Dau fenyw yn edrych ar waith gwerthuso ar laptop tu fas

Cwestiynau Syml:  Fframwaith newydd ar gyfer diwylliant gwerthuso cynaliadwy pobl-ganolog

Cyhoeddwyd: 28/10/20 | Categorïau: Gwybodaeth a chymorth, Awdur: Mike Corcoran

Mike Corcoran, Arbenigwr Gwerthuso gyda Rhwydwaith Cydgynhyrchu Cymru, yn cyflwyno Fframwaith Gwerthuso newydd Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru, ‘Cwestiynau Syml’.

Mae gwerthuso’n anodd.

 

Mae’n anodd pan fo amser yn brin, a’r galw am adnoddau’n ddiderfyn.

Mae’n anodd pan fo llu o opsiynau’n cystadlu â’i gilydd, heb ddim ffordd amlwg o ddewis rhyngddynt.

Mae’n anodd pan fo’r bwlch rhwng theori ac ymarfer i’w weld yn amhosib ei bontio.

Mae’n anodd gwybod ble i gychwyn.

 

Mae pob un o’r heriau hyn yn cynnig peryglon mawr.

Pan fyddwn dan bwysau ac yn methu gwybod beth i’w wneud nesaf, mae perygl inni droi’n ôl at ‘y ffordd rydyn ni wastad wedi gwneud pethau’, neu yn waeth fyth, gicio’r tun i lawr y ffordd. Gallwn golli golwg ar y rhesymau sylfaenol pam rydym yn gwerthuso, a mynd drwy’r camau yn fecanyddol, a hynny’n golygu ein bod yn diystyru’r effaith (neu ddiffyg effaith) a gaiff ein gwerthusiad ar y bobl rydym yn ceisio’u cefnogi.

Dyma ein hateb – ailgysylltu â’r cwestiynau syml sydd wrth wraidd y broses werthuso – ein fframwaith gwerthuso Cwestiynau Syml.

Yn gyntaf ac yn bennaf oll, pwrpas gwerthuso yw datblygu dealltwriaeth ddyfnach o’r hyn rydym yn ei wneud, er mwyn gallu ei wneud yn well. Gall hyn gynnwys llunio setiau data manwl gywir, astudiaethau annibynnol ac adroddiadau ffurfiol, ond nid dyna’r man cychwyn. Dylid dechrau’r gwerthusiad drwy ofyn cwestiynau syml a sylfaenol i ni’n hunain, i’n cydweithwyr ac i bawb rydym yn eu cefnogi wrth gomisiynu, cynllunio a chyflwyno ein gwasanaethau.

Ond beth ddylai’r cwestiynau hynny fod, sawl un sydd yna, a pha mor aml y dylen ni eu gofyn? Awgrymwn y dylid dechrau drwy feddwl am bedwar peth allweddol y dylai pob gwerthusiad roi gwybodaeth inni amdanynt. Dyma nhw:

  1. Pwy rydyn ni’n gweithio gyda nhw?
  2. Beth rydyn ni’n ei wneud i’w cefnogi?
  3. Sut mae ein cefnogaeth yn effeithio ar eu bywydau?
  4. Pam rydyn ni’n gwneud hyn?

Ochr yn ochr â hynny, dylem fyfyrio ar bum peth allweddol a ddylai fod yn rhan o bob gwerthusiad da:

  1. Cymryd stoc: gweld beth sy’n digwydd yn y fan a’r lle, rŵan hyn.
  2. Newid: herio confensiwn a hwyluso dysgu a datblygu yn barhaol.
  3. Estyn allan: gan ganolbwyntio ar wella pethau i bawb, a hynny gyda charedigrwydd a chydymdeimlad.
  4. Hunan-ofal: diogelu ein hiechyd a’n lles ni’n hunain, yn ogystal ag eraill.
  5. Myfyrio: gwneud y cysylltiad rhwng yr hyn sydd o’n blaen a’r darlun ehangach.

Rhowch hyn i gyd at ei gilydd ac fe gewch chi 20 cyfuniad, a lle i 20 o gwestiynau syml i gymryd y cam cyntaf ar eich taith werthuso.

Isod, awgrymwn beth allai’r 20 cwestiwn hyn fod ac un ffordd o fyfyrio arnynt – un cwestiwn y dydd dros gyfnod cylchol o 4 wythnos – ond y peth pwysig yw gofyn y cwestiynau hyn fel mater o drefn, ac mewn ffordd sy’n gweithio i chi, eich sefydliad a’r bobl rydych chi’n eu cefnogi.

