menyw ar laptop yn yfed coffi

Cyllid coronafeirws: pa gronfa ddylwn ni wneud cais amdani?

Cyhoeddwyd: 24/04/20 | Categorïau: Cyllid, Awdur: Alison Pritchard

Mae Alison Pritchard, Rheolwr Cyllido Cynaliadwy CGGC, yn annog mudiadau gwirfoddol i feddwl yn strategol ynghylch pa gronfa argyfwng COVID-19 sy’n fwy priodol ar eu cyfer.

Ar Fawrth 30, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru becyn cymorth gwerth £500m i fusnesau ac elusennau. Mae’r pecyn wedi’i gynllunio i gynorthwyo busnesau ac elusennau sydd wedi dioddef colled eithafol mewn incwm masnachu o ganlyniad i’r pandemig coronafeirws cyfredol.

Daeth y cyhoeddiad hwn wedi i Lywodraeth Cymru gyhoeddi eisoes y bydd £24m o gyllid yn cael ei roi’n benodol i’r sector gwirfoddol. Bu CGGC yn gweithio ar y cyd â Llywodraeth Cymru, y Sefydliad Cymunedol yng Nghymru, Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol a phartneriaid eraill i sicrhau y bydd y pecyn cyllid fydd ar gael yn gwneud mwy o wahaniaeth i fudiadau ar draws sbectrwm y sector gwirfoddol yng Nghymru.

Ond beth a olyga hyn, o ran ymarferoldeb, i elusennau, a phwy ddylai ymgeisio am beth?

Meddwl yn Strategol

Golyga’r cyllid hwn fod sawl opsiwn bellach ar gael i fudiadau sy’n chwilio am gefnogaeth ariannol i’w cynorthwyo dros y misoedd nesaf. Fel gyda phob penderfyniad cyllido/codi arian, fe’ch anogwn i feddwl yn strategol er mwyn gwneud y gorau o’r cyllid hwn. Peidiwch ag ymgeisio am yr un sy’n ymddangos fel yr hawsaf i fynd amdano. Ystyriwch y canlynol yn ofalus:

  • Faint o arian wrth gefn sydd gennych ac a yw hyn yn gostwng y swm o gyllid sydd angen i chi ymgeisio amdano. Mae Cronfa Gwydnwch y Trydydd Sector yn disgwyl bod mudiadau’n gwneud defnydd priodol o’u harian wrth gefn cyn ymgeisio i’r gronfa. Dyma’r union fath o sefyllfa y cedwir arian wrth gefn ar ei chyfer; dyma’r ‘diwrnod glawog’.
  • Pa gronfa fyddai fwyaf buddiol i chi; edrychwch ar y canllawiau i’r ddwy gronfa ac ystyriwch pa un fyddai’n rhoi’r gefnogaeth ariannol orau i chi.
  • Eich ffynonellau incwm; ai mudiad codi arian neu fudiad masnachol ydych chi yn bennaf?
  • Pa un ai ydy’r gweithgaredd rydych chi’n gobeithio’i chyllido yn newydd, ac yn ymateb uniongyrchol i argyfwng Covid-19, neu ydych chi am barhau i ddarparu gwasanaeth sydd eisoes yn bodoli?
  • Pa gyfnod o amser ydych chi’n gobeithio’i gyllido; a fyddai cefnogaeth gyllido ychwanegol o fwy o ddefnydd nawr neu a fyddai’n well yn y dyfodol pan fyddwch yn ceisio ail-sefydlu gwasanaethau a gweithgareddau?
  • Pa gefnogaeth a gynigir gan eich cyllidwyr presennol. A oes ganddyn nhw gronfa ymateb Covid-19 ddynodedig ac a ydyw’n benodol ar gyfer deiliaid grant presennol? Gallwch wirio ymatebion rhai o brif gyllidwyr Cymru yma. Cysylltwch yn uniongyrchol â’ch cyllidwyr (awgrymwn eich bod yn gwneud trwy e-bost) i drafod sut y gallant fod o gymorth i chi.
  • A ydych wedi gwneud defnydd o gynlluniau cymorth eraill y Llywodraeth lle bo’n bosibl? A oes modd i chi roi unrhyw aelodau o staff ar seibiant?

