Grŵp o wirfoddolwyr yn plannu coeden mewn cae

Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant mewn gwirfoddoli

Cyhoeddwyd: 26/11/21 | Categorïau: Gwirfoddoli, Awdur: Korina Tsioni

Mae Korina Tsioni yn sôn am y rhwydwaith gwirfoddoli Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant newydd ac yn rhannu astudiaeth achos o Gonwy.

Rai misoedd yn ôl, dechreuodd tîm gwirfoddoli CGGC adeiladu rhwydwaith newydd o’r enw y rhwydwaith Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant mewn gwirfoddoli. Mae gennym ni 17 aelod gweithredol yn y grŵp ar hyn o bryd, y rhan fwyaf ohonynt yn grŵp amrywiol o bartneriaid allanol a dau ohonynt yn aelodau o staff CGGC.

Prif ddiben y grŵp yw;

  • Diffinio a chyfathrebu’r derminoleg allweddol a phwysigrwydd croestoriadedd
  • Sicrhau bod y gwaith rydyn ni’n ei wneud yn gynhwysol ac annog ein partneriaid sy’n cynnwys gwirfoddolwyr i wella’u harferion yn y maes hwn
  • Deall effaith cynhwysiant digidol a hyrwyddo mynediad digidol gwell
  • Sicrhau bod lleisiau allweddol yn cael eu clywed o fewn ein mannau ni ac ar blatfformau a ddarperir gan eraill
  • Amlygu a rhannu adnoddau a gwybodaeth sy’n gallu cefnogi ein harferion ni ac arferion rhanddeiliaid
  • Adnabod a chwarae ein rhan mewn dylanwadu ar y symudiadau cymdeithasol ehangach sydd eu hangen i greu cymdeithas fwy cyfartal a chynhwysol

Mae lle i ragor o aelodau yn y grŵp, felly cysylltwch â ni os oes gennych chi ddiddordeb drwy anfon e-bost at ktsioni@wcva.cymru

ADNODDAU AR WIRFODDOLI AC AMRYWIAETH

Un o’r pethau rydyn ni wedi llwyddo i’w wneud yn ddiweddar yw adolygu a chyhoeddi’r ddwy daflen wybodaeth hyn y gellir eu gweld ar blatfform Cefnogi Trydydd Sector Cymru.

Mae rhai taflenni gwybodaeth eraill perthnasol ar y platfform, fel Cynnwys gwirfoddolwyr ifanc, Cynnwys gwirfoddolwyr ag anghenion cymorth ychwanegol, Hysbysebu cyfleoedd gwirfoddoli yn ddwyieithog a llawer mwy.

Mae croeso i chi ddefnyddio a rhannu neu hyrwyddo’r adnoddau hyn yn eang. Mae llawer o’r taflenni gwybodaeth yn cael eu hadolygu ar hyn o bryd, felly rhowch wybod i ni os hoffech awgrymu unrhyw ddiwygiadau neu gyfraniadau.

Mae rhai o’n haelodau wedi rhannu astudiaethau achos da gyda ni, sy’n dangos y gwaith ardderchog sydd yn barod wedi’i gyflawni mewn rhai mudiadau. Isod rhennir un enghraifft a ddarparwyd gan ein cymheiriaid yng Nghymorth Cymunedol a Gwirfoddol Conwy (CVSC):

Steve Pugh, Astudiaeth achos Gwirfoddolwr Medi 2019

Ar ôl rhyw 12 neu 13 mlynedd yn y maes rheoli manwerthu, roeddwn i’n wirioneddol eisiau newid fy ngyrfa ac eisiau gwneud mwy â hyfforddiant a datblygu hwn ymhellach. Trwy wirfoddoli a chyflwyno hyfforddiant ar wasanaethau cwsmeriaid gydag CVSC, fe wnes i fagu hyder i wneud y newid hwn, a gwnaeth i mi hefyd gredu y gallwn ni ei wneud.

Pan ddechreuais i wirfoddoli gydag CVSC, roeddwn i hefyd yn gwirfoddoli gyda nifer o fudiadau, ac un o’r rhain oedd Crest. Ar ôl gweld yr hyn yr oeddwn i’n gallu ei wneud,  gwnaeth Crest gynnig swydd i mi o fewn y mudiad. Nawr, rwy’n hyfforddwr PTTLS achrededig yn gweithio’n amser llawn i Crest a hefyd yng ngofal yr isadran fanwerthu. Dechreuodd hyn i gyd drwy wirfoddoli gydag CVSC.

Trwy gymryd y cam hwn ar fy llwybr gyrfaol, mae’r cydbwysedd sydd gennyf rhwng bywyd a gwaith filiynau o weithiau’n well nag o’r blaen. Rwy’n gallu gweld fy ngwraig mwy nag erioed a dw’i erioed wedi bod yn hapusach yn fy ngyrfa.

Gwnaeth y tîm gwirfoddoli roi’r cyfle i mi ddatblygu fy sgiliau a rhoi’r hyder a’r cymorth i mi ddilyn llwybr gyrfa newydd. Gyda help y tîm yn CVSC, gwnaethant fy rhoi mewn cysylltiad â mudiadau y gallwn ni weithio gyda nhw – ac mae un o’r rhain wedi fy nghyflogi nawr ar lefel uwch.

I fi, roedd hi’n fater o ‘Freuddwydio, Credu, Cyflawni’

Bûm i’n ddigon ddewr i freuddwydio am newid gyrfa. Roedd gen i CVSC yn gefn i mi a oedd yn credu ynof i. A nawr rwyf mewn gyrfa newydd. Edrychwch ar yr hyn rwyf wedi’i gyflawni!

OES GENNYCH CHI STORI I’W HADRODD?

Rhannwch unrhyw astudiaethau achos cadarnhaol yr hoffech chi i ni eu cynnwys yn y diweddariad Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant (EDI) a gwirfoddoli nesaf y byddwn ni’n ei gyhoeddi.