Dyma ail ran ein cyfres gan enillydd Bwrsari Arweinyddiaeth Walter Dickie 2017, Steve Brooks, Cyfarwyddwr Cenedlaethol Sustrans Cymru. Yn blog hwn mae’n sôn am ei brofiad yn astudio ym Mhrifysgol Rhydychen fel rhan o’r bwrsari a enillodd, a sut i osgoi trapiau dwbl sgwrsio diddiwedd, a gweithio mewn seilos.
Rhaid i mi gyfaddef bod y syniad o dreulio amser ym Mhrifysgol Rhydychen wedi peri pryder i mi. A minnau wedi fy ngeni a’m magu ar un o’r ystadau mwyaf difreintiedig yn Lloegr, achosodd Rhydychen bwl arall o ‘syndrom cogiwr’ ynof. Gan fy mod wedi bod yn darllen am yr hyn sy’n ysgogi entrepreneuriaid yn y sector preifat, dilynais esiampl Richard Branson (‘screw it, just do it’) a mynd amdani.
Roedd fy nghwrs yn canolbwyntio ar iechyd a llesiant mewn trafnidiaeth, yn rhan o Raglen Arweinyddiaeth Rhydychen a gynhelir ar y cyd ag Ysgol Fusnes Rhydychen. Ar lefel sylfaenol, hanfod trafnidiaeth yw symud pobl a nwyddau o A i B, yn ddelfrydol yn y ffordd fwyaf diogel, effeithlon a chynaliadwy. Gall trafnidiaeth achosi a datrys problemau cymhleth, ac fel y rhan fwyaf o bynciau nid yw’n sefyll ar wahân i bynciau eraill megis darpariaeth iechyd, addysg, tai, datblygu economaidd a newid hinsawdd. Dros y pedwar diwrnod edrychais ar faterion amrywiol gan gynnwys sut y gall trafnidiaeth fynd i’r afael ag allgáu cymdeithasol mewn economïau datblygedig a datblygol; rôl cerdded a beicio yn sicrhau llesiant; sut mae’r sector iechyd cyhoeddus a’r sector trafnidiaeth wedi (neu ddim wedi) gweithio gyda’i gilydd yn hanesyddol; diogelwch ffyrdd; a chydraddoldeb, cyfiawnder cymdeithasol a symudedd.
Un seminar a ddaliodd fy sylw’n arbennig oedd un ynglŷn â chydraddoldeb rhywiol. Os hoffech newid y ffordd yr ydych yn meddwl am drafnidiaeth, darllenwch waith Emma Aldrich ar drafnidiaeth a marwolaethau ymysg mamau. Ymchwiliodd Emma i’r ffordd y mae cyfyngiadau ar symudedd yn effeithio ar iechyd a lles mamau yn Uganda. Mae mynediad menywod at drafnidiaeth yn Uganda wedi’i gyfyngu a’i reoli. Gall fod oedi wrth geisio mynd i gyfleuster meddygol ac efallai na fydd y math o drafnidiaeth yn ddiogel, gan gynyddu’r risg o farwolaeth. Fe wnaeth Emma ddyfynnu Margaret Greico (2005) a ddywedodd:
‘Nid yw’r gwahaniaethau rhwng patrymau teithio gwrywaidd a benywaidd a’r rheolau a’r rolau diwylliannol sy’n gysylltiedig â’r gwahaniaethau hyn wedi’u cofnodi’n ddigonol ym myd polisi. Nid oes enghraifft well o’r cyfyngiadau hyn nag yn narlun Affrica o farwolaethau ymysg mamau; mae cyfyngiadau ar symudedd ac ar yr adnoddau ar gyfer symudedd a hygyrchedd yn cael effaith andwyol ar iechyd menywod yn Affrica.’
Hyd yn oed ym Mhrydain rydym yn gosod cyfyngiadau ar symudedd i rai cymunedau. Rydym yn rhoi mwy o werth ar rai gweithgareddau, rhai siwrneiau a rhai dulliau teithio nag eraill; gan ddewis i ddylunio ein byd o amgylch y car. Fel y dadleuodd Dr Karen Lucas, mae hyn yn bwysig.
Mae 40% o bobl sy’n chwilio am waith yn dweud bod trafnidiaeth yn broblem wrth geisio cael swydd. Mae hanner oedolion ifanc mewn addysg yn ei chael yn anodd talu am gostau teithio. Mae 1.4 miliwn o bobl ym Mhrydain yn methu neu’n gwrthod apwyntiadau ysbyty oherwydd diffyg trafnidiaeth. Mae adeiladu mwy o ffyrdd a rhoi cymhorthdal i gerbydau trydan yn ddewis. Mae trwsio pafinau fel y gall pobl hŷn gerdded yn haws, a gwario arian ar drafnidiaeth gyhoeddus yn ddewis arall.
Roedd Rhydychen yn gyfle ardderchog i edrych o’r newydd ar hen broblemau. I f’atgoffa fy hun y byddai angen i Sustrans weithio y tu allan i’r bocs trafnidiaeth er mwyn creu newid ar lawr gwlad yng Nghymru. Mae lleihau defnydd diangen o geir a galluogi mwy o bobl i gerdded a beicio yn cynnig llawer o fuddion i drafnidiaeth, gan gynnwys llai o draffig a gwella diogelwch. Mae hefyd yn cynnig llawer o fuddion y tu allan i faes trafnidiaeth. Ond nid moeswers y stori yma yw y dylem ni gyd fabwysiadu’r pum ffordd o weithio yn Neddf Cenedlaethau’r Dyfodol a meddwl ‘dyna ni, mae’r gwaith wedi’i wneud’.
I lenwi’r bwlch darparu, mae angen i’r trydydd sector ffocysu a chydweithio, gan osgoi’r ddau begwn sef sgyrsiau diddiwedd â phartneriaid ac ysgrifennu cytundebau ar y naill law, a gweithio mewn seilos ar y llall. Efallai y gellid galw hyn ‘cydweithio ymarferol’.
Yn fy mlog nesaf soniaf am yr hyn a ddysgais am greu newid yn Copenhagen a sut y gellir rhoi’r gwersi hynny ar waith yng Nghymru.