Dyma Shelley Elgin, Cyfarwyddwr Gwlad – Cymru y Gymdeithas MS i ddweud wrthym am effaith sglerosis ymledol ar y rheini sy’n byw gydag ef, a gwaith hanfodol y Gymdeithas MS yng Nghymru.
DIWRNOD MS Y BYD
Mae Diwrnod MS y Byd yn cael ei gynnal bob blwyddyn ar 30 Mai ac mae’n ddiwrnod pwysig o undod, cydweithrediad a gobaith byd-eang i bobl o bedwar ban byd sy’n byw â sglerosis ymledol (MS).
Mae Shelley Elgin yn egluro: ‘Fel Cyfarwyddwr MS Cymru, mae’n fraint i mi gael arwain tîm Cymdeithas MS Cymru a gyda’n gilydd, rydym yn falch iawn o gefnogi Diwrnod MS y Byd, sy’n helpu i godi ymwybyddiaeth o gyflwr nad ŵyr llawer o bobl ddigon amdano.’
BETH YW MS?
Yng Nghymru, amcangyfrifir fod mwy na 6,100 o bobl yn byw gydag MS ond mae llawer mwy yn cael eu heffeithio gan MS. Mae *sglerosis ymledol yn gyflwr sy’n effeithio ar yr ymennydd a llinyn y cefn. Mewn MS, mae’r haenen sy’n amddiffyn eich nerfau (myelin) wedi’i niweidio. Mae hyn yn achosi ystod o symptomau fel methu â gweld yn glir a phroblemau gyda’r ffordd rydyn ni’n meddwl ac yn teimlo. Gan fod y symptomau’n wahanol i bawb ac yn aml yn annelwig, mae cyfleoedd i godi ymwybyddiaeth o MS – fel ar Ddiwrnod MS y Byd – yn bwysig iawn.
Mae MS yn ddidrugaredd, yn boenus ac yn anablu a gall effeithio ar bob agwedd o fywyd rhywun. MS yw’r cyflwr niwrolegol mwyaf cyffredin ymhlith oedolion ifanc. Er bod y mwyafrif o bobl yn cael diagnosis yn eu 20au neu 30au, gall effeithio ar bobl o bob oed, ac o bob hil a rhyw. Unwaith rydych yn cael y diagnosis, bydd MS gyda chi gydol eich oes, ond gall triniaethau ac arbenigwyr helpu’r rheini sy’n byw ag MS i reoli’r cyflwr a’i symptomau.
Y GYMDEITHAS MS
Amcangyfrifir fod mwy na 150,000 o bobl yn y DU yn byw ag MS, ac oddeutu 135 o bobl yn cael diagnosis bob wythnos. Y Gymdeithas MS yw’r brif elusen yn y DU i bobl a effeithir gan MS. Rydym wedi bod ar flaen y gad o ran cefnogi, ymchwilio, ac ymgyrchu dros wella bywydau pobl ag MS ers 70 o flynyddoedd. Ni yw’r cyllidwr elusennol mwyaf yn y DU ar gyfer ymchwil ar MS, gan drawsnewid ein dealltwriaeth a’n triniaeth o’r cyflwr. Ein gweledigaeth yn y Gymdeithas MS yw creu byd sy’n rhydd rhag effeithiau MS a’n cenhadaeth yw trawsnewid bywydau a stopio MS.
CYMDEITHAS MS CYMRU
Mae Cymdeithas MS Cymru yn arwain y ffordd yng Nghymru, gyda thîm o staff a gwirfoddolwyr brwd yn cynnig gwasanaethau, cymorth, gweithgareddau codi arian ac ymgyrchoedd ar gyfer y gymuned MS ar hyd a lled Cymru.
Rydym yn gweithio’n agos gyda’r timau MS o fewn saith Bwrdd Iechyd Cymru i gefnogi pobl sy’n byw gydag MS a’r rheini a effeithir ganddo, ac rydym yn cynnal diwrnodau ar y cyd fel ‘Diwrnodau Diagnosis Newydd’ a diwrnodau ‘Byw’n Dda gydag MS’. Mae ein tîm MS Cymru hefyd yn cynnig gweithgareddau cymunedol, gan weithio mewn partneriaeth â mudiadau eraill fel Cyngor ar Bopeth.
Yng Nghymru, mae gennym 13 o grwpiau cymunedol lleol a redir gan wirfoddolwyr ymroddedig o bob rhanbarth, sy’n dod â phobl ynghyd yn rheolaidd er mwyn lleihau ynysigrwydd a chynnig cefnogaeth. Rydym yn cynnal digwyddiadau codi arian – fel sesiynau rhedeg, cerdded, beicio a weiren wib noddedig, – ac yn cynnig dosbarthiadau ymarfer corff arbenigol i bobl sy’n byw ag MS.
EIN GWAITH
Mae cadw’n heini yn bwysig iawn i reoli symptomau MS, felly mae gennym amrywiaeth o ddiwrnodau gweithgareddau blasu ar hyn o bryd, fel dringo dan do, syrffio hygyrch a llawer mwy. Mae gennym hefyd ystod o weithgareddau ar-lein i helpu gydag ynysigrwydd, iechyd a lles pobl.
Rydym hefyd yn sylweddoli bod angen cymorth ar ofalwyr di-dâl; mae pob un o’n gweithgareddau yn cefnogi’r rheini a effeithir gan MS yng Nghymru, ac mae gennym brosiectau penodol sy’n targedu gofalwyr di-dâl ac yn cynnig ‘seibiant’.
Mae ein gwaith ymgyrchu yn helpu i wella hawliau pobl ag MS a’u gofalwyr. Rydym yn gweithio gyda Chynghrair Niwrolegol Cymru, Cynghrair Cynhalwyr Cymru a Chynghrair Henoed Cymru i ymgyrchu dros fynediad at driniaethau a sicrhau bod pobl yn cael y gefnogaeth sydd ei hangen arnynt i fyw’n dda gyda gwasanaethau statudol, gan sicrhau bod Llywodraeth Cymru yn deall yr effaith hirdymor y mae MS yn ei chael ar unigolyn.
Mae cyd-gynhyrchu hefyd yn ganolog i’n gwaith. Mae pobl sy’n byw ag MS a’r rheini a effeithir gan MS yn arbenigwyr trwy brofiad, ac yn gwybod yn bersonol beth yw’r rhwystrau a’r problemau sy’n gorfod cael eu trechu a’u gwella. Maen nhw wedi dweud wrthym ni mai: ‘Mynediad at wasanaethau iechyd ag adnoddau priodol a diogelwch ariannol yw’r sylfeini i bobl ag MS fyw bywydau llawn ac annibynnol.’
CYMRYD RHAN
Rydym yn dibynnu ar ein gwirfoddolwyr ffantastig i gefnogi ein gweithgareddau ar gyfer y gymuned MS ar hyd a lled Cymru, felly os hoffech chi helpu, cysylltwch â ni. Mae gennym lawer o gyfleoedd i bobl ein cefnogi, boed hynny drwy *wirfoddoli gyda ni neu *godi arian i ni.
GWYBODAETH BELLACH
Gallwch ganfod mwy am ein gwaith yn Cymdeithas MS Cymru, neu drwy ein dilyn ar *Facebook, *X ac *Instagram.
Am ymholiadau mwy cyffredinol ynghylch gwaith y sector yn y maes iechyd a gofal cymdeithasol, anfonwch e-bost i iechydagofal@wcva.cymru.
*Saesneg yn unig