Llun allanol o adeilad y Senedd Llywodraeth Cymru.

Cydweithio heb ffiniau – ailgysylltu Cymru ag Ewrop

Cyhoeddwyd: 28/03/25 | Categorïau: Dylanwadu, Awdur: Manon Hammond

Mae gan Gymru berthynas hirsefydlog ag Ewrop, yn enwedig o ran cyllid a chymdeithas sifil Ewropeaidd. Mae Manon Hammond, myfyriwr yn Genefa, yn disgrifio plymio i ddyfnderoedd gwleidyddiaeth Cymru ag Ewrop.

I DDECHRAU

Yng nghanol mis Chwefror, fe aethon ni i ganol mecanweithiau diplomyddol Llundain a Brwsel er mwyn archwilio i ddyfodol perthynas Cymru ag Ewrop, ac er mwyn ymestyn ein gorwelion ni fel pobl ifanc yn ystyried gyrfaoedd mewn gwleidyddiaeth.

Roedden ni’n griw amrywiol, tri’n astudio yn Aberystwyth, un yn Durham, a finnau yn Genefa. Nid Cymry oedd pawb chwaith, ac roedd yr amrywiaeth hynny mewn addysg, cefndiroedd, a diddordebau yn golygu nad oedd y drafodaeth byth yn pylu.

Rhwng Llundain a Brwsel buodd y trafodaethau’n digwydd, ac fe ddechreuodd y daith orlawn yn swyddfa Ysgrifennydd Gwladol Cymru yn San Steffan. Buon ni’n holi gwas sifil profiadol ynglŷn â Brexit, etholiadau’r Senedd flwyddyn nesaf, a’r ‘partnership in power’ rhwng y Senedd a San Steffan.

GWELD Y NEWYDDION FEL MAE’N DIGWYDD

Ymlaen wedyn i swyddfa’r Cabinet, lle buon ni’n ddigon ffodus i gwrdd â thri unigolyn ifanc a oedd yn fwy na pharod i drafod sut i ddechrau ar yrfa mewn polisi. Tu allan, roedd tractorau yn llenwi’r strydoedd a’u cyrn yn gyfeiliant i ffermwyr yn protestio yn erbyn newidiadau i bolisi treth etifeddiaeth.

Roedden ni’n gallu teimlo ein bod ni yng nghraidd gwleidyddol y wlad, yn gwylio’r digwyddiadau a fyddai’n straeon blaen papurau newydd y bore wedyn.

Wedi llwyddo i fynd o un pen y dyrfa i’r llall (a gweld Jacob Rees Mogg a Nigel Farage ar y daith, awgrym arall ein bod ni wir yng nghanol pethau) gorffennon ni ein diwrnod yn Europe House, lle gawsom drafod effeithiau Brexit a dyfodol perthynas Cymru, y DU, a’r UE.

Y bore wedyn, ar ôl taith gynnar ar yr Eurostar, fe gyrhaeddon ni ddinas Brwsel ar gyfer ail hanner y daith. Diwrnod a hanner oedd gyda ni i gael archwilio, sgwrsio, holi, a rhyfeddu, mewn amserlen orlawn go iawn!

Dechreuon ni mewn cyfarfod REX yn yr EESC, yn gwrando ar drafodaethau difyr ynglŷn â materion cyfredol megis obsesiwn Trump â’r Ynys Las a phwysigrwydd siarad a chyfieithu ieithoedd lleiafrifol mewn mudiadau fel yr EESC.

Wedyn, rhwng y Comisiwn, y Senedd, a’r EESC, cawsom ni gwrdd â chyfres o bobl ysbrydoledig. Fe drafodon ni faterion amaethyddol, gofal iechyd ar gyfer menywod, diwylliant, y rhyfel yn Wcráin, ac argyfyngau megis Cofid-19.

Roedd yna ddigon o bobl ifanc chwilfrydig, oedd yn fodlon cynnig cyngor i ni fel myfyrwyr, a’r rhai mwy profiadol yn llawn o’r un chwilfrydedd, yn destament i gynnwrf a natur newidiol gyrfa mewn gwleidyddiaeth ryngwladol.

DYFODOL CYMRU AR ÔL BREXIT

I ni, fel criw o Gymru, roedd cael ymweld â swyddfa Llywodraeth Cymru ym Mrwsel yn gyfle arbennig. Wrth gerdded drwy goridorau anhygoel y Comisiwn a’r Senedd, roedd hi’n anodd peidio teimlo’n rhwystredig fod Brexit wedi trechu ein cyfleoedd ni i fod yn rhan o’r byd hwnnw, ond, roedd cael gweld gwaith Llywodraeth Cymru ar blatfform rhyngwladol yn ailgynnau’r gobaith fod llwybrau diddorol i’w dilyn yma.

Rhaid gorffen â diolchiadau hollol haeddiannol, yn bennaf i Tom Jones, am drefnu’r daith ac am ein tywys ni. Roedd prysurdeb yr amserlen yn ganlyniad uniongyrchol o waith caled Tom a’r cydberthnasau gydol oes y gwnaeth eu hadeiladu pan oedd ym Mrwsel.

Diolch hefyd i Caroline Turner am ymuno â ni ac i William Parker a’r European Opportunities Fund am sicrhau fod y daith yn gallu mynd yn ei blaen. Ac yn olaf, un diolch mawr wedyn i bawb oedd yn fodlon cwrdd â ni a bwydo’n chwilfrydedd! Roedd eich cyngor chi oll yn fuddiol, a dwi’n amau na anghofiwn ni eich geiriau chi am amser hir iawn.