitter. Denodd y geiriau ‘cyflog byw gwirioneddol’ fy sylw. ‘Yr unig gyfradd cyflog sy’n seiliedig ar yr hyn sydd ei angen ar bobl i fyw arno,’ oedd y disgrifiad a welais, a oedd yn codi’r cwestiwn pam nad yw cyfraddau cyflog statudol yn seiliedig ar hyn hefyd.
‘Yn ail, pam ddylai cyflogwr allu talu’r Isafswm Cyflog Cenedlaethol yn unig pan fydd cyflogai’n 25 oed? Nid yw bywyd yn troi’n ddrutach yn awtomatig pan fyddwch yn cael eich pen-blwydd yn 25 oed, ond dyna mae’r cyfraddau cyflog statudol hyn yn ei awgrymu.
‘Fy mhrif bryder wrth symud tuag at y cyfnod ar ôl coronafeirws yw a fydd y materion a godwyd uchod fyth yn cael eu trafod. Rwy’n ofni y bydd cost byw yn cynyddu’n aruthrol ar ôl i ni ddychwelyd i normal, ac ni fydd llawer o bobl ifanc yn gallu fforddio hyn.’
- Sean, 24, Drafftiwr Costau dan Hyfforddiant, Compass Costs
‘Mae pobl ifanc cefn gwlad ymhlith y rhai sydd wedi’u heffeithio fwyaf gan yr argyfwng’
‘Gyda gliniadur yn fwy llaw, rwy’n dringo i’r man uchaf ar y fferm am y trydydd tro heddiw – yr unig le y gallaf sicrhau fy mod yn gallu lawrlwytho atodiadau neu lwytho fideos. Gyda chysylltiad 4G, rwy’n gwylio’r bar llwytho’n agosáu at y nod o 100% wrth i fy lwfans data ddiflannu. Er bod gennyf gontract misol gyda darparwr rhyngrwyd, nid wyf bob amser yn gallu cyflawni fy ymrwymiadau gwaith oherwydd y cysylltiad gwan sy’n aml yn diflannu’n ddirybudd yng nghanol galwad Zoom, gan adael y person ar yr ochr arall yn siarad mewn gwagle.
‘Nid yw fy mhrofiad i’n unigryw o bell ffordd. Canfu arolwg a gynhaliwyd gan y Prosiect Ieuenctid Gwledig (RYP) yn 2018 bod 94% o’r ymatebwyr ifanc o’r farn bod cysylltedd digidol yn hollbwysig ar gyfer eu dyfodol, ond er hynny, dim ond 13% oedd â mynediad at seilwaith cyflymder uchel.
‘Yna, bron dros nos, bu’n rhaid i bawb a allai wneud eu gwaith o adref droi byrddau cegin, gerddi neu welyau yn swyddfeydd newydd, dros dro. I lawer ohonom sydd â chysylltiadau araf â’r rhyngrwyd, mae hyn wedi bod yn heriol. I eraill, mae’n bygwth eu ffordd o fyw.
‘Ond nid dim ond ein bywydau gwaith sydd wedi symud ar-lein ers i’r mesurau cyfyngiadau symud ddod i rym. Mae ein bywydau cymdeithasol wedi hefyd. Rydym yn prynu llawer mwy o siopau ar y rhyngrwyd. Mae rhai o’n hapwyntiadau meddygol wedi dechrau cael eu cynnal drwy alwadau fideo ac mae rhagbrofion yr Eisteddfod hyd yn oed wedi’u cynnal drwy gyfryngau megis YouTube.
‘Canfu canfyddiadau cynnar arolwg parhaus RYP bod pobl ifanc wedi nodi bod cysylltedd digidol gwell yn flaenoriaeth yn dilyn yr argyfwng Covid-19. Wrth i fwy a mwy o’r gweithgareddau dyddiol sy’n dylanwadu ar ein llesiant ddod ar-lein, rydym mewn perygl o adael pobl ar ôl.
