Bydd siarter newydd am gydberthnasau rhwng gweithwyr cyflogedig a gwirfoddolwyr yn cael ei lansio cyn hir gan CGGC a TUC Cymru. Mae Fiona Liddell yn ystyried pam mae angen dogfen o’r fath.
Rwyf i’n credu’n gryf mewn gwirfoddoli a’i botensial i wella gwasanaethau cyhoeddus. Ond os ydy rhywun yn gofyn i mi am y berthynas rhwng gweithwyr cyflogedig a gwirfoddolwyr, fi fydd y cyntaf i gyfaddef ei fod weithiau, ‘yn gymhleth’!
Does dim byd newydd yn y syniad cyffredinol o ddefnyddio gwirfoddolwyr i ddarparu gwasanaethau cyhoeddus; mae rolau gwirfoddol fel ynadon, llywodraethwyr ysgol a chwnstabliaid gwirfoddol wedi’u hen sefydlu.
Heddiw, mae gwirfoddolwyr yn gweithio gyda staff cyflogedig ym maes iechyd a gofal, addysg, cyfiawnder troseddol, chwaraeon, celfyddydau a threftadaeth, ac yn cyfrannu at wead y gwasanaethau cyhoeddus rydym ni’n eu cymryd yn ganiataol.
Mae gwersi i’w dysgu a all ein helpu i ddod o hyd i drefniant sy’n cynnal cydbwysedd iach, yn mynd i’r afael ag anghenion gwirfoddolwyr, gweithwyr cyflogedig a’r achosion maen nhw’n eu gwasanaethu, yn ogystal ag osgoi’r ffynonellau mwyaf cyffredin o gamddealltwriaeth a drwgdeimlad.
Gwersi i’w dysgu
1. Diffinio rolau gwirfoddolwyr a rolau staff cyflogedig yn glir
Mae NCVO wedi tynnu sylw at rai o’r problemau sy’n gysylltiedig â chydberthnasau gwirfoddolwyr – gweithwyr cyflogedig o fewn sefydliadau’r sector cyhoeddus, yn ei adroddiad diweddar Time Well Spent: volunteering in the Public Sector.
Roedd archwilwyr wedi edrych ar is-set data ar gyfer 649 o wirfoddolwyr ledled Prydain a oedd wedi dweud eu bod nhw’n rhoi help llaw yn ddi-dâl i sefydliad y gwasanaeth cyhoeddus yn ystod y 12 mis diwethaf.
Roedd gwirfoddolwyr yn fodlon â’u rôl ar y cyfan (ond llawer yn llai na gwirfoddolwyr mewn sefydliadau trydydd sector). Fodd bynnag, mae un maes o rwystredigaeth yn ymwneud ag eglurder rhwng rolau staff a gwirfoddolwyr, a’r ffiniau rhyngddynt.
Doedd dim problemau pan oedd gweithwyr cyflogedig a gwirfoddolwyr yn gweithio ochr yn ochr â’i gilydd a’r rolau neu’r tasgau’n wahanol. Ond pan fyddant yn gweithio ar rolau tebyg neu pan fydd gwirfoddolwyr yn ymgymryd â gwaith a oedd yn arfer cael ei wneud gan staff, gwelwyd effaith negyddol ar gydberthnasau yn y gweithle, gyda morâl isel staff a diffyg ymddiriedaeth mewn gwirfoddolwyr. O dan amgylchiadau o’r fath efallai bydd staff yn teimlo bod gwirfoddolwyr yn fygythiad.
Gall gwirfoddolwyr, yn eu tro, deimlo’n anfodlon os ydy’r disgwyliadau yn rhy uchel, er enghraifft gydag oriau penodol, trefniadau ffurfiol, targedau i’w cyrraedd; mae’r holl beth yn dechrau teimlo ‘yn rhy debyg i waith cyflogedig’, ond heb y tâl!
Yn ganolog i lwyddiant yw cael gweledigaeth glir o’r rhesymau pam y defnyddir gwirfoddolwyr a sut mae hynny’n cysylltu â phwrpasau strategol ehangach y sefydliad. Gallai fod yn wybodaeth am y gymuned leol, profiad uniongyrchol penodol, cynrychiolaeth ddemograffig ehangach neu safbwynt ‘lleyg’ annibynnol sy’n bwysig.
Efallai bod angen perthynas ddynol hyblyg a chefnogol, sy’n mynd y tu hwnt i rôl ddiffiniedig a dan bwysau’r gweithwyr cyflogedig. Dylai sefydliad (a’i staff a gwirfoddolwyr) allu dweud pam fod rôl neu dasg benodol yn fwyaf addas ar gyfer gwirfoddolwyr, a pham ei bod hi’n well i weithwyr cyflogedig ymgymryd â rôl neu dasg arall.
2. Peidiwch â defnyddio gwirfoddolwyr i arbed arian
Daw hyn â ni at ail ‘fan peryglus’ – dod â gwirfoddolwyr i mewn fel ymateb i doriadau ariannol. Mae’r rhesymeg yn ddealladwy, (os oes prinder adnoddau a’r gwirfoddolwyr ‘am ddim’….) ond mae’n ddiffygiol. I ddechrau, os oes prinder staff, mae hyn yn debygol o greu ffiniau aneglur rhwng rolau cyflogedig a rolau gwirfoddolwyr, oherwydd bod pwysau ar wirfoddolwyr i ‘lenwi’r bwlch’ mewn rhyw ffordd – gyda’r canlyniadau a nodwyd uchod.
