Gwirfoddolwr Cartrefi Cymru yn Ymddiriedolaeth Coetir Cymunedol Llangatwg

Cydweithrediad ac adeiladu cymuned leol – fel Cartrefi Cymru

Cyhoeddwyd: 04/10/22 | Categorïau: Ar gyfer aelodau, Awdur: Glyn Meredith

Mae Glyn Meredith, Prif Swyddog Gweithredol newydd Cartrefi Cymru, yn amlinellu rôl y mudiad o ran dadlau dros unigolion ag anableddau dysgu ac yn amlygu’r cyfleoedd i weithio gyda’n gilydd i gyflawni nodau cyffredin.

Fy enw i yw Glyn Meredith, a fi yw Prif Swyddog Gweithredol newydd Cartrefi Cymru. Ers ymuno â’r mudiad ychydig dros ddeufis yn ôl, rwyf wedi fy synnu gan ehangder y cymorth rydyn ni’n ei gynnig i unigolion ag Anableddau Dysgu ar hyd a lled Cymru wrth weithio mewn 17 o’r 22 o awdurdodau lleol. Rydyn ni’n rhoi cymorth i unigolion ddatblygu annibyniaeth a chynhwysiant yn eu cartrefi eu hunain ac mewn cymunedau lleol ledled Cymru.

AMSER AM NEWID

Rwy’n gweithio gyda’r mudiad ar strategaeth newydd a fydd yn mynd gam ymhellach i gryfhau’r cymunedau lle mae’r bobl yr ydyn ni’n eu cefnogi’n byw, ac mae hyn yn datgelu swm aruthrol o waith anhygoel sydd ar droed sydd angen siarad amdano.

Mae’r unigolion hynny ag anableddau dysgu rydyn ni’n eu cefnogi yn dweud wrthym eu bod eisiau bod yn ddinasyddion gweithgar yn eu cymunedau, fel pob un ohonom ni, a’u bod yn awyddus i gefnogi a chryfhau’r gymuned y maen nhw’n byw ynddi. Mae hyn yn arwain at gyfleoedd go iawn i weithio gyda mudiadau eraill o’r trydydd sector a datblygu cydweithrediad a chydweithio.

Rydyn ni eisiau cynyddu ein cynnig y tu hwnt i’r bobl rydyn ni’n eu cynorthwyo yn eu cartrefi eu hunain, er mwyn cydweithio â darparwyr eraill a’r rheini yn ein cymunedau sydd angen cymorth ond heb gael asesiad ffurfiol.

CEFNOGI CYNHWYSIANT

Un rhan o’r strategaeth rydyn ni’n ei datblygu ym mudiad Cartrefi yw dull gweithredu wedi’i deilwra, lle gallwn ni gefnogi mudiadau eraill i fod yn fwy cynhwysol ac yn fwy hyderus o ran cydweithio ag unigolion ag anableddau dysgu a datgloi potensial anhygoel y bobl rydyn ni’n eu cefnogi a phobl anabl eraill yn ein cymunedau.

Bydd hyn nid yn unig yn adeiladu cymdeithas fwy cynhwysol, ond bydd hefyd yn helpu i adeiladu cymunedau mwy gwydn. Rydyn ni’n awyddus i ddatblygu cynnig hyfforddi ac ymgynghori gyda mudiadau eraill er mwyn galluogi pob unigolyn anabl i gael ei gynnwys a gweithio gyda’n gilydd ar brosiectau arloesol eraill.

