Menyw hŷn yn dal llaw dyn mewn gwely ysbyty

Cymdeithion gwirfoddol ym maes gofal diwedd oes

Cyhoeddwyd: 28/10/21 | Categorïau: Gwirfoddoli, Awdur: Fiona Liddell

Mae tri bwrdd iechyd wedi bod yn cynnal cynlluniau peilot cymdeithion gwirfoddol ac maent yn gobeithio eu sefydlu ar sail dymor hirach. Mae Fiona Liddell, Rheolwr Helpu Cymru, yn dathlu gwaddol dysgu.

Ni ddylai neb farw ar ei ben ei hun. Os yn y cartref neu yn yr ysbyty, gall cael cydymaith cefnogol wrth ochr y gwely wneud byd o wahaniaeth – presenoldeb o gysur ar gyfer cleifion a thawelu meddwl aelodau teulu absennol ac aelodau staff.

Lansiwyd adroddiad Helplu yn seiliedig ar y rhaglen beilot a gynhelir ar draws y Deyrnas Unedig (a gefnogir gan Marie Curie a Llywodraeth Cymru) y mis hwn. I ddechrau, datblygwyd cynlluniau gwirfoddolwyr diwedd oes gyda 7 Ymddiriedolaeth/Bwrdd Iechyd y GIG. Cynhaliwyd y broses werthuso gan Helplu yn seiliedig ar y data a gasglwyd a chyfweliadau â’r prosiectau.

Cafodd pandemig Covid-19 effaith anferthol ar bob un o’r prosiectau wrth i’r cyfnod clo ddod i rym wrth i’r prosiectau ddechrau. Roedd yn rhaid i bob un addasu’n gyflym i amgylchiadau heriol a oedd yn newid yn gyflym. O ganlyniad, mae’r dysgu cyffredin mwyaf sylweddol yn ymwneud â phrofiad ansoddol sefydlu’r prosiectau; nid oedd modd casglu llawer o ddata o fewn y terfyn amser ac, mewn nifer o achosion, mae wedi cymryd tan nawr i ystyried y posibilrwydd o wahodd gwirfoddolwyr yn ôl i’r wardiau.

Mae’r adroddiad yn rhoi ‘ciplun o sut y cafodd gwasanaethau eu sefydlu a’u cynyddu, yr heriau a wynebwyd, a’r gwersi a ddysgwyd’.

Soniodd cydweithwyr o’r cynlluniau peilot a gynhaliwyd yng Nghymru am eu profiadau yn ystod cyfarfod Helplu Cymru a gynhaliwyd yn ddiweddar. Gallwch chi ddarllen eu straeon isod ynghyd â’r adroddiadau Helplu perthnasol a luniwyd yn seiliedig ar y prosiectau.

Mae’r prosiectau hyn yn gadael gwaddol dysgu cyfoethog a gobeithiwn y bydd hyn yn ysbrydoli ac yn galluogi pobl eraill i ddatblygu gwirfoddoli ym maes gofal diwedd oes yn eu mudiadau a’u cyd-destun eu hunain. Os yw hyn o ddiddordeb, byddwn wrth fy modd yn clywed gennych chi. (Anfonwch neges e-bost ataf yn fliddell@wcva.cymru).

‘Mae’n amlwg iawn bod y gwaith y maent yn ei gyflawni fel cymdeithion gwirfoddol diwedd oes yn emosiynol ac, ar adegau, yn heriol’, meddai Gino Parisi, Rheolwr Gofal sy’n Canolbwyntio ar Unigolion ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan, ‘Mae’n glir eu bod yn gwneud cyfraniad gwerthfawr at y gofal rydyn ni’n ei gynnig i’n cleifion ac i’n wardiau. Yn ystod y sesiynau cymorth cwnsela, mae gwirfoddolwyr wedi dweud bod staff y wardiau yn ddiolchgar iawn am y cymorth y maent yn ei gynnig’.

Trwy ei ymgyrch Yn Ôl i Iechyd, mae Helplu yn ymrwymo i gefnogi Byrddau Iechyd a mudiadau eraill trwy gymorth pwrpasol  o ran datblygu a gwerthuso rolau gwirfoddoli effaith uchel. Pe bai’r gwasanaeth hwn o fudd i chi, ewch i’r wefan a chysylltwch â ni.

Mae Helplu Cymru yn gweithio gyda Chefnogi Trydydd Sector Cymru (CGGC a 19 o Gynghorau Gwirfoddol Sirol), Llywodraeth Cymru, a phartneriaid eraill i ddatblygu potensial gwirfoddoli o ran cefnogi gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru.

Ewch i dudalen we Helplu Cymru, neu cofrestrwch yma i dderbyn diweddariadau drwy e-bost (dewiswch yr opsiwn ‘Gwirfoddoli Iechyd a Gofal’).