Unwaith y byddwch wedi sefydlu’ch blaenoriaethau cyllido, sicrhewch eich bod yn darllen trwy’r wybodaeth a’r canllawiau ymgeisio/cwestiynau cyffredin ar gyfer pob cronfa er mwyn darganfod pa un sy’n diwallu’ch angenion a’ch amgylchiadau chi orau. Isod gweler rhestr o’r prif gynlluniau wedi’u cyllido’n gyhoeddus sydd ar gael i fudiadau nid-er-elw yng Nghymru:

Cronfa Argyfwng y Gwasanaethau Gwirfoddol (CGGC) – i fudiadau o unrhyw faint

Nod y gronfa hon yw cefnogi mudiadau nid-er-enw (gan gynnwys grwpiau anghorfforedig sefydledig) yng Nghymru i gynnal neu gynyddu gwasanaethau gwirfoddol i unigolion a chymunedau agored i niwed a effeithiwyd gan y pandemig coronafeirws (Covid-19).

Bydd grantiau o rhwng £10,000 a £100,000 yn cael eu dynodi ar gyfer refeniw neu wariant cyfalaf llai (gan gynnwys cyfarpar diogelu personol – PPE).

Rhaid i geisiadau gael eu gwneud trwy borth MAP CGGC. Caiff penderfyniadau eu gwneud yn barhaus gan banel grant.

Ceir mwy o fanylion, arweiniad a chwestiynau cyffredin ar wefan CGGC:  https://wcva.cymru/cy/cyllid/cynllun-grant-gwirfoddoli-cymru 

Nid oes trothwy incwm yn gysylltiedig â’r grant hwn.

Cronfa Cadernid Economaidd (Llywodraeth Cymru) – ar gyfer mudiadau o feintiau gwahanol y daw eu prif incwm o fasnachu

Prif nod y gronfa yw cefnogi mudiadau nad ydynt yn elwa o’r cynlluniau cefnogi a gyhoeddwyd eisoes gan Lywodraeth y DU, gan gynnwys y Cynllun Cadw Swyddi a’r Cynllun Cymorth Incwm i’r Hunangyflogedig, a fydd yn sicrhau 80% o gyflog ac incwm pobl.

Dylai elusennau a mudiadau nid-er-elw y daw eu prif ffynonellau incwm o fasnachu (gan gynnwys gwaith wedi’i gomisiynu, tendrau a chytundebau) ac nad oes modd iddynt, er enghraifft, roi gweithwyr ar seibiant gan eu bod yn parhau i gynnig gwasanaethau, wneud cais am grant o dan y cynllun hwn.

Bydd y gronfa hon yn darparu:

  • Grantiau o £10,000 i feicrofudiadau sy’n cyflogi hyd at naw o bobl.
  • Grantiau o hyd at £100,000 i fudiadau bach a chanolig sy’n cyflogi rhwng 10 a 249 o gyflogwyr.
  • Cefnogaeth i fudiadau mwy o faint yng Nghymru, sydd o’r pwys cymdeithasol neu economaidd mwyaf i Gymru.

Bydd meini prawf cymhwysedd llawn yn ogystal â manylion ar sut i ymgeisio ar gyfer y Gronfa Cadernid Economaidd yn cael eu rhannu gan Busnes Cymru cyn gynted ag y daw mwy o wybodaeth – https://businesswales.gov.wales/cy/cymorth-ariannol-grantiau

Cronfa Gwydnwch Trydydd Sector (CGGC) – ar gyfer mudiadau o amrywiol feintiau y daw y rhan fwyaf o’u hincwm o godi arian.

