Cafodd un o wirfoddolwyr CGGC, Emma Morgan, sgwrs rithwir â Louise Tambini am wirfoddoli amgylcheddol a llesiant. Darllenwch yr holl gyfweliad i gael gwybodaeth am sut gall gwirfoddoli fod yn fuddiol i’ch llesiant a gweld neges arbennig o ddiolch i wirfoddolwyr Cadwch Gymru’n Daclus.
Dywedwch ychydig am eich hun a Cadwch Gymru’n Daclus
Fi yw’r Dirprwy Brif Weithredwr, felly rwy’n ymwneud â llawer o wahanol bethau. Rwy’n gyfrifol yn bennaf am oruchwylio gweithrediadau – felly’r holl waith sy’n ymwneud â’r gymuned.
Mae prosiectau Cadwch Gymru’n Daclus yn amrywio o lefel sefydliadol, fel ein rhaglen eco-sgolion hynod lwyddiannus i’n holl waith ymgysylltu yn y gymuned, lle rydyn ni’n helpu gwirfoddolwyr ar lawr gwlad i wella’u hardaloedd.
Sut gall gwirfoddoli amgylcheddol fod yn fuddiol i lesiant?
Mae’r adborth rydyn ni’n ei gael gan ein gwirfoddolwyr yn amrywiol iawn. Mae pawb yn gwirfoddoli am wahanol resymau ac mae gennym ni lawer o straeon gan wirfoddolwyr sy’n dweud wrthym eu bod yn llawer mwy iach, yn fwy heini ac mae problemau fel cefnau tost wedi gwella yn sgil llusgo trolïau allan o afonydd!
Ond rwy’n credu mai’r peth fwyfwy pwysig yw y gall yr ymdeimlad o gymuned a ddaw yn sgil gwirfoddoli, yn ogystal â bod allan ym myd natur, wella llesiant meddyliol. Mae astudiaethau di-ri sy’n siarad am fod allan ym myd natur a sut gall hyn helpu iechyd corfforol ac iechyd meddwl. Yn wir, darllenais yn ddiweddar iawn fod swm enfawr o dystiolaeth sy’n dangos y gall dim ond 120 munud yr wythnos allan ym myd natur fod yn ffactor allweddol i gynnal iechyd meddwl cadarnhaol. Felly, mae rhestr enfawr o fuddion, ond mae pawb yn sicr bod treulio amser y tu allan ym myd natur yn fuddiol ac yn bendant yn helpu gydag ymwybyddiaeth ofalgar yn yr hirdymor.
Sut mae’r ymgysylltiad cadarnhaol hwn â byd natur yn fuddiol i Gymru a’r amgylchedd hefyd?
Prif ffocws gwirfoddoli amgylcheddol yw gwella’r amgylchedd. Er enghraifft, mae codi sbwriel yn cael gwared â gwastraff sy’n gallu llesteirio cynefinoedd a niweidio bywyd gwyllt, felly mae hynny’n gadarnhaol ar gyfer yr amgylchedd. Mae ochr arall ein gwaith yn ymwneud yn fwy â chadwraeth, fel plannu rhywogaethau a choed brodorol. Mae ein prosiect â gerddi natur yn helpu i gael gwared â rhywogaethau goresgynnol, ac yn lle hynny, yn cyflwyno rhai brodorol sy’n gwella bioamrywiaeth ardal.
Fel arfer, mae ffocws ein gweithwyr ar yr amgylchedd i ddechrau, ond mae’r gwaith sy’n deillio o hyn yn ehangu’r cwmpas yn fawr i’r unigolyn a’r gymuned ehangach sy’n cael eu heffeithio gan brosiectau gwirfoddoli. Yn ei dro, mae cysylltu cymunedau â’u mannau gwyrdd eu hunain yn cynorthwyo’r amgylchedd.
A allwch chi feddwl am unrhyw brosiectau penodol sydd wedi cael effaith gadarnhaol iawn ar bobl neu’r amgylchedd?
O, lle i ddechrau? Rwyf wedi bod gyda Cadwch Gymru’n Daclus am dros 20 mlynedd, felly rwyf wedi gweld llawer o brosiectau. Mae cannoedd o enghreifftiau, ond i mi, rydych chi’n gwybod bod prosiect yn cael y budd mwyaf pan rydych chi’n ei weld yn trawsnewid bywyd rhywun.
Pobl sydd ddim yn mynd allan, neu sy’n newydd i ardal a ddim yn adnabod unrhyw un. Maen nhw’n ymuno â grŵp gwirfoddoli lleol. Chwe mis yn ddiweddarach, mae ganddyn nhw rwydwaith o ffrindiau newydd, cymdogion ac mae’r hunanynysu wedi lleihau, ac yn ogystal â hynny, maen nhw’n gwneud llwyth o weithgareddau amgylcheddol gwych sydd o fudd i’r amgylchedd lleol.