Yn ail, efallai nad oes digon o adnoddau i ddarparu hyfforddiant a chefnogaeth ddigonol, sy’n hanfodol i wirfoddolwyr gyflawni’r rolau a ddisgwylir ohonynt. Yn olaf, bydd morâl isel ymysg staff yn effeithio ar wirfoddolwyr, a byddant naill ai’n teimlo’n euog am nad ydynt yn gallu gwneud mwy i helpu, neu’n teimlo’n annifyr am eu bod nhw rywsut ‘ar y ffordd’ ac yn ychwanegu at bwysau staff, neu wedi syrffedu â delio â chanlyniadau tymer ddrwg pobl eraill.
Yn gyffredinol, mae gwirfoddolwyr wedi ymrwymo’n gadarn i’r gwaith maen nhw’n ei wneud, ac yn cael eu hysgogi gan y syniad o wneud gwahaniaeth cadarnhaol. Os bydd unrhyw beth yn rhwystro hynny, gallant gerdded i ffwrdd, ac maen nhw weithiau’n gwneud hynny! Yr effaith ar gydberthnasau yn y gweithle yn sgil hynny yw atgyfnerthu canfyddiad ymysg staff nad oes modd dibynnu ar wirfoddolwyr.
3. Meithrin diwylliant lle gall gwirfoddoli ffynnu
Mae Ymchwil NCVO a nodwyd yn ein hatgoffa bod meithrin cydberthnasau cadarnhaol yn y gweithle rhwng gweithwyr cyflogedig a gwirfoddolwyr yn fwy na dim ond ffiniau a chyfeiriad strategol. Mae hefyd yn bwysig meithrin diwylliant lle gall gwirfoddoli ffynnu, gydag ymrwymiad gan wahanol randdeiliaid, cynnwys gwirfoddolwyr mewn cyfarfodydd neu ddigwyddiadau cymdeithasol perthnasol fel rhan o’r tîm, a chyd-barch.
Mae’r ymchwil Time Well Spent wedi nodi a chrynhoi’r ffactorau sy’n creu profiad gwirfoddoli o safon – mae’r rhain, at ei gilydd, yn cael eu diwallu drwy ddatblygu gwirfoddoli yn unol â’r arferion a nodwyd yn safon ansawdd Buddsoddi mewn Gwirfoddolwyr.
Gwirfoddoli yn y dyfodol
Mae’r potensial yn fawr o ran cynnwys gwirfoddolwyr mewn ffordd arloesol, effeithiol ac sydd o fudd i bawb ac ni ddylem adael i’r heriau cynhenid rwystro hynny.
Mae gwasanaethau cyhoeddus yn cael eu trawsnewid yng Nghymru o ganlyniad i ddeddfwriaeth newydd, galw cynyddol ac ymwybyddiaeth gynyddol o’r angen i ddefnyddio’r holl adnoddau sydd ar gael, i gael yr effaith orau bosibl. Mae’n gyfle i ailystyried rôl gwirfoddoli (mae papur CGGC Gwirfoddoli a Gwasanaethau Cyhoeddus yng Nghymru yn trafod rhai o’r cyfleoedd a bygythiadau).
Mae gwirfoddolwyr, er enghraifft, mewn sefyllfa dda i gyfrannu at y gwasanaethau cyhoeddus rywfaint o’r caredigrwydd sydd mewn perygl o gael ei wasgu allan. Mae Julia Unwin yn dadlau yn ei hadroddiad Kindness, emotions and human relationships: the blind spot in public policy ‘…three huge drivers in public policy – the technological power to manage information, the digital power to manage communication, and the economic force of austerity – have made it ever more important that we look carefully at the role of emotions, and kindness in public policy.’
Ein gobaith yw y bydd y siarter newydd yn annog trafodaeth am gyfraniad gwirfoddoli yn ein gwasanaethau cyhoeddus (waeth mor eang mae wedi’i ddiffinio) a datblygiad diwylliannau a systemau sefydliadol sy’n ei alluogi i ffynnu.
Lawrlwythwch y ddogfen newydd Siarter cydberthnasau gwirfoddoli a’r gweithle: egluro a chryfhau’r cydberthnasau rhwng gweithwyr cyflogedig a gwirfoddolwyr.
Bydd y Siarter yn cael ei lansio’n ffurfiol gan CGGC a TUC Cymru ar 3 Mawrth 202 guda Jane Hutt AS, Dirprwy Brif Weinidog a’r Prif Chwip. Ebostiwch Fiona Liddell fliddell@wcva.cymru am wahoddiad.
Fiona Liddell yw Rheolwr Helpforce Cymru gyda CGGC
Mae Helpforce yn gweithio gyda Cefnogi Trydydd Sector Cymru (CGGC a 19 CGS), Llywodraeth Cymru a phartneriaid eraill i ddatblygu’r potensial o wirfoddoli i gefnogi gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru.
Cysylltwch â Fiona Liddell am ragor o wybodaeth Fliddell@wcva.cymru 029 2043 1730