Mae’r gronfa hon wedi’i chynllunio er mwyn cefnogi mudiadau’r sector gwirfoddol sydd angen cefnogaeth ariannol i oroesi’r argyfwng presennol yn bennaf oherwydd gostyngiad digynsail yn eu hincwm o godi arian a rhoddion.

Gall mudiadau ymgeisio am hyd at £70,000. Bydd y gefnogaeth a gynigir yn gymysgedd o grant a benthyciad: 75% yn grant a 25% yn fenthyciad (yn ddi-log ac yn anaddaladwy am 12 mis).

Mae Benthyciad Pontio Cyflogau ar Seibiant ychwanegol hefyd ar gael; hyd at £25,000 yn ychwanegol at y £75,000 gan Gronfa Gwydnwch y Trydydd Sector. Bydd angen i fudiad ad-dalu 100% o’r cyllid hwn o dderbyn taliad gan y Cynllun Cadw Swyddi yn ystod cyfnod y Coronofeirws a’i fwriad yw cefnogi llif arian, yn hytrach na disodli cynllun y DU. Mae’r Benthyciad Pontio Cyflogau ar Seibiant hefyd ar gael i fudiadau masnachol.

Rhaid i geisiadau gael eu gwneud trwy borth MAP CGGC. Caiff penderfyniadau eu gwneud yn barhaus gan banel grant.

Er mwyn cwrdd â’r galw am daliadau ar frys, caiff y £5m cyntaf ei ddosrannu ar sail ‘cyntaf i’r felin’. Pe ceir gormod o geisiadau i’r gronfa, bydd blaenoriaeth yn cael ei roi i ymgeiswyr o ardaloedd o Gymru a rhannau o’r sector a dan-gynrychiolwyd yn y gyfran gyntaf.

Nid oes trothwy incwm yn gysylltiedig â’r cynllun grant neu fenthyciad hwn.

Cronfa Gwydnwch Coronafeirws (Sefydliad Cymunedol yng Nghymru) – i fudiadau a grwpiau cymunedol bach  

Cafodd y gronfa hon ei sefydlu i gynorthwyo grwpiau a mudiadau a effeithiwyd arnynt gan bandemig y coronafeirws sy’n addasu eu gwasanaethau a’u cefnogaeth i unigolion a theuluoedd, naill ai yn unigol neu ar y cyd.

• Mae grantiau o rhwng £500 a £2,000 ar gael i grwpiau ag incwm blynyddol o hyd at £200,000.

• Mae grantiau o hyd at £5,000 ar gael i grwpiau ag incwm blynyddol rhwng £201,000 a £500,000.

Mae elusennau, grwpiau cymunedol sefydledig, mentrau cymdeithasol a chynghorau cymuned/tref sy’n cynnal gweithgareddau i gefnogi’r gymuned trwy effaith y pandemig coronafeirws yng Nghymru yn gymwys i ymgeisio.

Gellir dod o hyd i’r meini prawf ymgeisio a’r ffurflen gais ar wefan y Sefydliad Cymunedol yng Nghymru.

Arian i Bawb y Loteri Genedlaethol (Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol) – i fudiadau o unrhyw faint                                  

Mae Arian i Bawb yn ffordd gyflym o ymgeisio am symiau llai o gyllid rhwng £300 a £10,000. Tan fis Medi 2020, bydd Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol yn rhoi blaenoriaeth i geisiadau yn ymwneud â Covid-19.

Golyga hyn y byddwn yn blaenoriaethu ceisiadau gan:

  • Fudiadau sy’n cefnogi pobl sydd mewn perygl mawr o Covid-19.
  • Mudiadau sy’n cefnogi’r cymunedau mwyaf tebygol o wynebu cynnydd mewn galw a heriau o ganlyniad uniongyrchol i fesurau i rwystro canlyniad Covid-19, fel amlygwyd trwy ein hymgysylltu â rhanddeiliaid a’n dadansoddiadau allanol.
  • Mudiadau â photensial uchel o gefnogi cymunedau gydag effaith uniongyrchol ac anuniongyrchol Covid-19.