 

WYTHNOS 1: PWY WYTHNOS 2: BETH WYTHNOS 3: SUT WYTHNOS 4: PAM
CYMRYD STOC

LLUN

Pwy sydd yma? Beth sy’n digwydd? Sut gyrhaeddon ni yma? Pam rydw i’n siarad?
NEWID

MAWRTH

Pwy sydd ddim yma? Beth sydd bwysicaf? Sut mae pethau wedi newid? Pam na wnawn ni rywbeth gwahanol?
ESTYN ALLAN

MERCHER

Pwy alla i ei helpu? Beth rwyt ti ei eisiau? Sut wyt ti? Pam rwyt ti yma?
HUNAN-OFAL

IAU

Pwy all fy helpu i? Beth rydw i ei eisiau? Sut ydw i? Pam rydw i yma?
MYFYRIO

GWENER

Pwy sy’n malio am hyn? Beth yw’r peth gorau a ddigwyddodd yr wythnos yma? Sut allwn ni sicrhau bod yfory’n well na ddoe? Pam rydyn ni’n gwneud hyn?

‘Fframwaith Gwerthuso Cwestiynau Syml’ Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru

Dechreuwch drwy fyfyrio ar y cwestiynau hyn (a chwestiynau tebyg) ar eich pen eich hun, gyda’ch tîm, neu gyda’r rhai rydych chi’n eu cefnogi. Gofynnwch nhw’n naturiol a pheidiwch â phoeni’n ormodol a ydych chi’n ‘ei wneud e’n iawn’. Nesaf, arbrofwch gyda’r gwahanol ffyrdd y gellir gofyn pob cwestiwn. Defnyddiwch gwestiynau weithiau fel myfyrdodau preifat, weithiau fel eitemau ar agenda cyfarfodydd tîm, ac weithiau trowch gwestiynau’n weithgareddau cynhwysfawr gyda chynulleidfaoedd amrywiol – byddwch yn barod i gael hwyl gyda nhw.

Wedyn, dechreuwch ystyried yr agweddau gwerthuso sylfaenol y mae pob cwestiwn yn cyfateb iddyn nhw – wrth ofyn eich cwestiynau syml, byddwch yn coleddu agweddau ar Ymholiad Gwerthfawrogol, Dysgu Gweithredol, Newid Mwyaf Sylweddol, a mwy – defnyddiwch nhw fel ffordd i mewn i’r agweddau hyn, gan ddatblygu eich gwybodaeth ac ehangu eich ymarfer yn organig dros amser. Yn olaf, sicrhewch fod strwythurau yn eu lle i ganiatáu gofyn y cwestiynau hyn i gyd yn rheolaidd ac yn barhaus – a byddwch wedi cymryd camau breision tuag at ddiwylliant gwerthuso newydd, cynaliadwy, pobl-ganolog.

Ym mis Mai, fe wnaethom argymell y ‘7 Cwestiwn Syml’ pwysicaf mewn adegau o argyfwng. Mae ein hadnodd newydd bellach yn rhoi cyflwyniad manwl i bob un o’r rhain, gan gynnwys awgrymiadau am y ffyrdd y gellir gofyn pob un, yr agweddau gwerthuso y mae pob cwestiwn yn cyfateb iddyn nhw, a’r canllawiau a’r ffynonellau gwybodaeth dibynadwy sy’n helpu rhoi’r agweddau hyn ar waith. Yn ystod y misoedd nesaf caiff yr adnodd hwn ei ehangu, gan ddarparu canllawiau manwl ac astudiaethau achos i ategu gweithrediad ein 20 Cwestiwn Syml. Tanysgrifiwch i’r Cylchlythyr Ennyn Effaith i gael y newyddion diweddaraf.

Pa un o’n cwestiynau syml sy’n sefyll allan i chi? Rhannwch eich meddyliau drwy ein dilyn ni ar Twitter, gan ddefnyddio’r hashnod #CwestiynauSyml.

Mae Mike Corcoran yn gweithio gyda sefydliadau ledled Cymru a thros y byd gan roi cyngor ar ymgysylltu ac effaith. Mae’n aelod cyswllt tymor hir o Rwydwaith Cydgynhyrchu Cymru ac arweiniodd y gwaith o ddatblygu arf gwerthuso’r Rhwydwaith, ‘Mesur yr Hyn sy’n Bwysig’ a fframwaith gwerthuso Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru, ‘Cwestiynau Syml’.