ADEILADU DYFODOL

Dyma rai enghreifftiau o’r hyn rydyn ni’n ei wneud ar hyn o bryd, fel mudiad a thrwy gydweithio ag eraill:

  • Casglu sbwriel ar draethau
  • Datblygu gwarchodfeydd natur newydd mewn ardaloedd coedwigaeth nas ddefnyddir
  • Tyfu llysiau a phlanhigion ar randiroedd fel y gall pobl eraill gael budd o gynnyrch am ddim er mwyn cefnogi cymunedau gyda bwyd iach pan mae arian yn brinnach nag erioed gyda’r argyfwng costau byw
  • Gwneud a gwerthu dodrefn i’r ardd ac addurniadau. Ail-fuddsoddi’r elw i ddatblygu’r fenter ymhellach a chaniatáu i bobl eraill yn y gymuned gymryd rhan a dysgu sgiliau newydd. Rydyn ni wedi datblygu rhaglenni lles arloesol i’n staff sy’n ymwneud â dawnsio, mewn cydweithrediad â’r Cwmni Dawns Cenedlaethol
  • Cynnal nifer fawr o ddigwyddiadau codi arian er mwyn codi arian i elusennau eraill wneud gwaith gwych yn ein cymunedau
  • Datblygu mentrau cymdeithasol a galluogi pobl i wirfoddoli a dysgu sgiliau newydd a chynyddu cyfleoedd am gyflogaeth
  • Mae’r bobl rydyn ni’n eu cefnogi yn treulio swm aruthrol o oriau gwirfoddoli yr ydyn ni’n eu nodi ledled ein cymunedau

Nid yw’r rhestr hon yn hollgynhwysol, ac mae ein galwad i weithredu i fudiadau sydd eisiau bod yn fwy cynhwysol, cryfhau cymunedau a’n helpu ni i hybu annibyniaeth y bobl rydyn ni’n eu cefnogi, gan ofyn iddyn nhw gysylltu â ni fel y gallwn ni weithio gyda’n gilydd. Byddem wrth ein bodd clywed oddi wrthych a gweithio gyda chi yn y dyfodol.

Rydyn ni’n gwneud hyn drwy ddefnyddio technoleg a chynlluniau cymorth wedi’u teilwra ar gyfer y bobl rydyn ni’n eu cynorthwyo. Dim ond heddiw, rwyf wedi siarad â dyn ifanc sy’n dechrau ar hyfforddiant teithio fel ei fod yn barod i deithio i ffatri y mae eisiau gweithio ynddi, ac mae clywed y cyffro yn ei lais wrth sgwrsio â mi dim ond yn atgyfnerthu’r ffaith bod unigolion eisiau bod yn ddinasyddion gweithgar yn ein cymunedau.

Rydyn ni’n bwriadu gwneud mwy i gryfhau cymunedau lleol drwy bartneru â darparwyr eraill a mudiadau’r trydydd sector sy’n rhannu ein nodau strategol.

CEFNOGI’R GOFALWYR DI-DÂL

Maes arall allweddol rydyn ni’n ei ddatblygu yw sut gallwn ni gefnogi gofal lleol mewn cymunedau, helpu gofalwyr di-dâl lleol ac ategu’r cymorth y maen nhw’n ei roi i’w hanwyliaid. Gallai hyn fod mor syml â mynd â’r sbwriel allan neu fynd i wneud ychydig o siopa, ond mae’r bobl rydyn ni’n eu cefnogi eisiau helpu pobl eraill yn eu strydoedd a’u cymuned leol.

Gallai hyn wneud gwahaniaeth go iawn i dasgau bob dydd gofalwyr di-dâl. Caiff 96% o’r gofal yng Nghymru ei ddarparu gan ofalwyr di-dâl, ac mae angen i ni gefnogi ein gilydd fel gofalwyr a delir a gofalwyr di-dâl i fynd i’r afael â’r argyfwng rydyn ni’n ei wynebu o ran cyllido gofal cymdeithasol wrth fynd ymlaen, yn sgil cyllidebau sy’n lleihau a phoblogaeth sy’n heneiddio. Rydyn ni eisiau siarad mwy â mudiadau eraill ar y pwnc hwn.

RHAGOR O WYBODAETH

Diolch am ddarllen y blog hwn ac rwy’n gobeithio y byddwch chi’n cysylltu â ni drwy contacttheceo@cartrefi.coop.

Am ragor o wybodaeth am fudiad Cartrefi Cymru, ewch i https://www.cartrefi.coop.