Y Diwrnod Rhyngwladol Cŵn Tywys hwn, mae Nathan Foy, Rheolwr Prosiect yn Guide Dogs Cymru, yn datgelu sut gwnaeth marwolaeth ei gi tywys, Mason, effeithio arno ef fel rhiant a sut gwnaeth Joey, y ci tywys newydd, newid popeth.
STORI NATHAN
Rwy’n ddall ac yn rhiant i ddau blentyn ifanc. Cefais fy nghi tywys cyntaf pan oeddwn yn fy arddegau, ac o’r cychwyn cyntaf, rwyf wedi gofyn i bob un o’m cŵn tywys wneud amrywiaeth enfawr o bethau, gan gynnwys fy helpu i rianta.
Gwnaeth Covid effeithio ar bob un ohonom ni mewn ffyrdd gwahanol, ac yn ystod y cyfnod hwn, aeth fy nghi tywys, Mason, yn ddifrifol wael a marw. Ni allai Guide Dogs hyfforddi partneriaethau ar eu cyflymder arferol, ac roedd 1,000 o bobl eraill eisoes yn aros i gael eu paru.
Bu’r ddwy flynedd nesaf yn anodd mewn ffyrdd sy’n anodd i mi eu hegluro i bobl nad ydynt wedi teimlo effaith adfywiol cael ci tywys fel partner. Gallaf ymddiried yn fy nghansen hir, wrth gwrs – mae wedi achub fy mywyd mwy nag unwaith, ac wedi fy helpu i osgoi ymweliadau â’r adran damweiniau ac achosion brys fwy o weithiau na charaf ddweud – ond roedd rhan fawr o’r darlun ar goll.
Nathan allan am dro gyda Joey
CEFNOGAETH GAN GUIDE DOGS CYMRU
Roedd hi’n anodd aros am gi newydd, er fy mod yn cael cymorth gan y tîm Guide Dogs Cymru lleol. Aeth y byd o’m hamgylch yn llawer llai, felly roeddwn dim ond yn gwneud y pethau a oedd yn bosibl i mi. Golygai’r cyfyngiadau hefyd na allwn fod y rhiant roeddwn am fod, ac roedd hynny’n anodd i mi ei dderbyn.
Ar brydiau, roeddwn yn dibynnu ar fy mhlant i’m helpu i weld, ac roeddwn hyd yn oed yn gwrthod gwneud pethau os nad oeddent gyda mi. Heb fy ngwraig a’i chymorth diddiwedd (ynghyd â’i golwg hyfryd a’i char cysurus!), ni fyddem wedi gallu dod i ben.
Pan rydych chi’n colli eich partner ci tywys o dan amgylchiadau trasig, a’ch bywyd yn dod yn llawer llai a mwy cyfyngedig, mae’n anochel y byddwch chi’n galaru am bwy a beth rydych wedi’i golli. Roeddwn i’n cael yr un freuddwyd am yr holl geir a oedd wedi parcio ar balmentydd ger fy nhŷ yr oeddwn yn parhau i gerdded i mewn iddynt gyda’m cansen hir. Yn fy mywyd go iawn, roedd y gwrthdrawiadau hyn yn fy ngwanhau, gan ddod â dicter i’r wyneb. Mae hwn yn berygl arall y bydd partner ci tywys yn eich helpu i osgoi. Dechreuais feddwl, pe bai’r dyn cryf, Geoff Capes, yn ddall, a fyddai’n gwthio’r ceir o’r neilltu ac yn eu taflu allan o’i ffordd?
Bûm mewn rhigol am ddwy flynedd, ond ychydig cyn y Nadolig, dechreuais ddod allan o’r perfeddion. Cefais fy mharu â Joey, ci bach prin 18 mis oed. Rwy’n ddiolchgar i’r gwirfoddolwyr a wnaeth ei fagu a’i faethu, a osododd sylfeini’r ci tawel ac ymlaciedig y byddai’n datblygu i fod.
YMLAEN DDAETH JOEY
Gyda’m dau gi tywys blaenorol, bu’n rhaid i mi wneud dwy daith gerdded ‘brawf’ i sicrhau eu bod nhw’n iawn i mi, ond nid felly a fu gyda Joey. Wir i chi, o fewn 400 medr, roeddwn i’n gwybod ei fod yn mynd i weithio. Roeddwn i’n gwybod y byddai fy mywyd yn saff gyda’r ci bach hwn. Aethom am dro’r eilwaith, a oedd yn daith llawer hirach gyda mwy o heriau ar y strydoedd a llwybr y byddwn yn ei ddilyn wrth gerdded i’n swyddfa ni. Pan dreuliodd Joey ei noson gyntaf gyda ni, roedd yn her i’m mhlant gofio peidio â’i gofleidio’n rhy dynn! Nid yw pob anrheg Nadolig yn dod mewn papur lapio.
Nathan, Joey a’r teulu
Pan rydych chi’n dechrau gweithio gyda chi tywys newydd, rydych chi’n siarad ieithoedd gwahanol. Mae angen i chi ddysgu cyfathrebu â symudiadau eich corff ac mae hynny’n cymryd amser, ailadrodd, ymroddiad a phenderfyniad. Gwnaeth Emily, yr hyfforddwr, ein tywys drwy’r wythnosau cyntaf hynny’n fedrus hyd nes y cyrhaeddom ni safon i gymhwyso a dod yn gyfreithlon ar y stryd.
Gwelais y gwahaniaeth ar unwaith. Roeddwn wedi treulio dwy flynedd anodd mewn argyfwng hunaniaeth, perchennog ci tywys heb gi tywys. Roedd fel golygfa mewn ffilm lle y caiff rhywun frechiad adrenalin i mewn i’w galon. Cymhwysais yn union cyn gwyliau hanner tymor yr ysgol a threuliais y 10 diwrnod cyntaf yn gwneud beth bynnag roeddwn i eisiau gyda fy nheulu, heb unrhyw gyfyngiadau. Roeddwn yn ôl yn byw bywyd, gan lenwi’r hanner tymor gyda chymaint â phosibl o weithgareddau hwyl.
Unwaith y dychwelais i’r gwaith, y teithiau yn ôl ac ymlaen i’r ysgol a’r drefn arferol, sylweddolais fy mod bellach yn byw’n annibynnol eto. Mae’n teimlo fel petawn ni wedi bod yn gweithio gyda Joey ers blynyddoedd yn hytrach nag wythnosau. Rwy’n gallu gwneud yr hyn sydd angen i mi ei wneud gartref, yn y gwaith ac yn fy amser hamdden. Ond rwy’n dal i feddwl, tybed a fyddai Geoff Capes dall yn taflu ceir wedi’u parcio ar balmentydd drosodd…?
GWYBODAETH BELLACH
Am ragor o wybodaeth, ewch i Guide Dogs Cymru.