Mae prosiect cyfredol, ffantastig, o’r enw Cyd-Dyfu, yn dod ag ysgolion cynradd lleol ynghyd gyda mwy na 55 o letyau gofal. Mae’r prosiectau hyn yn creu mannau tyfu llawn mewn rhyw fath o gyfleuster gofal, lleol. Mae’r gwaith rhwng cenedlaethau yn anhygoel; wrth i drigolion mewn oed ryngweithio â phlant ysgol gynradd, mae brwdfrydedd y plant mor heintus fel ei fod yn dylanwadu ar y genhedlaeth hŷn. Mae’r bobl hŷn mor gyffrous am fynd allan a gwneud y sesiynau hyn, sy’n helpu’r plant i brofi eu doethineb.
A allwch chi ddisgrifio gwirfoddoli gyda Cadwch Gymru’n Daclus mewn dim ond tri gair?
Byddwn i’n dweud ei fod yn werthfawr, yn gynhwysol ac yn hwyl. Os nad yw’n hwyl, ni fydd pobl yn ei wneud, mae’n rhaid iddo fod yn hwyl ac mae’n llawer o hwyl.
Pe bai chi’n edrych ar y rhan fwyaf o’r lluniau sydd ar ein gwefan ac ar ein ffrydiau cyfryngau cymdeithasol, byddech chi’n gweld pobl yn gwenu gan fwyaf, a gallent fod yn gwenu pan oedd hi’n arllwys y glaw yno. Rydych chi’n gwybod, boed glaw neu hindda, ei fod yn mynd i fod yn hwyl a’i fod yn werth chweil.
Mae’n Wythnos Gwirfoddolwyr, a thema eleni yw dweud diolch i wirfoddolwyr. Oes rhywbeth yr hoffech chi ei ddweud wrth eich gwirfoddolwyr chi?
Mae gwirfoddolwyr yn garfan wych, wych o bobl …mae gwirfoddolwyr wedi amlygu ysbryd cymunedol yn ystod y cyfyngiadau symud, mae pob math o grwpiau anhygoel wedi ymddangos, ac rwy’n gobeithio…bydd yr ymdeimlad hwnnw o gymuned yn parhau.
Rydyn ni eisiau diolch i bawb sy’n gwirfoddoli gyda Cadwch Gymru’n Daclus. Mae’r gwirfoddolwyr allan, boed glaw neu hindda, yn helpu i drawsnewid eu cymuned leol yn gymdeithasol, yn amgylcheddol ac yn economaidd drwy wario’u harian yn lleol. Hoffwn fynegi fy ngwerthfawrogiad enfawr a diolch iddynt am eu gwaith a’u hannog i barhau.
Sut olwg sydd ar ddyfodol gwirfoddoli amgylcheddol yn Cadwch Gymru’n Daclus?
Rydyn ni’n gyffrous iawn nawr, oherwydd rydyn ni newydd gael grant gan Lywodraeth Cymru i greu lleoedd lleol newydd ar gyfer byd natur. Mae wedi’i anelu at leoedd nad ydynt â mynediad at lawer o fyd natur, ardaloedd mwy trefol heb lawer o fyd natur, fel iardiau ysgol heb unrhyw wyrddni.
Rydyn ni’n creu 800 o erddi natur. Mae cymysgedd go iawn, gerddi gloynod byw, gerddi ffrwythau, gerddi bywyd gwyllt a chyn y cyfyngiadau symud, felly ar ddiwedd y flwyddyn ariannol, gwnaethom ni lansio’r rhaglen, ac roedd 200 o geisiadau wedi’u cytuno yn ystod y panel gyntaf, sy’n enfawr. Mae’n dangos cymaint o frwdfrydedd sydd dros greu lleoedd natur lleol.
Mae hwn yn gyfle gwych i grwpiau cymunedol a mudiadau gymryd rhan oherwydd rydyn ni’n parhau i dderbyn ceisiadau.
Yn anffodus, nid ydym ni wedi gallu dechrau’r prosiect eto oherwydd Covid-19, ond rydyn ni’n hynod gyffrous am yr adeg y byddwn ni’n gallu dechrau oherwydd, os yw’r pandemig wedi dangos unrhyw beth i ni, pwysigrwydd cael mynediad at fyd natur yw hynny, yn enwedig i bobl heb natur yn eu cartrefi eu hunain. Pobl sy’n byw mewn fflatiau, pobl sy’n byw mewn ardaloedd trefol, prysur. Bydd cael y mynediad hwnnw at fyd natur, hyd yn oed os mai dim ond ardal fechan yw honno, yn elfen hanfodol mewn helpu pobl i adfer ar ôl y pandemig rydyn ni’n ei wynebu ar hyn o bryd.
Rwy’n gobeithio y byddwn ni’n gallu dechrau gweithio eto pan fydd y llywodraeth yn dechrau codi’r cyfyngiadau.
Mae llawer o gyfleoedd i gefnogi lleoedd natur lleol, a byddwn yn annog mwy fyth o bobl i gymryd rhan. Gall unigolion gysylltu â’u swyddog cymunedol lleol am ragor o wybodaeth.
Diolch am eich amser Louise!
Mae gwefan Gwirfoddoli Cymru’n hysbysebu amrywiaeth o gyfleoedd gwirfoddoli amgylcheddol ledled Cymru. Ewch i www.volunteering-wales.net am ragor o wybodaeth.
I ddysgu mwy am Emma Morgan a’i brwdfrydedd am yr amgylchedd, darllenwch flog Emma, Nuture Nature