Derbynnir ceisiadau gan bob mudiad nid-er-elw, gan gynnwys ysgolion a chynghorau tref/sirol.

Gellir cyflwyno ceisiadau ar unrhyw adeg trwy wefannau arferol Arian i Bawb.

Pawb a’i Le (Canolig) (Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol)

Bydd Pawb a’i Le (Canolig) yn cyllido prosiectau cymunedol cyfalaf a refiniw o £10,001 i £100,000. 

Bydd yr holl benderfyniadau cyllido a wneir gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol hyd at fis Medi 2020 yn rhoi blaenoriaeth i ymdrin â’r argyfwng presennol. Golyga hyn y byddwn yn blaenoriaethu ceisiadau gan:

  • Fudiadau sy’n cefnogi pobl sydd mewn perygl mawr o Covid-19.
  • Mudiadau sy’n cefnogi’r cymunedau mwyaf tebygol o wynebu cynnydd mewn galw a heriau o ganlyniad uniongyrchol i fesurau i rwystro canlyniad Covid-19.
  • Mudiadau â photensial uchel o gefnogi cymunedau gydag effaith uniongyrchol ac anuniongyrchol Covid-19.

Bydd Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol hefyd yn ystyried sut y gallant gefnogi mudiadau o’r fath i ymateb i unrhyw drafferthion ariannol difrifol y gallent wynebu o ganlyniad i’r argyfwng.

Gellir cyflwyno ceisiadau ar unrhyw adeg trwy wefannau arferol Pawb a’i Le.

Pawb a’i Le (Canolig) (Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol) – i fudiadau o unrhyw faint

Bydd Pawb a’i Le (Mawr) yn cyllido prosiectau cymunedol cyfalaf a refiniw o £100,001 i £500,000. 

Bydd yr holl benderfyniadau cyllido a wneir gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol hyd at fis Medi 2020 yn rhoi blaenoriaeth i ymdrin â’r argyfwng presennol. Golyga hyn y byddwn yn blaenoriaethu ceisiadau gan:

  • Fudiadau sy’n cefnogi pobl sydd mewn perygl mawr o Covid-19.
  • Mudiadau sy’n cefnogi’r cymunedau mwyaf tebygol o wynebu cynnydd mewn galw a heriau o ganlyniad uniongyrchol i fesurau i rwystro canlyniad Covid-19.
  • Mudiadau â photensial uchel o gefnogi cymunedau gydag effaith uniongyrchol ac anuniongyrchol Covid-19.

Bydd Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol hefyd yn ystyried sut y gallant gefnogi mudiadau o’r fath i ymateb i unrhyw drafferthion ariannol difrifol y gallent wynebu o ganlyniad i’r argyfwng.

Gellir cyflwyno ceisiadau ar unrhyw adeg trwy wefannau arferol Pawb a’i Le. 

Amrywiadau Grant (Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol) – ar gyfer deiliaid presennol Grant Cronfa Gymunedol y Loteri Fawr sydd â grant o fwy na £10,000

Gall deiliaid grantiau presennol ymgeisio am gyllid ychwanegol i dalu costau tan 30 Medi 2020. Yn y rhan fwyaf o achosion, ni ddylai swm atodol fod yn fwy na 10% o’r grant gwreiddiol.

Bydd symiau atodol yn talu am:

  • Gweithgareddau wedi’u hanelu’n benodol at gefnogi cymunedau trwy’r argyfwng hwn.
  • Cynorthwyo mudiadau i oresgyn unrhyw drafferthion ariannol a achoswyd gan Covid-19

Fel gyda’r cronfeydd a enwir uchod, rhoddir blaenoriaeth i fudiadau sy’n mynd i’r afael â’r argyfwng Covid-19.

Ffynonellau eraill

Mae dros ddwsin o gronfeydd wedi’u rhyddhau er mwyn cefnogi mudiadau yng Nghymru trwy’r cyfnod anodd hwn. Fe’u rhestrir ar dudalen Coronafeirws ddynodedig ar Cyllido Cymru.