‘Wrth i’r wlad gyntaf yn y byd i ddeddfu Nodau Datblygu Cynaliadwy’r Cenhedloedd Unedig, byddai’n ddiofal i ni ganiatáu i rywbeth sy’n ymddangos fel elfen ganolog i lwyddiant economaidd, diwylliannol, cymdeithasol ac amgylcheddol barhau i fod y tu hwnt i gyrraedd ein cymunedau gwledig ni ein hunain. Byddai’r cysylltedd hwn hefyd yn ein galluogi i gyflawni cymaint mwy o’r amcanion yn Neddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol.
‘Mae pobl ifanc cefn gwlad yn wynebu sefyllfa o fod ymhlith y bobl sydd wedi’u heffeithio fwyaf gan yr argyfwng, ac mae’n rhaid rhoi mynediad iddynt at yr offer sydd ei angen arnynt i gymryd rhan yn y broses ailadeiladu. Wrth i ni geisio ‘ailgodi’n gryfach’, mae gennym gyfle i ddileu un o’r rhwystrau sy’n atal pobl ifanc rhag dewis ardaloedd gwledig fel lleoliadau i fyw eu bywydau.
‘Bydd buddsoddi mewn band eang gwledig cyflym yn gosod y llwybr ar gyfer creu cymunedau gwledig bywiog; i fusnesau gwledig gwydn sy’n gallu darparu cyfleoedd cynaliadwy a rhoi hwb i lesiant eu cymunedau a’u hamgylchedd lleol; ysgolion gwledig sy’n gallu cynnal cysylltiadau digidol gyda’u cyfoedion ar draws y byd, a meithrin pobl ifanc sy’n gyfoethog o ran diwylliant ac sy’n gyfrifol yn fyd-eang.
‘Er mwyn sicrhau bod Cymru yn ffynnu mewn byd ar ôl Covid, mae’n rhaid cynnwys cymunedau gwledig yn yr adferiad. Ac i gael eu cynnwys, mae’n rhaid iddynt fod wedi’u cysylltu.’
- Ffion Storer Jones, 26, Gweithiwr Llawrydd @ffion_storer
‘Mae’n amser i ni gydnabod gwerth addysg a sgiliau’
‘I mi, mae’r argyfwng Covid wedi ysgogi atgofion o gwymp ariannol 08/09. Roeddwn yn 15 neu’n 16 oed ac rwy’n cofio pobl yn colli eu swyddi ac yn ciwio y tu allan i Northern Rock, yn ceisio cael gafael ar eu harian. Rwy’n cofio pobl yn poeni am forgeisi, rhent a rhoi bwyd ar y bwrdd.
‘Rydym yn cerdded-gysgu at ddirwasgiad mwy, a llymach yn 2020.
‘Mae Sefydliad Resolution wedi edrych ar argyfwng 08/09 ac mae’r hyn y gallwn ei ddisgwyl gan Covid a’r canlyniadau yn frawychus. Gwyddom fod sgiliau addysg yn ysgogi cynhyrchiant a thwf a gwyddom, yn ogystal â Covid, y bydd awtomeiddio, deallusrwydd artiffisial a’r argyfwng hinsawdd yn cael effaith aruthrol ar ein heconomi.
‘Mae’n hen bryd i ni gydnabod gwerth addysg a sgiliau ac, mewn partneriaeth â phobl ifanc, trawsnewid ein system a sicrhau ei bod yn addas ar gyfer y dyfodol, ac yn gynhwysol a hygyrch.”
- Rob, 26, Swyddog Polisi yn Sector Addysg Uwch Cymru @RobSimkins1
Diolch i chi am ddarllen – os yw wedi tanio’ch dychymyg, neu syniad, neu os ydych yn awyddus i ysgrifennu eich blog eich hun, rhowch wybod i ni drwy anfon e-bost at dîm Polisi CGGC ar policy@wcva.cymru.