Michelle Powell, Cyfarwyddwr ACE – Gweithredu yng Nghaerau a Threlái, yn siarad yn lansiad fersiwn newydd y Cod Ymarfer ar gyfer Ariannu’r Trydydd Sector yn eu swyddfeydd.

Cyllid Teg i fudiadau gwirfoddol – beth yn gwmws sydd ei angen arnom?

Cyhoeddwyd: 07/08/25 | Categorïau: Cyllid, Awdur: Michelle Powell

Mae Michelle Powell, Cyfarwyddwr ACE – Gweithredu yng Nghaerau a Threlái, yn rhannu myfyrdodau o lansiad y fersiwn newydd o’r Cod Ymarfer ar gyfer Ariannu’r Trydydd Sector.

Ar 15 Ebrill 2025, Lansiodd Llywodraeth Cymru eu diweddariad o’r Cod Ymarfer ar gyfer Ariannu’r Trydydd Sector yma yn ACE – Gweithredu yng Nghaerau a Threlái. Roeddem yn falch iawn o gynnal y digwyddiad, ac wrth baratoi ar ei gyfer, cefais gyfle i fyfyrio ar beth fydd y cod hwn yn ei olygu i ni yn ACE ac yn wir i’r holl sector gwirfoddol. Beth yw’r heriau? Beth ydym ni ei angen ohono’n ymarferol?

Mae proses ddatblygu’r cod wedi bod yn un hirfaith gyda mewnbwn gwerthfawr gan amrediad eang o bobl. Gallwch ddarllen mwy am hyn yma.

CYLLIDWR A DERBYNNYDD?

Mae cydberthnasau cyllido da yn ymwneud â mwy na darparwr a derbynnydd yn unig, maen nhw’n wir bartneriaeth gydag ymddiriedaeth a chydberthnasau rhyngbersonol cryf. Maen nhw’n galluogi mudiadau i dyfu, dysgu o’i gilydd, rhannu arferion a chael cyd-ddealltwriaeth ddofn o bob cymuned y maen nhw’n gweithio ochr yn ochr ag ef neu’n darparu ar ei gyfer.

Wedi dweud hynny, gall ein ffordd ni o weithio gael ei hystyried yn wahanol iawn, yn enwedig gan ein rhoddwyr preifat, neu gyrff cyhoeddus, ac rydym yn deall hynny. Mae gan fudiadau gwirfoddol rinweddau unigryw a dulliau gweithredu sydd wedi hen ennill eu plwyf dros flynyddoedd maith eu gwaith.

Rydym ni’n credu ein bod yn arbenigwyr yn ein meysydd ac rydym ni, gan fwyaf, yn gwybod beth sy’n gweithio’n dda yn ein cymunedau. Nid ydym yn siŵr a yw hyn bob amser yn cael ei ddeall gan gyllidwyr, yn enwedig pan fydd angen dilyn meini prawf penodol a chyflawni set o ganlyniadau.

Trwy sgyrsiau cynnar a pharhaus, sy’n agored ac yn onest, gofynnwn i gyllidwyr a phartneriaid roi’r cyfle i ni wneud ‘ein peth ni’, i ymddiried ynom ni a’n dulliau gweithredu a’n gallu i gyflawni prosiect llwyddiannus. Ynghyd â hyn, gofynnwn eu bod yn cynnwys hyblygrwydd fel y gallwn addasu yn ôl yr angen i gyflawni’r canlyniadau gorau posibl i’n defnyddwyr gwasanaethau.

AMSER A GRADDFA

Cyllid yn y tymor byr, y tymor canolig a’r hirdymor. Bet mae hyn yn ei olygu i fi, i chi, i bobl eraill? Wel fe allent, ac efallai eu bod, yn golygu gwahanol bethau i wahanol sectorau. Yn ACE, rydym wastad yn symud rhwng y tri chyfnod am fod yn rhaid cael cymysgedd amrywiol o gyllid i gadw’n pen uwchlaw’r dŵr.

Rydym bob amser yn ceisio cadw cysondeb i staff a rolau. Mae gweithio ochr yn ochr â’r gymuned yn waith jyglo cyson, ac yn amlach na heb, mae’n golygu dod o hyd i ddatrysiadau tameidiog tan fydd mwy o gyllid a chyllid mwy hirdymor yn dod i’r golwg.

Ond yr hyn sy’n anodd i ni’n aml yw’r awydd cyson i chwilio rhywbeth newydd, pan mai mwy o’r un peth sydd ei eisiau/angen ar ein cymunedau. Trwy ganlyniadau a gwerthuso effeithiol, dylai’r disgwyliadau o ran cyflawni ac effaith fod yn realistig yn unol â’r gyllideb sydd ar gael, gan sicrhau tegwch yn yr hyn sy’n cael ei ofyn.

ADENNILL COSTAU LLAWN

Er mwyn i’r sector fod yn gynaliadwy ac yn effeithiol, mae angen i fudiadau gael adnoddau digonol ar gyfer swyddogaethau a rolau craidd. O’n profiad ni, mae cyllidwyr yn awyddus i gefnogi costau staffio a chyflawni prosiect, ond nid oes ganddynt yr hyblygrwydd bob amser i gyfrannu at gostau’r timau Cyllid neu Weinyddiaeth sydd eu hangen ochr yn ochr â’r gwaith cyflenwi i sicrhau cydymffurfiaeth a rheolaeth ariannol gadarn. Rhaid cael dulliau cyllido priodol sy’n ystyried hyn a mwy o sefydlogrwydd fel cyllid mwy hirdymor fel y cyfeiriwyd ato ynghynt.

Gyda chyllid yn dod yn fwyfwy cyfyngedig, ac yn fwy cystadleuol, rydym ni’n darganfod yn aml ein bod yn gosod prisiau rhy isel. Gall hyn fod oherwydd ofn/pryder y byddwn yn prisio ein hunain allan o fod yn llwyddiannus os byddwn yn prisio’n gystadleuol neu hyn yn oed yn adennill prisiau llawn, ac mae hynny’n wir o ran cyllid neu gontractau. Efallai y cawn ni brosiect da, ond heb sefydlogrwydd, mae perygl o niweidio’r mudiad yn yr hirdymor.

Nid yw’r ffaith mai ni yw’r trydydd sector yn golygu mai ni yw’r sector rhad!

RHAGOR AR HYN

Egwyddorion a sefydlwyd ar gyfer cyllido teg a chyson yn y sector gwirfoddol